Nifer y meddygon teulu a’r aelodau staff eraill sy'n gweithio mewn practisau cyffredinol yng Nghymru, ar sail nifer yr unigolion a’r nifer cyfwerth ag amser llawn, ar 31 Mawrth 2023.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gweithlu practis cyffredinol
Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir yw’r System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) sydd wedi'i gyflenwi a'i ddilysu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG.
Prif bwyntiau
Yng Nghymru, ar 31 Mawrth 2023, roedd:
- 383 o bractisau meddygon teulu yn weithredol
- 2,383 o feddygon teulu cwbl gymwysedig, sef 1,583.2 cyfwerth ag amser llawn (neu 66.4% o’r cyfanswm pennau); mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon cyflogedig, ymarferwyr wrth gefn a staff locwm gweithredol yn unig; cynyddodd y cyfrif pennau gan 2.5% a chynyddodd y cyfwerth ag amser llawn gan 0.1% ers yr un dyddiad flwyddyn yn ôl
- 473 o gofrestryddion mewn practis cyffredinol (meddygon teulu dan hyfforddiant) sef 418.7 cyfwerth ag amser llawn (neu 88.5% o’r cyfanswm pennau); cynyddodd y cyfrif pennau gan 8.0% a chynyddodd y cyfwerth ag amser llawn (FTE) gan 7.0% ers yr un dyddiad flwyddyn yn ôl
- 8,143 o staff eraill y practis (nad ydynt yn feddygon teulu) sef 5,911.9 cyfwerth ag amser llawn (neu 72.6% o’r cyfanswm pennau); cynyddodd y cyfrif pennau gan 2.1% a chynyddodd y cyfwerth ag amser llawn (FTE) gan 2.6% ers yr un dyddiad flwyddyn yn ôl
Ar ôl dadansoddi yn ôl mathau penodol o feddygon teulu a grwpiau o staff, roedd:
- 1,997 o feddygon teulu, sef 1,442.3 (neu 72.2% o’r cyfanswm pennau); mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig ond ag eithriad a gofrestryddion, ymarferwyr wrth gefn a staff locwm
- 30 o feddygon teulu wrth gefn, sef 12.4 (neu 41.3% o’r cyfanswm pennau)
- 469 o feddygon teulu locwm, sef 128.5 cyfwerth ag amser llawn (neu 27.4% o’r cyfanswm pennau); Mae hyn ond yn cynnwys locwm a oedd yn gweithio yn y chwarter diweddaraf yn unig
- 1,434 o nyrsys cofrestredig, sef 1,042.4 cyfwerth ag amser llawn (neu 72.7% o’r cyfanswm pennau)
- 1,348 o staff gofal uniongyrchol i gleifion, sef 947.0 cyfwerth ag amser llawn (neu 70.2% o’r cyfanswm pennau); mae hyn yn cynnwys proffesiynau fel fferyllwyr, gweinyddwyr, cynorthwywyr gofal iechyd a ffisiotherapyddion ond nid yw'n cynnwys meddygon teulu na nyrsys
- 5,436 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill, sef 3,922.6 cyfwerth ag amser llawn (neu 72.2% o’r cyfanswm pennau)
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.