Gweithlu practis cyffredinol: ar 30 Mehefin 2026
Nifer y meddygon teulu a’r aelodau staff eraill sy'n gweithio mewn practisau cyffredinol yng Nghymru, ar sail nifer yr unigolion a’r nifer cyfwerth ag amser llawn, ar 30 Mehefin 2026.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
O 30 Medi 2025, daw data am weithlu practisau cyffredinol o’r System Gwybodaeth am y Gweithlu Gofal Sylfaenol. Mae’r system hon yn disodli System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru, a fu’n ffynhonnell y data ers 2020.
Gan fod patrymau recriwtio tymhorol, dim ond â’r un dyddiadau cyfeirio mewn blynyddoedd blaenorol y dylid gwneud cymariaethau dros amser. Mae gwaith dilysu helaeth wedi dangos y gellid cymharu data o’r System Gwybodaeth am y Gweithlu Gofal Sylfaenol â data System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru.
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sy’n cynnal y System Gwybodaeth am y Gweithlu Gofal Sylfaenol.
Prif bwyntiau
Dangosir yr holl ddata am staff ar sail cyfwerth ag amser llawn (CALI).
Ar 30 Mehefin 2026:
- roedd 1,613 o feddygon teulu cwbl gymwysedig yn darparu gofal iechyd o 368 o bractisau cyffredinol
- cynyddodd nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig 41 (2.6%) ers 30 Mehefin 2025
- gostyngodd nifer y practisau cyffredinol 2 (0.5%) ers 30 Mehefin 2025
O’u dadansoddi yn ôl math penodol o feddyg teulu, roedd:
- 974 o bartneriaid meddygon teulu, gostyngiad blynyddol o 2.5%
- 499 o feddygon teulu cyflogedig, cynnydd blynyddol o 6.9%
- 129 o feddygon teulu locwm a weithiodd yn ystod y chwarter, cynnydd blynyddol o 34.5%
- 11 o feddygon teulu wrth gefn, yr un nifer ag yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol
Roedd hefyd:
- 404 o gofrestryddion meddygon teulu (meddygon teulu dan hyfforddiant), gostyngiad blynyddol o 3.2%
- 965 o nyrsys cofrestredig, gostyngiad blynyddol o 2.7%
- 964 o staff gofal uniongyrchol i gleifion (staff nad ydynt yn feddygon teulu nac yn nyrsys ond sy’n darparu gwasanaethau iechyd i gleifion, fel cynorthwywyr gofal iechyd, cyflenwyr meddyginiaeth a fferyllwyr), cynnydd blynyddol o 3.8%
- 3,936 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill, cynnydd blynyddol o 0.3%
Practisau a reolir gan fyrddau iechyd
Os nad oes contract ar waith rhwng bwrdd iechyd lleol a phartner, gall y bwrdd iechyd reoli practis cyffredinol yn uniongyrchol. Mae’r bwrdd iechyd yn cyflogi’r staff yn uniongyrchol, ac fel arfer caiff y practisau eu harwain gan feddygon teulu cyflogedig neu feddygon teulu locwm.
Ar 30 Mehefin 2026, roedd:
- 24 o bractisau a reolir gan fyrddau iechyd lleol, yr un nifer ag yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol
Roedd y practisau hyn yn cyflogi’r staff canlynol:
- 109 o feddygon teulu cwbl gymwysedig CALI
- 407 o staff practis ehangach CALI
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mae’r ystadegau hyn yn ymwneud â gweithlu practisau cyffredinol sy’n gweithredu o dan gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol o fewn y GIG. Nid ydynt yn cynnwys unrhyw ddata o bractisau preifat.
Mae rhagor o wybodaeth am brosesau casglu data ac ansawdd ystadegol ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Manylion cyswllt
Ystadegau Gweithlu'r GIG a Gofal Sylfaenol
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
