Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer y cleifion cofrestredig a dosbarthiad oedran y gweithlu, ar 31 Mawrth 2020.

Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir yw’r System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS). Dyma’r tro cyntaf i ddata gael ei gyrchu o’r system hon ac mae wedi bod yn destun prosesau dilysu llawn gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a NHS Digital. Mae ystadegau o'r ffynhonnell hon ar eu dechrau, felly mae'r datganiad hwn yn cael ei ddosbarthu fel Ystadegau Arbrofol.

Prif bwyntiau

Yng Nghymru, ar 31 Mawrth 2020, roedd 404 o bractisau meddygon teulu gyda:

  • 1,962 o ymarferwyr meddygon teulu (gan gynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig ond gan eithrio cofrestryddion, ymarferwyr cyffredinol wrth gefn a meddygon locwm).
  • 293 o gofrestryddion practisau meddygon teulu (hyfforddeion mewn rhaglen hyfforddi arbenigol i feddygon teulu, wedi’u lleoli mewn practis meddyg teulu ar hyn o bryd).
  • 16 o ymarferwyr cyffredinol wrth gefn (meddyg teulu yn y cynllun ymarferwyr cyffredinol wrth gefn, dim ond yn gallu ymarfer hyd at 4 sesiwn glinigol yr wythnos). 
  • 782 o feddygon locwm wedi’u cofrestru i ymarfer yng Nghymru (nid oes data ar gael ar y nifer gwirioneddol sy’n gweithio ar hyn o bryd).
  • 1,409 o nyrsys cofrestredig.
  • 1,114 o staff gofal uniongyrchol i gleifion.
  • 5,142 o staff gweinyddol neu anghlinigol arall mewn meddygfeydd.

Adroddiadau

Gweithlu practis cyffredinol, ar 31 Mawrth 2020 (ystadegau arbrofol) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Gweithlu practis cyffredinol, ar 31 Mawrth 2020 (ystadegau arbrofol): tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 73 KB

ODS
Saesneg yn unig
73 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.