Nifer y meddygon teulu a’r aelodau staff eraill sy'n gweithio mewn practisau cyffredinol yng Nghymru, ar sail nifer yr unigolion a’r nifer cyfwerth ag amser llawn, ar 30 Mehefin 2022.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gweithlu practis cyffredinol
Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir yw’r System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) sydd wedi'i gyflenwi a'i ddilysu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG.
Prif bwyntiau
Yng Nghymru, ar 30 Mehefin 2022, roedd:
- 386 o bractisau meddygon teulu yn weithredol.
- 2,301 o feddygon teulu cwbl gymwysedig, sef 1,562.6 cyfwerth ag amser llawn (neu 67.9% o’r cyfanswm pennau); mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon cyflogedig, ymarferwyr wrth gefn a staff locwm gweithredol yn unig.
- 432 o gofrestryddion mewn practis cyffredinol (meddygon teulu dan hyfforddiant) sef 385.3 cyfwerth ag amser llawn (neu 89.2% o’r cyfanswm pennau).
- 7,983 o staff eraill y practis (nad ydynt yn feddygon teulu) sef 5,788.2 cyfwerth ag amser llawn (neu 72.5% o’r cyfanswm pennau).
Ar ôl dadansoddi yn ôl mathau penodol o feddygon teulu a grwpiau o staff, roedd:
- 1,982 o feddygon teulu, sef 1,447.5 (neu 73.0% o’r cyfanswm pennau); mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig ond ag eithriad a gofrestryddion, ymarferwyr wrth gefn a staff locwm.
- 28 o feddygon teulu wrth gefn, sef 10.8 (neu 38.4% o’r cyfanswm pennau).
- 400 o feddygon teulu locwm, sef 104.3 cyfwerth ag amser llawn (neu 26.1% o’r cyfanswm pennau).
- 1,423 o nyrsys cofrestredig, sef 1,028.2 cyfwerth ag amser llawn (neu 72.3% o’r cyfanswm pennau).
- 1,299 o staff gofal uniongyrchol i gleifion, sef 914.5 cyfwerth ag amser llawn (neu 70.4%o’r cyfanswm pennau); mae hyn yn cynnwys proffesiynau fel fferyllwyr, gweinyddwyr, cynorthwywyr gofal iechyd a ffisiotherapyddion ond nid yw'n cynnwys meddygon teulu na nyrsys.
- 5,333 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill, sef 3,845.5 cyfwerth ag amser llawn (neu 72.1% o’r cyfanswm pennau).
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.