Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Diben y datganiad hwn yw darparu ystadegau amserol ar nifer a nodweddion y staff sy'n gweithio mewn practisau cyffredinol ar draws Cymru.

Cyflwynir ystadegau ar gyfer gwahanol fathau o swyddi yn ôl nifer yr unigolion a’r nifer cyfwerth ag amser llawn. Mae cyfrif nifer yr unigolion (cyfrif pennau) yn golygu, os yw person yn gweithio ar draws sawl practis, mai dim ond unwaith y caiff ei gyfrif. Mae’r nifer cyfwerth ag amser llawn yn cyfrif nifer yr oriau y mae staff wedi’u contractio i’w gweithio, gydag un cyfwerth ag amser llawn yn cyfateb i 37.5 awr yr wythnos.

Mae'r datganiad hwn hefyd yn cynnwys dadansoddiad o feddygon teulu a staff eraill y practis yn ôl oedran, rhyw, ethnigrwydd a sgiliau yn y Gymraeg. Cyhoeddir tablau data ychwanegol ar StatsCymru.

Prif ffynhonnell y data yw System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru (WNWRS). Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Crynodeb

Mae nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau) sy'n gweithio mewn practisau cyffredinol ledled Cymru wedi aros ar lefel weddol debyg o gymharu â'r un chwarter y llynedd. Dim ond ar gyfer y pedwar chwarter diweddaraf y mae data cyfwerth ag amser llawn ar gael ac mae'n dangos tuedd fach ar i lawr.

Contractau parhaol a phatrwm oriau rhan-amser oedd gan y rhan fwyaf o feddygon teulu. Roedd y rhan fwyaf yn bartneriaid neu'n ddarparwyr, er bod nifer y partneriaid neu ddarparwyr wedi gostwng 1.3% ers yr un chwarter y llynedd.

Yn y chwarter hyd at 30 Medi 2022, roedd y sesiynau locwm a gofnodwyd drwy Locum Hub Wales yn cyfrif am 5.6% o’r cyfanswm cyfwerth ag amser llawn ar gyfer meddygon teulu cwbl gymwysedig. Mae hyn yn golygu bod 94.4% o'r oriau contract yn y chwarter ar gyfer meddygon teulu parhaol.

Mae nifer y cofrestryddion yn parhau i gynyddu'n sydyn, gyda 72 (neu 16.9%) yn fwy o gofrestrwyr ym mis Medi 2022 nag ym mis Medi 2021.

Roedd bron i un meddyg teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau) ar gyfer pob 1,300 o bobl yng Nghymru neu, o ddefnyddio ffigurau cyfwerth ag amser llawn, bron i un meddyg teulu ar gyfer pob 2,000 o bobl yng Nghymru.

Parhaodd y duedd o gyfran gynyddol o feddygon teulu benywaidd; roedd mwy na hanner (54.3%) y meddygon teulu cwbl gymwysedig yn fenywod. Ar gyfer pob meddyg teulu gwrywaidd a ymunodd â'r gweithlu yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2022, roedd bron i ddau feddyg teulu benywaidd a ymunodd hefyd.

Mae mwy o amrywiaeth ethnig ymhlith meddygon teulu cwbl gymwysedig o gymharu â phoblogaeth gyffredinol Cymru. Roedd 17.4% o feddygon teulu cwbl gymwysedig o gefndiroedd du, Asiaidd neu gefndir ethnig leiafrif arall.

Roedd dau o bob tri meddyg teulu cwbl gymwysedig o dan 50 oed, gyda mwy na 3% yn 65 oed neu'n hŷn. 

Roedd nifer yr aelodau staff eraill mewn practisau (nad ydynt yn feddygon teulu) hefyd wedi aros ar lefel debyg i'r un cyfnod y llynedd, fymryn yn is na'r nifer ym mis Mehefin 2022, sef y nifer uchaf i gael ei gofnodi. Parhaodd nifer y staff sy'n ymwneud â gofal uniongyrchol i gleifion (megis cynorthwywyr gofal iechyd, cyflenwyr meddyginiaeth a fferyllwyr) i gynyddu, tra parhaodd nifer y nyrsys a staff gweinyddol heb lawer o newid.

Roedd mwy na 9 o bob 10 o aelodau staff eraill practisau yn fenywod ac mae gan aelodau staff eraill practisau broffil oedran hŷn na meddygon teulu, gydag ychydig dros hanner aelodau staff eraill practisau yn 50 oed neu'n hŷn.

Mae aelodau staff eraill practisau yn llai amrywiol o ran ethnig na phoblogaeth gyffredinol Cymru, gyda llai na 3% o aelodau staff eraill practisau o gefndiroedd du, Asiaidd neu gefndir ethnig leiafrifol arall.

Dywedodd un o bob deg o'r holl staff a gyflogir ym maes ymarferol meddygol (gan gynnwys meddygon teulu ac aelodau staff eraill practisau) eu bod yn siarad Cymraeg i safon uwch neu hyfedr.

Ym mis Ionawr 2023, roedd ychydig dros 21,000 o gleifion wedi’u cofrestru â phractisau meddygon teulu yng Nghymru a oedd yn byw yn Lloegr, ac ychydig dros 13,000 o gleifion wedi’u cofrestru â phractisau meddygon teulu yn Lloegr a oedd yn byw yng Nghymru.

Prif bwyntiau

Yng Nghymru, ar 30 Medi 2022, roedd:

  • 386 o bractisau meddygon teulu yn weithredol
  • 2,347 o feddygon teulu cwbl gymwysedig, sef 1,542 (neu 65.7%) cyfwerth ag amser llawn o’r cyfanswm pennau; mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon cyflogedig, ymarferwyr wrth gefn a staff locwm gweithredol yn unig
  • 498 o gofrestryddion mewn practis cyffredinol (meddygon teulu dan hyfforddiant) sef 446 (neu 89.5%) cyfwerth ag amser llawn
  • 7,972 o staff eraill y practis (nad ydynt yn feddygon teulu) sef 5,778 (neu 72.5%) cyfwerth ag amser llawn

Ar ôl dadansoddi yn ôl mathau penodol o feddygon teulu a grwpiau o staff, roedd:

  • 1,974 o feddygon teulu, sef 1,445 (neu 73.2%) cyfwerth ag amser llawn. Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig yn unig
  • 26 o feddygon teulu wrth gefn, sef 10 (neu 38.8%) cyfwerth ag amser llawn
  • 474 o feddygon teulu locwm, sef 86 (neu 18.2%) cyfwerth ag amser llawn. Ni chaiff staff locwm eu cyfrif oni bai eu bod yn weithredol a bod contractau wedi'u cofnodi ar eu cyfer yn system Locum Hub Wales rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2022
  • 1,419 o nyrsys cofrestredig, sef 1,023 (neu 72.1%) cyfwerth ag amser llawn
  • 1,310 o staff gofal uniongyrchol i gleifion (gan gynnwys staff sy’n gweithio fel cynorthwywyr gofal iechyd, cyflenwyr meddyginiaeth a fferyllwyr), sef 920 (neu 70.3%) cyfwerth ag amser llawn
  • 5,314 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill, sef 3,835 (neu 72.2%) cyfwerth ag amser llawn

Meddygon teulu cwbl gymwysedig

Ceir diffiniadau llawn o’r mathau o feddygon teulu yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg. Yn yr adran hon dim ond data ar gyfer meddygon teulu sydd â chontractau fel partner, darparwr, meddyg teulu cyflogedig, meddyg teulu wrth gefn neu feddyg teulu locwm sydd wedi’u cynnwys. Nid yw meddygon teulu locwm ond yn cael eu cyfrif pan oeddent yn weithredol yn y chwarter ac yr oedd ganddynt gontractau a gofnodwyd drwy Locum Hub Wales.

Os oes gan feddyg teulu fwy nag un math o gontract, dim ond unwaith y caiff ei gyfrif fel 'meddyg teulu cwbl gymwysedig' ond caiff yr holl oriau eu cyfrif tuag at y rhif cyfwerth ag amser llawn.

Mae cyfwerth ag amser llawn yn cyfateb i 37.5 awr, neu 9 sesiwn o 4.167 awr, yr wythnos ar gyfer meddygon teulu cwbl gymwysedig. Os caiff un meddyg teulu cwbl gymwysedig gontract i weithio mwy na 37.5 awr, bydd ei rif cyfwerth ag amser llawn yn fwy nag 1.

Ffigur 1: Nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig, cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn [Nodyn 1], 30 Mehefin 2021 i 30 Medi 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart bar sy'n dangos bod nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau) wedi bod yn sefydlog ar y cyfan ar gyfer y chwe chwarter diwethaf, ond bod tuedd fach, tymor byr ar i lawr ar gyfer meddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru

[Nodyn 1] Mae data cyfwerth ag amser llawn ar gael o 31 Rhagfyr 2021 ymlaen. Mae'r nifer cyfwerth ag amser llawn yn debygol o fod yn amcangyfrif ychydig yn isel gan nad yw nifer bach o feddygon teulu wedi cofnodi unrhyw oriau contract nac oriau gwaith. Ym mis Medi 2022, roedd hyn yn effeithio ar 5 contract meddyg teulu.

Nifer yr ymarferwyr cyffredinol a gyflogir mewn practisau cyffredinol, yn ôl y math o ymarferydd cyffredinol a’r bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod 2,347 o feddygon teulu cwbl gymwysedig yn gweithio yng Nghymru ar 30 Medi 2022. Mae hyn yn gynnydd bach (2.0%) ers y chwarter blaenorol, ond yn ostyngiad bach (1.3%) o'r un chwarter y llynedd.

Roedd 1,542 o feddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn ar 30 Medi 2022. Mae hyn yn cyfateb i 65.7% o'r cyfanswm cyfrif pennau yn gweithio oriau amser llawn. Gostyngodd nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn 1.3% ers y chwarter blaenorol. Ni ellir cymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol gan nad oedd data cyfwerth ag amser llawn ar gael tan fis Rhagfyr 2021.

O ystyried meddygon teulu parhaol, cwbl gymwysedig yn unig (gan gynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig a meddygon teulu wrth gefn ond ac eithrio meddygon teulu locwm), roedd 2,000 o feddygon teulu unigol wedi'u contractio i weithio, sef 1,455 o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn, neu 72.8% o'r cyfanswm cyfrif pennau. Mae’r nifer cyfrif pennau wedi gostwng 3.2% ers yr un chwarter yn y flwyddyn flaenorol.

Ffigur 2: Cyfran y meddygon teulu cwbl gymwysedig yn ôl math o feddyg teulu, 30 Medi 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siartiau cylch sy’n dangos bod y rhan fwyaf o feddygon teulu cwbl gymwysedig (contractau) yn bartneriaid neu’n feddygon teulu locwm. Mae cyfran y meddygon teulu sydd â chontractau partner neu gontractau cyflogedig yn fwy pan gaiff ei mesur yn ôl nifer cyfwerth ag amser llawn gan fod y meddygon teulu hyn yn debygol o fod â chontract ag oriau hirach na meddygon teulu locwm a meddygon teulu wrth gefn.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales

[Nodyn 1] Mae nifer y contractau'n wahanol i'r nifer cyfrif pennau sydd mewn mannau eraill yn y cyhoeddiad hwn, gan y gallai un meddyg teulu fod â mwy nag un math o gontract.

Nifer yr ymarferwyr cyffredinol a gyflogir mewn practisau cyffredinol, yn ôl y math o ymarferydd cyffredinol a’r bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Roedd bron i hanner (46.2%) y contractau meddygon teulu cwbl gymwysedig ar gyfer partneriaid. Roedd hyn yn cynyddu i dros saith o bob deg (73.5%) pan gaiff ei fesur yn ôl nifer cyfwerth ag amser llawn.

Roedd bron i un o bob chwech (16.4%) o gontractau meddygon teulu cwbl gymwysedig ar gyfer meddygon teulu cyflogedig. Roedd hyn yn cynyddu i ychydig dros un o bob pump (20.3%) pan gaiff ei fesur yn ôl nifer cyfwerth ag amser llawn.

Ychydig iawn o gontractau meddygon teulu wrth gefn sydd bob blwyddyn yng Nghymru, ac roedd meddygon teulu wrth gefn yn cyfrif am 0.8% o gyfanswm y contractau a 0.7% o'r nifer cyfwerth ag amser llawn ar gyfer meddygon cwbl gymwysedig yn y cyfnod diweddaraf.

Mae hyn yn golygu bod gan 94.4% o feddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn gontractau parhaol yn y cyfnod diweddaraf.

Roedd dros un o bob tri (36.6%) o'r contractau meddygon teulu cwbl gymwysedig ar gyfer meddygon teulu locwm, ond roedd meddygon teulu locwm fel arfer yn gweithio oriau rhan-amser ac yn cyfrif am bron i un o bob ugain (5.6%) o'r meddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn.

Ffigur 3: Meddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn [Nodyn 1] am bob 10,000 o'r boblogaeth [Nodyn 2] yn ôl bwrdd iechyd lleol, 30 Medi 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart bar sy'n dangos bod nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn am bob 10,000 o'r boblogaeth yn amrywio rhwng 4.6 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a 6.3 ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru, amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2021)

[Nodyn 1] Mae'r nifer cyfwerth ag amser llawn yn debygol o fod yn amcangyfrif ychydig yn isel gan nad yw nifer bach o feddygon teulu wedi cofnodi unrhyw oriau contract nac oriau gwaith. Ym mis Medi 2022, roedd hyn yn effeithio ar 5 contract meddyg teulu.

[Nodyn 2] Yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2021 gan nad oedd data 2022 ar gael adeg cyhoeddi. Bydd data'n cael eu diwygio gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2022 yn y datganiad ystadegol nesaf.

Meddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn fesul 10,000 o'r boblogaeth, yn ôl bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru)

Ar 30 Medi 2022, roedd 5.0 meddyg teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn am bob 10,000 o'r boblogaeth yng Nghymru. Roedd nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn am bob 10,000 o'r boblogaeth yn gymharol debyg ar draws yr holl fyrddau iechyd heblaw Bwrdd Iechyd Addysgu Powys lle’r oedd 6.3 meddyg teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn am bob 10,000 o’r boblogaeth.

Meddygon teulu yn ôl math o gontract

Gellir categoreiddio meddygon teulu yn ôl y mathau o gontract sydd ganddynt. Mae diffiniadau ar gyfer pob math o feddyg teulu wedi'u cynnwys yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Os oes gan feddyg teulu gontractau lluosog o fewn yr un math, byddant yn cael eu cyfrif unwaith yn y nifer o’r math hwnnw ond bydd pob awr yn cael ei chyfrif yn y cyfanswm cyfwerth ag amser llawn.

Os oes gan feddyg teulu gontractau lluosog o wahanol fathau, byddant yn cael eu cyfrif unwaith yn y nifer ar gyfer pob math a bydd yr oriau ar gyfer pob math o gontract yn cael eu cynnwys yn y nifer cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y math perthnasol o gontract yn unig.

Oherwydd hyn, mae nifer y 'meddygon teulu cwbl gymwysedig' cyfwerth ag amser llawn yn hafal i’r swm cyfwerth ag amser llawn ar gyfer partneriaid/darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a meddygon teulu locwm. Fodd bynnag, nid yw’r cyfanswm cyfrif pennau yn hafal i gyfanswm y gwahanol fathau o feddygon teulu.

Ffigur 4: Cyfrif pennau a nifer cyfwerth ag amser llawn [Nodyn 1] yn ôl y math o feddyg teulu, 30 Mehefin 2021 i 30 Medi 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siartiau llinell sy'n dangos mai newidiadau gweddol fach sydd wedi bod yn y rhan fwyaf o fathau o feddygon teulu o ran cyfrif pennau a’r nifer cyfwerth ag amser llawn, ond bod nifer y cofrestryddion wedi cynyddu’n sylweddol dros y gyfres amser.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales, Cofnod Staff Electronig y GIG

[Nodyn 1] Mae'r nifer cyfwerth ag amser llawn yn debygol o fod yn amcangyfrif ychydig yn isel gan nad yw nifer bach o feddygon teulu wedi cofnodi unrhyw oriau contract nac oriau gwaith. Ym mis Medi 2022, roedd hyn yn effeithio ar 5 contract meddyg teulu.

[Nodyn 2] Y contract safonol ar gyfer cofrestrydd yw 40 awr yr wythnos, felly mae'r nifer cyfwerth ag amser llawn yn seiliedig ar wythnos 40 awr, tra mae’r nifer cyfwerth ag amser llawn ar gyfer pob meddyg teulu arall yn seiliedig ar 37.5 awr yr wythnos.

[Nodyn 3] Caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif os oedd unrhyw waith wedi'i gofnodi drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar ddyddiad y ciplun yn unig. Ar gyfer yr holl fathau eraill o feddygon teulu, mae'n seiliedig ar y nifer cyfrif pennau a’r nifer cyfwerth ag amser llawn ar ddyddiad y ciplun.

Nifer yr ymarferwyr cyffredinol a gyflogir mewn practisau cyffredinol, yn ôl y math o ymarferydd cyffredinol a’r bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Roedd y rhan fwyaf o feddygon teulu ar 30 Medi 2022 yn bartneriaid, gyda chyfanswm o 1,459 o unigolion a nifer cyfwerth ag amser llawn o 1,133. Mae nifer y meddygon teulu sy’n bartneriaid wedi gostwng 1.3% ers mis Medi 2021, ond mae’r nifer cyfwerth ag amser llawn wedi cynyddu ychydig ers i ddata cyfwerth ag amser llawn ddechrau cael eu casglu ym mis Rhagfyr 2021.

Roedd 516 o feddygon teulu cyflogedig (cyfrif pennau) a oedd fel arfer wedi’u contractio i lai o oriau na phartneriaid, a’r nifer cyfwerth ag amser llawn oedd 312. Mae nifer y meddygon teulu cyflogedig (cyfrif pennau) wedi gostwng 8.2% ers mis Medi 2021 ac mae’r nifer cyfwerth ag amser llawn hefyd wedi gostwng ers i ddata cyfwerth ag amser llawn ddechrau cael eu casglu ym mis Rhagfyr 2021.

Roedd 474 o feddygon teulu locwm, a oedd â chontractau wedi'u cofnodi ar Locum Hub Wales, ac roedd y rhain yn gweithio cyfwerth ag 86 o swyddi amser llawn. Mae nifer y meddygon teulu locwm (cyfrif pennau) wedi cynyddu 3.9% ers mis Medi 2021, tra mae’r nifer cyfwerth ag amser llawn wedi gostwng ers i ddata cyfwerth ag amser llawn ddechrau cael eu casglu ym mis Rhagfyr 2021.

Ni fydd unrhyw waith locwm nad oedd wedi’i gofnodi ar Locum Hub Wales yn cael ei gyfrif yn y data hyn. Gall hyn gynnwys gwaith locwm mewn practisau a reolir gan fyrddau iechyd.

Mae nifer y cofrestryddion wedi cynyddu'n sydyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd 498 o gofrestryddion, sef 446 cyfwerth ag amser llawn. Mae'r nifer cyfrif pennau wedi cynyddu 16.9% ers yr un cyfnod y llynedd, a 30.4% ers yr un cyfnod ddwy flynedd yn ôl. Gan fod y mwyafrif helaeth o gofrestryddion wedi’u contractio i oriau amser llawn, mae’r newid dros amser yn y nifer cyfwerth ag amser llawn yn debyg i’r nifer cyfrif pennau.

Mae data yn StatsCymru hefyd yn dangos bod 41 o hyfforddeion F2 (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) ym mis Medi 2022.

Nodweddion meddygon teulu cwbl gymwysedig

Mae'r adran hon yn cynnwys data am feddygon teulu sydd â chontractau fel partner, darparwr, meddyg teulu cyflogedig, meddyg teulu wrth gefn neu locwm yn unig.

Ffigur 5: Meddygon teulu cwbl gymwysedig [Nodyn 1], cyfrif pennau a nifer cyfwerth ag amser llawn, yn ôl rhyw, 30 Medi 2022 [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siartiau cylch sy'n dangos bod mwy o feddygon teulu cwbl gymwysedig benywaidd na gwrywaidd pan gânt eu mesur yn ôl cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn.  

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales

[Nodyn 1] Ni chyflwynir data ond pan gofnodwyd bod staff yn ddynion neu’n fenywod. Y rhyw a gofnodwyd ar gyfer 118 (neu 5%) o feddygon teulu oedd ‘arall/anhysbys’. Gan nad ydym yn gallu gwahanu'r ddau gategori hyn, nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y siartiau nac yn yr enwadur yn y cyfrifiadau canrannol.

[Nodyn 2] Caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif os oedd unrhyw waith wedi'i gofnodi drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2022 yn unig. Ar gyfer yr holl fathau eraill o feddygon teulu, mae'n seiliedig ar y nifer cyfrif pennau a’r nifer cyfwerth ag amser llawn ar 30 Medi 2022.

Meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Roedd bron i chwech o bob deg (58.0%) o’r meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau) yn fenywod; roedd 42.0% yn ddynion.

Roedd nifer y meddygon teulu benywaidd cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn yn 54.3%, sef 3.6 pwynt canran yn is na'r cyfanswm cyfrif pennau; ar gyfer dynion, roedd y nifer cyfwerth ag amser llawn yn 45.7%, sef 3.6 pwynt canran yn uwch na'r cyfanswm cyfrif pennau. Mae hyn yn golygu bod gan feddygon teulu gwrywaidd oriau contract hirach na menywod fel arfer.

O grynhoi’r holl oriau contract ar gyfer pob meddyg teulu, roedd 90.8% o feddygon teulu benywaidd yn rhan-amser (wedi’u contractio i lai na 37.5 awr yr wythnos), o gymharu â 78.2% o feddygon teulu gwrywaidd.

Ffigur 6: Meddygon teulu cwbl gymwysedig [Nodyn 1], cyfrif pennau, yn ôl oedran [Nodyn 2] a rhyw, 30 Medi 2022 [Nodyn 3]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart bar sy’n dangos bod crynodiad uwch o feddygon teulu benywaidd iau nag o rai gwrywaidd iau a chrynodiad uwch o feddygon teulu gwrywaidd hŷn nag o rai benywaidd hŷn.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales

[Nodyn 1] Nid yw'r rhyw a/neu'r oedran yn hysbys ar gyfer 7% o feddygon teulu cwbl gymwysedig. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn feddygon teulu locwm ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn Ffigur 6.  

[Nodyn 2] Roedd nifer bach o achosion lle newidiodd oedran unigolyn o fwy nag un o chwarter i chwarter cyn 30 Medi 2022.

[Nodyn 3] Caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif os oedd unrhyw waith wedi'i gofnodi drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2022 yn unig. Ar gyfer yr holl fathau eraill o feddygon teulu, mae'n seiliedig ar y nifer cyfrif pennau a’r nifer cyfwerth ag amser llawn ar 30 Medi 2022.

Meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau) yn ôl band oedran a bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Roedd cyfran y meddygon teulu benywaidd ar ei huchaf mewn grwpiau oedran iau ond yn gostwng mewn grwpiau oedran hŷn.

O'r meddygon teulu cwbl gymwysedig, yr oedd eu hoedran a’u rhyw yn hysbys, hyd at 49 oed, roedd bron i ddau o bob tri (64.3%) yn fenywod. Yn y grŵp oedran 50 i 59, roedd ychydig dros hanner (53.6%) yn fenywod. Roedd mwyafrif y meddygon teulu (70.1%) yn y grŵp 60 oed neu hŷn yn ddynion.

Roedd 6.5% o'r holl feddygon teulu, yr oedd eu hoedran a’u rhyw yn hysbys, rhwng 60 a 64 oed, a 3.2% yn 65 oed neu'n hŷn.

Ffigur 7: Nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig [Nodyn 1], cyfrif pennau, yn ôl ethnigrwydd, 30 Medi 2022 [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart bar sy'n dangos y cofnodwyd bod mwyafrif mawr o feddygon teulu cwbl gymwysedig mewn grwpiau ethnig gwyn, ac ar ôl hynny daeth y grŵp Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig eraill, y grŵp Du neu Ddu Prydeinig, a grwpiau ethnig cymysg.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales

[Nodyn 1] Nid oedd yr ethnigrwydd yn hysbys ar gyfer 16% o feddygon teulu cwbl gymwysedig. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn feddygon teulu locwm ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr enwadur yn y cyfrifiad canrannol o’r grwpiau ethnigrwydd hysbys.

[Nodyn 2] Caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif os oedd unrhyw waith wedi'i gofnodi drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2022 yn unig. Ar gyfer yr holl fathau eraill o feddygon teulu, mae'n seiliedig ar y nifer cyfrif pennau a’r nifer cyfwerth ag amser llawn ar 30 Medi 2022.

Meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau) yn ôl ethnigrwydd ar StatsCymru

Roedd ychydig dros wyth o bob deg (neu 82.6%) o feddygon teulu cwbl gymwysedig o gefndir ethnig gwyn. Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig oedd y grŵp ethnig mwyaf o ran meddygon teulu o gefndir ethnig leiafrifol (12.7% o'r holl feddygon teulu).

Mae mwy o amrywiaeth ethnig o fewn meddygon teulu nag yn y boblogaeth gyffredinol yng Nghymru. Mae 17.4% o feddygon teulu o gefndiroedd Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol. Amcangyfrifir bod 5.1% o bobl sy’n byw yng Nghymru o gefndiroedd Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol (y flwyddyn a ddaeth i ben fis mis Mehefin 2022, Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (StatsCymru)).

Ffigur 8: Sgiliau siarad Cymraeg meddygon teulu cwbl gymwysedig [Nodyn 1] (cyfrif pennau), 30 Medi 2022 [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart cylch sy’n dangos nad oedd gan fwyafrif mawr o feddygon teulu cwbl gymwysedig unrhyw sgiliau siarad Cymraeg.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales

[Note 1] Nid yw'r sgiliau siarad Cymraeg yn hysbys ar gyfer 31% o feddygon teulu cwbl gymwysedig. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn feddygon teulu locwm ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr enwadur yn y cyfrifiad canrannol o’r categorïau iaith Gymraeg hysbys.

[Note 2] Caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif os oedd unrhyw waith wedi'i gofnodi drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2022 yn unig. Ar gyfer yr holl fathau eraill o feddygon teulu, mae'n seiliedig ar y nifer cyfrif pennau a’r nifer cyfwerth ag amser llawn ar 30 Medi 2022.

Sgiliau a gallu Cymraeg meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau) yn ôl bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Dywedodd un o bob deg (10.7%) o feddygon teulu cwbl gymwysedig fod ganddynt sgiliau siarad Cymraeg ar lefel uwch neu hyfedr. Dywedodd un o bob ugain (4.9%) fod ganddynt sgiliau siarad Cymraeg ar lefel mynediad i ganolradd, tra dywedodd y rhan fwyaf (84.4%) nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg o gwbl.

Mae canran y meddygon teulu ddywedodd fod ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg yn is na’r ganran ym mhoblogaeth gyffredinol Cymru. Yn ôl amcangyfrifon ar sail cyfrifiad 2021 (StatsCymru) roedd 17.8% o bobl Cymru yn gallu siarad Cymraeg, ac amcangyfrifodd yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (StatsCymru) fod gan 29.7% o bobl Cymru rai sgiliau siarad Cymraeg ym Mehefin 2022.

Staff eraill y practisau

Er mwyn darparu gwasanaethau gofal sylfaenol, mae meddygon teulu'n gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol eraill a gyflogir mewn practisau meddygon teulu gan gynnwys nyrsys, fferyllwyr, rheolwyr, gweinyddwyr ac eraill sy'n ymwneud â gofal uniongyrchol i gleifion. Mae'r adran hon yn darparu data ar nifer y staff a gyflogir mewn mathau eraill o swyddi mewn practisau meddygon teulu.

Fel yn achos meddygon teulu cwbl gymwysedig, mae un cyfwerth ag amser llawn yn cyfateb i gontract o 37.5 awr yr wythnos. Os yw aelod o staff wedi'i gontractio i weithio mwy na 37.5 awr, bydd ei rif cyfwerth ag amser llawn yn fwy nag 1.

Os oedd gan berson gontractau lluosog yn yr un practis neu mewn gwahanol bractisau, dim ond unwaith y byddai’n cael ei gyfrif yn y cyfanswm cyfrif pennau, ond byddai'r holl oriau contract yn cael eu cyfrif yn y rhif cyfwerth ag amser llawn.

Ffigur 9: Nifer staff eraill y practisau, cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn [Nodyn 1], 31 Mawrth 2020 i 30 Medi 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart bar sy'n dangos bod y duedd tymor hwy o nifer cynyddol o staff eraill practisau wedi gwastatáu dros y pedwar chwarter diwethaf.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru

[Nodyn 1] Mae data cyfwerth ag amser llawn yn dechrau o 31 Rhagfyr 2021 ymlaen. Nid oes unrhyw oriau contract nac oriau gwaith wedi'u cofnodi ar gyfer nifer bach o staff eraill practisau. Felly, bydd y rhif cyfwerth ag amser llawn yn amcangyfrif ychydig yn isel.

Nifer y staff eraill yn y practis a gyflogir mewn practisau cyffredinol, yn ôl categori staff a’r bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Casglwyd data cyfrif pennau cymaradwy ar gyfer staff eraill practisau am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2020 ac roedd nifer y staff wedi bod â thuedd ar i fyny hyd at fis Mehefin 2021. Ers hynny, mae'r nifer cyfrif pennau wedi aros ar lefel debyg, sef ychydig o dan 8,000.

Ar 30 Medi 2022, roedd 7,972 o staff eraill practisau yn cael eu cyflogi mewn practisau cyffredinol. Roedd hyn yn ostyngiad bach iawn (0.1%) ers y chwarter blaenorol (30 Mehefin 2022), ond yn gynnydd bach (0.6%) ers yr un dyddiad y llynedd (30 Medi 2021).

Casglwyd data cyfwerth ag amser llawn cymaradwy ar gyfer staff eraill practisau am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2021. Roedd 5,778 o staff eraill practisau cyfwerth ag amser llawn ar 30 Medi 2022, sydd heb newid llawer o gymharu â’r 3 chwarter blaenorol. Mae hyn yn cyfateb i 72.5% o'r cyfanswm cyfrif pennau yn gwneud gwaith amser llawn, ac yn ganran debyg i feddygon teulu parhaol cwbl gymwysedig.

Ffigur 10: Staff eraill y practisau, cyfwerth ag amser llawn [Nodyn 1], am bob 10,000 o'r boblogaeth [Nodyn 2] yn ôl bwrdd iechyd lleol, 30 Medi 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart bar sy'n dangos bod y nifer cyfwerth ag amser llawn o staff eraill practisau am bob 10,000 o'r boblogaeth yn amrywio rhwng byrddau iechyd.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru, amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2021)

[Nodyn 1] Nid oes unrhyw oriau contract nac oriau gwaith wedi'u cofnodi ar gyfer nifer bach o staff eraill practisau. Felly, bydd y rhif cyfwerth ag amser llawn yn amcangyfrif ychydig yn isel.

[Nodyn 2] Yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2021 gan nad oedd data 2022 ar gael adeg cyhoeddi. Bydd data'n cael eu diwygio gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2022 yn y datganiad ystadegol nesaf.

Staff eraill cyfwerth ag amser llawn mewn practisau, fesul 10,000 o'r boblogaeth, yn ôl bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Ar 30 Medi 2022, y ffigur ar gyfer staff eraill y practisau oedd 18.6 cyfwerth ag amser llawn am bob 10,000 o'r boblogaeth yng Nghymru. Roedd hyn yn amrywio yn ôl bwrdd iechyd, o 29.5 ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys i 15.4 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Grwpiau staff eraill y practisau

Gellir categoreiddio staff eraill y practisau yn ôl grwpiau staff. Cyhoeddir data ar fathau o swyddi ym mhob grŵp staff yn StatsCymru.

Pan fydd gan unigolyn fwy nag un contract o fewn yr un grŵp staff, unwaith y caiff ei gyfrif yn y nifer cyfrif pennau ond caiff yr holl oriau contract eu cyfrif yn y rhif cyfwerth ag amser llawn.

Pan fydd gan unigolyn gontractau lluosog o dan wahanol grwpiau staff, caiff ei gyfrif yn y nifer cyfrif pennau ar gyfer pob grŵp staff a chaiff ei oriau contract eu cyfrif yn y niferoedd cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y grŵp staff cysylltiedig yn unig.

Ffigur 11: Cyfrif pennau a nifer cyfwerth ag amser llawn [Nodyn 1] yn ôl grwpiau staff eraill y practis, 31 Mawrth 2020 i 30 Medi 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siartiau llinell sy'n dangos bod gan y rhan fwyaf o grwpiau staff eraill practisau duedd weddol gyson dros y 6 chwarter diwethaf ar gyfer y nifer cyfrif pennau a’r nifer cyfwerth ag amser llawn.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru

[Nodyn 1] Mae data cyfwerth ag amser llawn yn dechrau o 31 Rhagfyr 2021 ymlaen. Nid oes unrhyw oriau contract nac oriau gwaith wedi'u cofnodi ar gyfer nifer bach o staff eraill practisau. Felly, bydd y rhif cyfwerth ag amser llawn yn amcangyfrif ychydig yn isel.

Nifer y staff eraill yn y practis a gyflogir mewn practisau cyffredinol, yn ôl categori staff a’r bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru)

Ar 30 Medi 2022, roedd y tri grŵp o staff eraill y practis yn gweithio cyfran weddol debyg o oriau amser llawn, o gymharu â'r cyfanswm cyfrif pennau ar gyfer eu grwpiau.

Roedd 1,419 o nyrsys yn gweithio'r hyn sy'n cyfateb i 1,023 o oriau cyfwerth ag amser llawn. Mae hyn yn 72.1% o'r cyfanswm cyfrif pennau ar gyfer nyrsys.

Roedd ychydig llai o staff gofal uniongyrchol i gleifion na nyrsys (1,310). Roedd y staff hyn hefyd yn gweithio llai o oriau cyfwerth ag amser llawn na nyrsys (920). Mae hyn yn cyfateb i 70.3% o'r cyfanswm cyfrif pennau.

Y grŵp staff mwyaf oedd staff gweinyddol/anghlinigol, gyda 5,314 o unigolion, ychydig yn llai na dwbl y cyfanswm cyfrif pennau cyfunol ar gyfer nyrsys a staff gofal uniongyrchol i gleifion. Roedd staff gweinyddol yn gweithio 3,835 o oriau cyfwerth ag amser llawn, neu 72.2% o'r cyfanswm cyfrif pennau.

Nodweddion nyrsys, staff gofal uniongyrchol i gleifion a staff gweinyddol/anghlinigol

Ffigur 12: Nyrsys [Nodyn 1] (cyfrif pennau a nifer cyfwerth ag amser llawn [Nodyn 2]), yn ôl rhyw, 30 Medi 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siartiau cylch sy'n dangos bod mwyafrif mawr o nyrsys (y nifer cyfrif pennau a’r nifer cyfwerth ag amser llawn) yn fenywod.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru

[Nodyn 1] Ni chyflwynir data ond pan gofnodwyd bod staff yn ddynion neu’n fenywod. Y rhyw a gofnodwyd ar gyfer 11 (neu 1%) o nyrsys oedd ‘arall/anhysbys’. Gan nad ydym yn gallu gwahanu'r ddau gategori hyn, nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y siartiau nac yn yr enwadur yn y cyfrifiadau canrannol.

[Nodyn 2] Nid oes unrhyw oriau contract nac oriau gwaith wedi'u cofnodi ar gyfer nifer bach o staff eraill practisau. Felly, bydd y rhif cyfwerth ag amser llawn yn amcangyfrif ychydig yn isel.

Staff eraill y practisau (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Roedd 28 gwaith cymaint o nyrsys benywaidd â nyrsys gwrywaidd yn cael eu cyflogi mewn practisau cyffredinol ar 30 Medi 2022. Mae canran y staff benywaidd cyfwerth ag amser llawn ychydig yn llai na'r cyfanswm cyfrif pennau, gan fod gan nyrsys gwrywaidd oriau contract hirach fel arfer.

Ffigur 13: Nifer y nyrsys, cyfrif pennau [Nodyn 1], yn ôl oedran [Nodyn 2] a rhyw, 30 Medi 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart bar sy’n dangos bod nifer y nyrsys benywaidd yn cynyddu’n gyffredinol gydag oedran hyd at tua 60 mlwydd oed. Roedd y nifer bach o nyrsys gwrywaidd wedi’u dosbarthu ar draws y rhan fwyaf o grwpiau oedran.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru

[Nodyn 1] Nid yw'r rhyw’n hysbys ar gyfer 1% o nyrsys. Nid yw’r nyrsys hyn wedi’u cynnwys yn Ffigur 13.

[Nodyn 2] Roedd nifer bach o achosion lle newidiodd oedran unigolyn o fwy nag un o chwarter i chwarter cyn 30 Medi 2022.

Staff eraill y practisau (cyfrif pennau) yn ôl band oedran a bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Staff eraill y practisau (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Mae nifer y nyrsys benywaidd yn amrywio'n fawr yn ôl oedran, gyda chrynodiadau uwch o nyrsys benywaidd mewn grwpiau oedran hŷn. Roedd llai nag un o bob ugain (4.3%) o nyrsys benywaidd yn 29 oed neu'n iau; roedd 41.5% rhwng 30 a 49 oed; tra oedd dros hanner (54.2%) yn 50 oed neu’n hŷn.  

Er mai nifer bach o nyrsys gwrywaidd oedd, wedi’u dosbarthu ar draws ystod eang o oedrannau, roedd crynodiad bach o nyrsys gwrywaidd rhwng 45 a 54 oed.

Roedd 14.8% o'r holl nyrsys, yr oedd eu hoedran a’u rhyw yn hysbys, rhwng 60 a 64 oed, a 4.5% yn 65 oed neu'n hŷn. Roedd bron pob nyrs dros 60 oed yn fenywod.

Ffigur 14: Staff gofal uniongyrchol i gleifion [Nodyn 1] (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn [Nodyn 2]), yn ôl rhyw, 30 Medi 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 14: Siartiau cylch sy'n dangos mai benywaidd oedd y rhan fwyaf o’r cyfanswm cyfrif pennau a’r nifer cyfwerth ag amser llawn ar gyfer staff gofal uniongyrchol i gleifion.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru

[Nodyn 1] Ni chyflwynir data ond pan gofnodwyd bod staff yn ddynion neu’n fenywod. Y rhyw a gofnodwyd ar gyfer 1 cyflogai gofal uniongyrchol i gleifion oedd ‘arall/anhysbys’. Gan nad ydym yn gallu gwahanu'r ddau gategori hyn, nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y siartiau nac yn yr enwadur yn y cyfrifiadau canrannol.

[Nodyn 2] Nid oes unrhyw oriau contract nac oriau gwaith wedi'u cofnodi ar gyfer nifer bach o staff eraill practisau. Felly, bydd y rhif cyfwerth ag amser llawn yn amcangyfrif ychydig yn isel.

Staff eraill y practisau (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Roedd naw o bob deg (90.1%) o staff gofal uniongyrchol i gleifion yn fenywod. Roedd cyfran y menywod cyfwerth ag amser llawn ychydig yn is na'r nifer cyfrif pennau (1.1 pwynt canran) gan fod nifer yr oriau contract ar gyfartaledd ar gyfer staff gwrywaidd gofal uniongyrchol i gleifion fymryn yn uwch na staff benywaidd.

Ffigur 15: Nifer y staff gofal uniongyrchol i gleifion, cyfrif pennau [Nodyn 1], yn ôl oedran [Nodyn 2] a rhyw, 30 Medi 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 15: Siart bar sy'n dangos bod dosbarthiad oedran staff gofal uniongyrchol i gleifion wedi'i ddosbarthu’n fwy cyfartal nag y mae ar gyfer nyrsys.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru

[Nodyn 1] Nid yw'r rhyw yn hysbys ar gyfer cyfran fach (llai nag 1%) o staff gofal uniongyrchol i gleifion. Nid yw’r staff hyn wedi’u cynnwys yn Ffigur 15.

[Nodyn 2] Roedd nifer bach o achosion lle newidiodd oedran unigolyn o fwy nag un o chwarter i chwarter cyn 30 Medi 2022.

Staff eraill y practisau (cyfrif pennau) yn ôl band oedran a bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Staff eraill y practisau (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Er bod crynhoad uwch o staff gofal uniongyrchol i gleifion mewn grwpiau oedran hŷn, mae'r staff wedi'u dosbarthu’n fwy cyfartal ar draws y grwpiau oedran nag yn achos staff nyrsio.

Ar gyfer staff benywaidd gofal uniongyrchol i gleifion, roedd bron i un o bob deg (9.6%) yn 29 oed neu'n iau; roedd 43.3% rhwng 30 a 49 oed; tra oedd ychydig yn llai na hanner (47.1%) yn 50 oed neu'n hŷn.

Roedd gan staff gwrywaidd sy’n darparu gofal uniongyrchol i gleifion broffil oedran gwahanol i’r rhai benywaidd, gyda chrynodiadau uwch o staff gwrywaidd mewn grwpiau oedran iau ac, yn nodedig, roedd pedwar o bob deg (39.2%) o staff gwrywaidd rhwng 30 a 39 oed.

Ffigur 16: Staff gweinyddol/anghlinigol [Nodyn 1] (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn [Nodyn 2]), yn ôl rhyw, 30 Medi 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 16: Siartiau cylch sy'n dangos mai staff benywaidd oedd y mwyafrif mawr o’r cyfanswm cyfrif pennau a’r nifer cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y grŵp staff gweinyddol/anghlinigol.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru

[Nodyn 1] Ni chyflwynir data ond pan gofnodwyd bod staff yn ddynion neu’n fenywod. Y rhyw a gofnodwyd ar gyfer 54 (neu 1%) o staff gweinyddol oedd ‘arall/anhysbys’. Gan nad ydym yn gallu gwahanu'r ddau gategori hyn, nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y siartiau nac yn yr enwadur yn y cyfrifiadau canrannol.

[Nodyn 2] Nid oes unrhyw oriau contract nac oriau gwaith wedi'u cofnodi ar gyfer nifer bach o staff eraill practisau. Felly, bydd y rhif cyfwerth ag amser llawn yn amcangyfrif ychydig yn isel.

Staff eraill y practisau (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Roedd tua phedwar ar bymtheg o bob ugain (95.1%) o staff gweinyddol neu anghlinigol mewn practisau cyffredinol yn fenywod. Mae cyfran y menywod cyfwerth ag amser llawn bron yr un fath â'r cyfrif pennau, felly does fawr o wahaniaeth rhwng yr oriau contract cyfartalog rhwng staff gweinyddol/anghlinigol gwrywaidd a benywaidd.

Ffigur 17: Nifer y staff gweinyddol/anghlinigol, cyfrif pennau [Nodyn 1], yn ôl oedran [Nodyn 2] a rhyw, 30 Medi 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 17: Siart bar sy'n dangos bod dosbarthiad oedran staff gweinyddol/anghlinigol wedi'i ddosbarthu ar draws pob grŵp oedran ond gyda chrynodiad uwch o staff 50 oed neu hŷn ar gyfer menywod.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru

[Nodyn 1] Nid yw'r rhyw yn hysbys ar gyfer 1% o staff gweinyddol/anghlinigol. Nid yw’r staff hyn wedi’u cynnwys yn Ffigur 17.

[Nodyn 2] Roedd nifer bach o achosion lle newidiodd oedran unigolyn o fwy nag un o chwarter i chwarter cyn 30 Medi 2022.

Staff eraill y practisau (cyfrif pennau) yn ôl band oedran a bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Staff eraill y practisau (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn) yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Roedd mwy na hanner (55.1%) y staff gweinyddol benywaidd yn 50 oed neu'n hŷn. Roedd y nifer cymharol fach o staff gwrywaidd wedi'u dosbarthu’n fwy cyfartal, gydag ychydig o dan dri o bob deg (28.5%) yn 29 oed neu'n iau.

Ffigur 18: Nifer staff eraill practisau [Nodyn 1], cyfrif pennau, yn ôl ethnigrwydd, 30 Medi 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 18: Siart bar sy'n dangos y cofnodwyd mwyafrif mawr o staff eraill practisau mewn grwpiau ethnig gwyn, gyda llai na 3% o'r holl grwpiau staff o bob grŵp ethnig arall gyda'i gilydd.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru

[Nodyn 1] Nid yw'r ethnigrwydd yn hysbys ar gyfer 11% o nyrsys, 10% o staff gofal uniongyrchol i gleifion a 9% o staff gweinyddol. Nid yw’r staff hyn wedi’u cynnwys yn yr enwadur wrth gyfrifo’r ganran o gategorïau ethnigrwydd hysbys.

Staff eraill y practisau (cyfrif pennau) yn ôl ethnigrwydd ar StatsCymru

Roedd dros 98% o nyrsys yn dod o grŵp ethnig gwyn. O'r rhai o gefndir ethnig leiafrifol, roedd y rhan fwyaf ohonynt o ethnigrwydd Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (0.9%).

Roedd dros 97% o staff gofal uniongyrchol i gleifion yn dod o gefndir ethnig gwyn. O'r rhai o gefndir ethnig leiafrifol, roedd y rhan fwyaf ohonynt o gefndir Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (1.2%).

Roedd bron i 98% o’r staff gweinyddol/anghlinigol yn dod o grŵp ethnig gwyn. O'r rhai o gefndir ethnig leiafrifol, roedd y rhan fwyaf ohonynt o gefndir Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (1.1%).

Roedd gan bob grŵp staff arall ganran is o bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol na phoblogaeth gyffredinol Cymru (5.1% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2022, Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (StatsCymru)).

Ffigur 19: Nifer staff eraill practisau [Nodyn 1], cyfrif pennau, yn ôl sgiliau siarad Cymraeg, 30 Medi 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 19: Siart bar sy'n dangos bod gan rai staff lefelau amrywiol o sgiliau siarad Cymraeg, ond y dywedodd mwyafrif mawr nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg o gwbl.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru

[Nodyn 1] Nid oedd y sgiliau siarad Cymraeg yn hysbys ar gyfer 38% o nyrsys, 36% o staff gofal uniongyrchol i gleifion a 38% o staff gweinyddol. Nid yw’r staff hyn wedi’u cynnwys yn yr enwadur wrth gyfrifo’r ganran o gategorïau iaith Gymraeg hysbys.

Sgiliau a gallu Cymraeg staff eraill y practisau (cyfrif pennau) yn ôl bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Cofnodwyd bod gan un o bob deg (neu 10.8%) o nyrsys sgiliau siarad Cymraeg uwch neu hyfedr. Dywedodd 6.9% arall fod ganddynt sgiliau rhwng lefel mynediad a chanolradd. Dywedodd 82.4% nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg o gwbl.

Cofnodwyd bod gan gyfran uwch o staff gofal uniongyrchol i gleifion sgiliau siarad Cymraeg nag unrhyw grŵp arall o staff. Roedd gan 11.3% o'r staff sgiliau ar lefel uwch neu hyfedr, ac roedd gan 6.6% sgiliau rhwng lefel mynediad a chanolradd. Dywedodd 82.1% o'r staff nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg o gwbl.

Cofnodwyd bod gan lai nag un o bob pedwar ar ddeg (6.8%) o staff gweinyddol neu anghlinigol sgiliau Cymraeg ar lefel uwch neu hyfedr. Dywedodd 6.9% arall fod ganddynt sgiliau rhwng lefel mynediad a chanolradd. Dywedodd 86.2% nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg o gwbl.

Roedd canran staff eraill y practisau a dywedodd fod ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg yn is na’r ganran ym mhoblogaeth Cymru. Mae Cyfrifiad 2021 (StatsCymru) yn amcangyfrif bod 17.8% o bobl yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, ac mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (StatsCymru) ym mis Mehefin 2022 yn amcangyfrif bod gan 29.7% o bobl yng Nghymru rai sgiliau siarad Cymraeg.

Staff yn ymuno a gadael

Mae'r adran hon yn cynnwys data ar feddygon teulu cwbl gymwysedig a staff eraill practisau sydd wedi gadael y gweithlu, neu wedi ymuno ag ef, ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.

Mae aelod o staff yn cael ei ddiffinio fel un sydd wedi ymuno â'r gweithlu yn ystod y cyfnod hwn os oedd wedi’i gontractio i weithio ym maes ymarfer meddygol ym mis Medi 2022 ond nad oedd wedi’i gontractio i weithio ym mis Medi 2021.

Mae aelod o staff yn cael ei ddiffinio fel un sydd wedi gadael y gweithlu yn ystod y cyfnod hwn os oedd wedi’i gontractio i weithio ym maes ymarfer meddygol ym mis Medi 2021 ond nad oedd wedi’i gontractio i weithio ym mis Medi 2022.

Ffigur 20: Staff practisau cyffredinol [Nodyn 1] sydd wedi ymuno a gadael rhwng 30 Medi 2021 a 30 Medi 2022 [Nodyn 2] [Nodyn 3], yn ôl grŵp staff

Image

Disgrifiad o Ffigur 20: Siart bar sy'n dangos y gwnaeth mwy o staff ymuno na gadael yn y grwpiau staff nyrsio a staff gofal uniongyrchol i gleifion, ond y gwnaeth mwy o staff adael nac ymuno yn y grwpiau meddygon teulu cwbl gymwysedig a staff gweinyddol. Roedd mwy o staff wedi ymuno a gadael yn y grŵp staff gweinyddol nag ym mhob un o’r tri grŵp staff arall gyda’i gilydd.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales

[Nodyn 1] Caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif yn y cyfnodau amser perthnasol os oedd unrhyw waith wedi'i gofnodi drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar ddyddiad y ciplun (30 Medi 2022 neu 30 Medi 2021) yn unig. Ar gyfer yr holl fathau eraill o feddygon teulu a staff eraill practisau, mae'n seiliedig ar y nifer cyfrif pennau a’r nifer cyfwerth ag amser llawn ar ddyddiad y ciplun.

[Nodyn 2] Ni fydd y siart hon yn cynnwys achosion lle ymunodd aelod o staff ar ôl 30 Medi 2021 a gadael cyn 30 Medi 2022.

[Nodyn 3] Mae’r gwahaniaeth rhwng nifer y staff a ymunodd ac a adawodd yn hafal i’r newid yn nifer y staff a oedd yn gweithio rhwng 30 Medi 2021 a 30 Medi 2022.

Nifer y meddygon teulu (cyfrif pennau) a ymunodd neu a adawodd yn ôl math o feddyg teulu, rhyw a band oedran ar StatsCymru

Nifer staff eraill practisau (cyfrif pennau) a ymunodd neu a adawodd yn ôl grŵp staff, rhyw a band oedran ar StatsCymru

Ymunodd cyfanswm o 162 o feddygon teulu cwbl gymwysedig â'r gweithlu yn ystod y cyfnod hwn tra gadawodd 192 o feddygon teulu cwbl gymwysedig.

O'r 162 o feddygon teulu cwbl gymwysedig a ymunodd, ymunodd 95 (neu 58.6%) fel locwm yn unig ac o'r 192 o feddygon teulu cwbl gymwysedig a adawodd, gadawodd 80 (neu 41.7%) fel locwm yn unig.  

Ar gyfer holl staff eraill practisau, ymunodd 1,003 â’r gweithlu a gadawodd 953. Nid yw'r ffigur hwn yn hafal i’r swm a geir wrth gyfrifo’r ffigur o’r is-grwpiau nyrsys, gofal uniongyrchol i gleifion a gweinyddol/anghlinigol gan y symudodd rhai staff rhwng gwahanol fathau o rolau yn ystod y cyfnod hwn ond gan aros yn y gweithlu.

Ffigur 21: Meddygon teulu cwbl gymwysedig [Nodyn 1] yn ymuno a gadael rhwng 30 Medi 2021 a 30 Medi 2022 [Nodyn 2, Nodyn 3], yn ôl rhyw

Image

Disgrifiad o Ffigwr 21: Siartiau cylch sy’n dangos bod mwy o fenywod na dynion wedi ymuno â'r gweithlu ym mis Medi 2022. Gadawodd mwy o ferched na dynion y gweithlu hefyd yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2022.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales

[Nodyn 1] Ni chyflwynir data ond pan gofnodwyd bod staff yn ddynion neu’n fenywod. Y rhyw a gofnodwyd ar gyfer 32 (neu 20%) o staff a ymunodd oedd ‘arall/anhysbys’ ac ni chofnodwyd y rhyw ar gyfer 33 (neu 17%) o staff a adawodd. Nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y siartiau nac yn yr enwadur yn y cyfrifiadau canrannol.

[Nodyn 2] Caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif yn y cyfnodau amser perthnasol os oedd unrhyw waith wedi'i gofnodi drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar ddyddiad y ciplun (30 Medi 2022 neu 30 Medi 2021) yn unig. Ar gyfer yr holl fathau eraill o feddygon teulu, mae'n seiliedig ar y nifer cyfrif pennau a’r nifer cyfwerth ag amser llawn ar ddyddiad y ciplun.

[Nodyn 3] Ni fydd y siartiau hyn yn cynnwys achosion lle ymunodd meddyg teulu ar ôl 30 Medi 2021 a gadael cyn 30 Medi 2022.

Nifer y meddygon teulu (cyfrif pennau) a adawodd neu a ymunodd yn ôl math o feddyg teulu, rhyw a band oedran ar StatsCymru

Er y gadawodd mwy o feddygon teulu benywaidd faes ymarfer meddygol na rhai benywaidd rhwng mis Medi 2021 a mis Medi 2022, ymunodd meddygon teulu benywaidd ar gyfradd uwch. Roedd hyn yn golygu bod canran y meddygon teulu cwbl gymwysedig benywaidd wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn.

Roedd bron i ddau o bob tri (63.8%) meddyg teulu cwbl gymwysedig a ymunodd â'r gweithlu yn fenywod.

Gadawodd mwy o fenywod bractisau cyffredinol yng Nghymru yn y flwyddyn na dynion; roedd ychydig llai na 6 o bob 10 (58.5%) o’r rhai a adawodd yn fenywod. Roedd y gyfran o feddygon teulu gwrywaidd a benywaidd a adawodd bron yr un fath â’r gyfran o feddygon teulu gwrywaidd a benywaidd a oedd yn gweithio ym maes ymarfer meddygol ym mis Medi 2022, sy’n awgrymu y gadawodd dynion a menywod ar gyfraddau tebyg.

Ffigur 22: Meddygon teulu cwbl gymwysedig [Nodyn 1] yn ymuno a gadael rhwng 30 Medi 2021 a 30 Medi 2022 [Nodyn 2, Nodyn 3], yn ôl grŵp oedran

Image

Disgrifiad o Ffigur 22: Siart bar sy'n dangos bod meddygon teulu cwbl gymwysedig a ymunodd â'r gweithlu yn tueddu i fod yn iau na'r rhai a adawodd.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales

[Nodyn 1] Nid oedd yr oedran yn hysbys ar gyfer 28% o feddygon teulu cwbl gymwysedig a ymunodd â'r gweithlu a 17% o feddygon teulu cwbl gymwysedig a adawodd y gweithlu. Nid yw’r meddygon teulu hyn wedi'u cynnwys yn y siart hon na'r enwadur mewn unrhyw gyfrifiadau canrannol o ddynion a menywod. 

[Nodyn 2] Caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif yn y cyfnodau amser perthnasol os oedd unrhyw waith wedi'i gofnodi drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar ddyddiad y ciplun (30 Medi 2022 neu 30 Medi 2021) yn unig. Ar gyfer yr holl fathau eraill o feddygon teulu, mae'n seiliedig ar y nifer cyfrif pennau a’r nifer cyfwerth ag amser llawn ar ddyddiad y ciplun.

[Nodyn 3] Ni fydd y siart hon yn cynnwys achosion lle ymunodd meddyg teulu ar ôl 30 Medi 2021 a gadael cyn 30 Medi 2022.

Nifer y meddygon teulu (cyfrif pennau) a adawodd neu a ymunodd yn ôl math o feddyg teulu, rhyw a band oedran ar StatsCymru

Roedd y mwyafrif (60.7%) o feddygon teulu cwbl gymwysedig a ymunodd â'r gweithlu yn y flwyddyn ddiweddaraf rhwng 30 a 39 oed. Gostyngodd nifer y rhai a ymunodd ym mhob grŵp oedran dilynol.

Roedd y rhai a adawodd wedi’u dosbarthu'n fwy cyfartal ar draws grwpiau oedran; y band mwyaf cyffredin oedd 50 i 59 (34%). Roedd bron i chwarter y rhai a adawodd rhwng 30 a 39 oed (23.9%); canran fwy na'r grwpiau oedran 40 i 49 a 60 i 69 (y ddau’n 18.2%).

Ffigur 23: Staff eraill practisau [Nodyn 1] yn ymuno a gadael rhwng 30 Medi 2021 a 30 Medi 2022 [Nodyn 2], yn ôl rhyw

Image

Disgrifiad o Ffigur 23: Siartiau cylch sy'n dangos mai menywod oedd mwyafrif mawr o staff eraill practisau a ymunodd â'r gweithlu. Roedd cyfran fawr debyg o'r staff a adawodd y gweithlu hefyd yn fenywod.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru

[Nodyn 1] Nid oedd y rhyw’n hysbys ar gyfer llai nag 1% o staff eraill practisau a ymunodd â'r gweithlu ac 1% o staff eraill practisau a adawodd y gweithlu. Nid yw’r rhain wedi'u cynnwys yn y siart hon na'r enwadur mewn unrhyw gyfrifiadau canrannol o ddynion a menywod. 

[Nodyn 2] Ni fydd y siartiau hyn yn cynnwys achosion lle ymunodd aelod o staff eraill practisau â’r gweithlu a’i adael yn y cyfnod rhwng 30 Medi 2021 a 30 Medi 2022.

Nifer staff eraill practisau (cyfrif pennau) a adawodd neu a ymunodd yn ôl math o grŵp staff, rhyw a band oedran ar StatsCymru

Roedd ychydig yn fwy na naw o bob deg (91.8%) o staff eraill practisau a ymunodd â'r gweithlu yn fenywod. Yn yr un modd, roedd naw o bob deg (90.8%) a adawodd y gweithlu yn fenywod.

Mae canran y staff benywaidd a ymunodd ac a adawodd ychydig yn is na chanran holl staff eraill practisau sy'n fenywod (94.5%) a oedd yn cael eu cyflogi ym maes ymarfer meddygol ar 30 Medi 2022.

Ffigur 24: Staff eraill practisau yn ymuno a gadael rhwng 30 Medi 2021 a 30 Medi 2022 [Nodyn 1], yn ôl grŵp oedran

Image

Disgrifiad o Ffigur 24: Siart bar sy'n dangos bod staff eraill practisau a ymunodd â'r gweithlu yn tueddu i fod yn iau na'r rhai a adawodd, er bod dosbarthiad oedran y ddau grŵp yn fwy cyfartal o gymharu â meddygon teulu cwbl gymwysedig.

Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol Gweithlu Cymru

[Nodyn 1] Ni fydd y siart hon yn cynnwys achosion lle ymunodd staff eraill practisau ar ôl 30 Medi 2021 a gadael cyn 30 Medi 2022.

Nifer staff eraill practisau (cyfrif pennau) a adawodd neu a ymunodd yn ôl math o grŵp staff, rhyw a band oedran ar StatsCymru

Roedd chwarter (25.1%) o staff eraill practisau a ymunodd â'r gweithlu o dan 30 oed. Gostyngodd y ganran hon rywfaint drwy grwpiau oedran hŷn, gyda chwarter arall (24.6%) o’r rhai a ymunodd rhwng 30 a 39 oed; roedd un o bob pump (21.3%) rhwng 40 a 49 oed; a’r un ganran (21.3%) rhwng 50 a 59 oed.

Roedd staff eraill practisau a adawodd hefyd wedi'u dosbarthu'n weddol gyfartal rhwng grwpiau oedran, gyda'r canrannau uchaf yn y grŵp oedran 50 i 59 oed (22.9%) ac yn y grŵp oedran 60 i 69 (21.3%).

Llif cleifion ar draws y ffin

Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth am nifer y cleifion wedi'u cofrestru â phractisau meddygon teulu yng Nghymru sy’n byw yn Lloegr, a nifer y cleifion wedi'u cofrestru â phractisau meddygon teulu yn Lloegr sy’n byw yng Nghymru.

Ffigur 25: Llif cleifion ar draws y ffin, mis Ionawr 2020 i fis Ionawr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 25: Siart bar sy'n dangos bod nifer y cleifion sy'n byw yn Lloegr sydd wedi'u cofrestru â phractisau yng Nghymru, a nifer y cleifion sy'n byw yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru â phractisau yn Lloegr heb newid llawer ers mis Ionawr 2020.  

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

[Nodyn 1] Nid oedd data ar gael ar gyfer mis Ebrill 2022.

Cleifion sydd wedi’u cofrestru â phractisau cyffredinol yng Nghymru a Lloegr, yn ôl ardal breswylio gynnyrch ehangach haen is ar StatsCymru

Cleifion sydd wedi’u cofrestru â phractisau cyffredinol yng Nghymru a Lloegr, yn ôl practis a gwlad breswylio ar StatsCymru

Ym mis Ionawr 2023, roedd 21,391 o gleifion wedi’u cofrestru â phractisau meddygon teulu yng Nghymru a oedd yn byw yn Lloegr. Roedd 13,488 o gleifion wedi’u cofrestru â phractisau meddygon teulu yn Lloegr a oedd byw yng Nghymru. Nid yw'r ddau ffigur hyn wedi newid llawer ers i'r data hyn gael eu cofnodi gyntaf ym mis Ionawr 2020.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Bydd gwybodaeth fanwl am yr ystadegau yn y datganiad hwn yn cael ei chyhoeddi mewn adroddiad ansawdd maes o law.

Geirfa

Practis cyffredinol

Mae practis cyffredinol yn cynnig gwasanaethau meddygol gofal sylfaenol ar ran y bwrdd iechyd lleol, gydag o leiaf un ymarferydd meddygol cyffredinol cymwysedig sy'n gallu rhagnodi meddyginiaeth a lle gall cleifion gofrestru a chael eu cadw ar restr. At ddibenion y datganiad hwn, mae'r term practis cyffredinol yn cyfeirio at brif feddygfeydd yn unig ac nid yw'n cynnwys carchardai, canolfannau'r fyddin, sefydliadau addysg, canolfannau gofal arbenigol na chanolfannau galw i mewn.

Meddygon teulu cwbl gymwysedig

mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a meddygon teulu locwm yn unig. Mae'r rhain yn feddygon teulu cwbl gymwysedig sydd wedi’u cofrestru ar Restr Cyflawnwyr Meddygol Cymru, ond bydd gan rai (meddygon teulu wrth gefn yn arbennig) gontractau â llai o oriau a bydd rhai (staff locwm) yn cael eu contractio i weithio dros dro. Dim ond pan oeddent yn weithredol yn ystod y chwarter a’u sesiynau wedi'u cofnodi ar Locum Hub Wales y caiff staff locwm eu cyfrif. Felly ni fydd unrhyw feddyg locwm sydd wedi'i gofrestru ar Gofrestr Gweithwyr Locwm Cymru, ond sydd heb gofnodi unrhyw sesiynau yn ystod y chwarter, yn cael ei gyfrif yn y niferoedd (cyfrif pennau) na'r nifer cyfwerth ag amser llawn.

Meddygon teulu parhaol cwbl gymwysedig

Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig a meddygon teulu wrth gefn yn unig. Mae'r rhain yn feddygon teulu cwbl gymwysedig gyda chontractau parhaol.

Ymarferydd cyffredinol

Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig yn unig (h.y. heb gynnwys meddygon teulu locwm, cofrestryddion mewn practis cyffredinol, a meddygon teulu wrth gefn). Y rhain yw'r rhan helaethaf o'r gweithlu ac yn hanesyddol dyma'r mesur mwyaf sefydlog o’r gweithlu meddygon teulu. Mae meddygon teulu wrth gefn wedi’u heithrio oherwydd eu bod yn nifer bach o feddygon teulu sy'n gweithio ar gontractau penodol gyda llai o oriau.

Meddyg teulu sy’n bartner neu’n ddarparwr

Ymarferwyr sydd wedi ymrwymo i gontract gyda bwrdd iechyd lleol i ddarparu gwasanaethau i gleifion. Y rhain fel arfer yw'r meddygon teulu ar y lefel uchaf mewn practis. Yn benodol, mae meddygon teulu sy’n ddarparwyr naill ai'n unig ymarferydd; neu’n bartner mewn partneriaeth a'r bartneriaeth honno’n gontractwr; neu’n gyfranddaliwr mewn cwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau a'r cwmni hwnnw’n gontractwr.

Meddyg teulu cyflogedig

Meddygon teulu sy'n cael eu cyflogi a'u talu drwy gyflog gan y practis cyffredinol. Gall meddygon teulu cyflogedig hefyd gael eu cyflogi gan fyrddau iechyd yn uniongyrchol i weithio mewn practisau a reolir gan fyrddau iechyd.

Meddyg teulu wrth gefn

Meddyg teulu cofrestredig sydd wedi ymuno â'r Cynllun Meddygon Teulu Wrth Gefn. Nod hyn yw helpu i ddal gafael ar feddygon sy'n gweithio mewn practisau cyffredinol, ac fel arfer mae'n berthnasol i feddygon teulu sydd naill ai'n agosáu at oedran ymddeol neu sydd angen mwy o hyblygrwydd yn eu gwaith mewn practis cyffredinol. Dim ond hyd at 4 sesiwn glinigol yr wythnos y gall meddyg teulu wrth gefn eu gweithio mewn practis.

Meddyg Teulu Locwm

Meddyg teulu sy'n dirprwyo dros dro mewn practis, a hynny fel arfer i gyflenwi ar gyfer meddyg teulu sy’n absennol. Yn y datganiad ystadegol hwn, dim ond os ydynt wedi gweithio yn ystod y chwarter, a’u sesiynau wedi’u cofnodi ar Locum Hub Wales, y caiff staff locwm eu cyfrif. Nid yw unrhyw feddyg locwm sydd wedi'i gofrestru i weithio yng Nghymru ond sydd heb ddarparu unrhyw sesiynau yn ystod y chwarter yn cael ei gyfrif yn y cyfrif pennau na'r nifer cyfwerth ag amser llawn.

Locum Hub Wales

Gwasanaeth sy’n galluogi practisau meddygon teulu ar draws Cymru i hysbysebu eu swyddi gwag tymor byr, a dewis ac archebu meddyg teulu locwm, y mae ei ddewisiadau'n cyfateb i rai'r practis, a hynny’n gyflym ac yn effeithlon. Nid yw'n ofynnol i staff locwm archebu sifftiau drwy Locum Hub Wales os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, rhaid i feddygon teulu locwm ymuno â Chofrestr Locwm Cymru Gyfan (ar Locum Hub Wales) a rhaid iddynt gofnodi manylion y sifftiau y maent wedi’u gweithio er mwyn cael eu cynnwys yn y Cynllun Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol (GMPI) o 1 Chwefror 2021.

Rheolir y Cynllun Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol (GMPI), gan Wasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fel rhan o Gyfarwyddydau’r Cynllun Esgeuluster Clinigol ar gyfer Ymddiriedolaethau'r GIG a’r Byrddau Iechyd Lleol (Gweinyddu) (Cymru) 2019 a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) (Cymru) 2019.

Cofrestrydd mewn practis cyffredinol

Weithiau fe'i gelwir yn feddyg teulu dan hyfforddiant. Mae’r rhain yn feddygon cymwysedig sy'n hyfforddi i fod yn feddygon teulu drwy gyfnod o hyfforddiant mewn practis cyffredinol ac mewn ysbytai. Yn hanesyddol, yng Nghymru roedd y rhaglen hyfforddi yn cynnwys 18 mis mewn swyddi ysbyty a gymeradwywyd a 18 mis mewn practis cyffredinol; fodd bynnag, o 2019 newidiodd y rhaglen hyfforddi i 12 mis mewn swyddi ysbyty a 24 mis mewn practis cyffredinol. Mae hyn yn esbonio rhywfaint o'r cynnydd yn nifer y cofrestryddion ers 2019. Mae’r contract safonol ar gyfer cofrestrydd yn 40 awr yr wythnos (yn hytrach na 37.5 awr), felly mae eu horiau cyfwerth ag amser llawn yn seiliedig ar wythnos 40 awr.

Meddygon F2

Meddygon sydd â chofrestriad GMC llawn yn eu hail flwyddyn o hyfforddiant meddygol ôl-raddedig. Maent wedi cwblhau eu blwyddyn sylfaen gyntaf a byddant yn cylchdroi drwy dri arbenigedd. Byddent fel arfer yn gwneud gwaith clinigol dan oruchwyliaeth ond nid ydynt yn hyfforddi i fod yn feddygon teulu. Mae contract safonol ar gyfer meddyg F2 yn 40 awr yr wythnos (yn hytrach na 37.5 awr), felly mae eu horiau cyfwerth ag amser llawn yn seiliedig ar wythnos 40 awr.

Partneriaeth

Trefniant ariannol rhwng dau neu ragor o gyrff y mae'n rhaid i un ohonynt fod yn ymarferydd cyffredinol.

Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS)

Yw’r contract y mae pob practis cyffredinol yng Nghymru yn darparu gwasanaethau drwyddo ar ran y bwrdd iechyd lleol.

Staff eraill y practis

Yr holl staff nad ydynt yn feddygon teulu a gyflogir drwy gontract gyda phractis cyffredinol. Mae 3 chategori o staff eraill y practis: nyrsys, staff gofal uniongyrchol i gleifion a staff gweinyddol/anghlinigol.

Nyrsys

Yn cynnwys nyrs practis, ymarferydd nyrsio uwch, nyrs arbenigol, nyrs practis â rôl estynedig, partner nyrsio, nyrs dan hyfforddiant a nyrs sy’n cyflenwi meddyginiaeth.

Gofal uniongyrchol i gleifion

Fel arfer mae hyn yn cynnwys unrhyw un sy'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu gofal i gleifion ond nad yw'n nyrs nac yn feddyg teulu. Mae hyn yn cynnwys: cynorthwyydd gofal iechyd, cyflenwr meddyginiaeth, technegydd fferyllol, parafeddyg, therapydd galwedigaethol, fferyllydd, phlebotomydd, cwnselydd, ffisiotherapydd, cydymaith meddygol, cynorthwyydd gofal iechyd ar brentisiaeth, therapydd arall, therapydd cwnsela, phlebotomydd ar brentisiaeth, deietegydd, gweithiwr cymorth iechyd, ymarferydd llesiant seicolegol, gweithiwr cyswllt rhagnodi cymdeithasol a gofal uniongyrchol arall i gleifion.

Gweinyddol/anghlinigol

Unrhyw un sy'n ymwneud â gweinyddu neu drefnu'r practis. Mae hyn yn cynnwys: partner rheoli, derbynnydd, prentis, rheolwr, ysgrifennydd meddygol, teleffonydd, staff ystadau ac ategol, uwch-reolwr, cyfarwyddwr cyllid a staff gweinyddol arall

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

O’r datganiad hwn ymlaen, bydd y datganiad ystadegol blynyddol yn seiliedig ar y data a gesglir ym mis Medi yn y flwyddyn gyfeirio a bydd yn cael ei gyhoeddi yn rhan gyntaf y flwyddyn ganlynol. Bydd niferoedd staff lefel uchel yn parhau i gael eu diweddaru’n chwarterol yn StatsCymru. Bydd hyn yn cynnwys o leiaf data cyfrif pennau a data cyfwerth ag amser llawn ar gyfer meddygon teulu a staff eraill practisau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn nodi saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef Cymru lewyrchus, gydnerth, iachach, fwy cyfartal, sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, sydd â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â’r naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn yr adroddiad ar Lesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a gellid eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 39/2023