Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer y cleifion cofrestredig a dosbarthiad oedran y gweithlu, ar 30 Mehefin 2023.

Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir yw’r System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) sydd wedi'i gyflenwi a'i ddilysu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG.

Prif bwyntiau

Yng Nghymru, ar 30 Mehefin 2023, roedd:

  • 379 o bractisau meddygon teulu yn weithredol.
  • 2,388 o feddygon teulu cwbl gymwysedig, sef 1,576.8 cyfwerth ag amser llawn (neu 66% o’r cyfanswm pennau); mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon cyflogedig, ymarferwyr wrth gefn a staff locwm gweithredol yn unig. Cynyddodd y cyfrif pennau gan 3.8% a chynyddodd y cyfwerth ag amser llawn gan 0.9% ers yr un dyddiad flwyddyn yn ôl.
  • 446 o gofrestryddion mewn practis cyffredinol (meddygon teulu dan hyfforddiant) sef 397.5 cyfwerth ag amser llawn (neu 89.1% o’r cyfanswm pennau). Cynyddodd y cyfrif pennau gan 3.2% a chynyddodd y cyfwerth ag amser llawn (FTE) gan 3.2% ers yr un dyddiad flwyddyn yn ôl.
  • 8,212 o staff eraill y practis (nad ydynt yn feddygon teulu) sef 5,951.3 cyfwerth ag amser llawn (neu 72.5% o’r cyfanswm pennau). Cynyddodd y cyfrif pennau gan 2.9% a chynyddodd y cyfwerth ag amser llawn (FTE) gan 2.8% ers yr un dyddiad flwyddyn yn ôl.

Ar ôl dadansoddi yn ôl mathau penodol o feddygon teulu a grwpiau o staff, roedd:

  • 1,992 o feddygon teulu, sef 1,429.6 (neu 71.8% o’r cyfanswm pennau); mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig ond ag eithriad a gofrestryddion, ymarferwyr wrth gefn a staff locwm.
  • 30 o feddygon teulu wrth gefn, sef 12.2 (neu 40.6% o’r cyfanswm pennau).
  • 508 o feddygon teulu locwm, sef 135 cyfwerth ag amser llawn (neu 26.6% o’r cyfanswm pennau); Mae hyn ond yn cynnwys locwm a oedd yn gweithio yn y chwarter diweddaraf yn unig.
  • 1,446 o nyrsys cofrestredig, sef 1,045.9 cyfwerth ag amser llawn (neu 72.3% o’r cyfanswm pennau).
  • 1,362 o staff gofal uniongyrchol i gleifion, sef 961.0 cyfwerth ag amser llawn (neu 70.6% o’r cyfanswm pennau); mae hyn yn cynnwys proffesiynau fel fferyllwyr, gweinyddwyr, cynorthwywyr gofal iechyd a ffisiotherapyddion ond nid yw'n cynnwys meddygon teulu na nyrsys.
  • 5,476 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill, sef 3,944.4 cyfwerth ag amser llawn (neu 72% o’r cyfanswm pennau).

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Sabir Ahmed

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.