Gweithlu practis cyffredinol: ar 31 Mawrth 2026
Nifer y meddygon teulu a’r aelodau staff eraill sy'n gweithio mewn practisau cyffredinol yng Nghymru, ar sail nifer yr unigolion a’r nifer cyfwerth ag amser llawn, ar 31 Mawrth 2026.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
O 30 Medi 2025 ymlaen, daw data gweithlu practisau cyffredinol o System Wybodaeth y Gweithlu Gofal Sylfaenol, sy'n disodli System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru a fu'n ffynhonnell ddata ers 2020.
Gan fod patrymau recriwtio tymhorol, dylid gwneud cymariaethau dros amser gyda'r un dyddiadau cyfeirio yn y blynyddoedd blaenorol yn unig. Mae gwaith dilysu helaeth wedi dangos bod data System Wybodaeth y Gweithlu Gofal Sylfaenol yn gymaradwy â data System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru.
Mae System Wybodaeth y Gweithlu Gofal Sylfaenol yn cael ei gynnal gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Y prif bwyntiau
- Ar 31 Mawrth 2026, roedd 1,635 o feddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn (FTE) yn darparu gofal iechyd o 368 o bractisau cyffredinol yng Nghymru.
- Cynyddodd nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig 55 (3.5%) a gostyngodd nifer y practisau cyffredinol 2 (0.5%) o 31 Mawrth 2025.
Ar ôl dadansoddi yn ôl mathau penodol o feddygon teulu, roedd:
- 976 o feddygon teulu sy’n bartneriaid FTE, sef gostyngiad blynyddol o 4.2%
- 509 o feddygon teulu cyflogedig FTE, sef cynnydd blynyddol o 10.4%
- 139 o feddygon teulu locwm FTE oedd wedi gweithio yn ystod y chwarter, sef cynnydd blynyddol o 53.2%
- 11 o feddygon teulu wrth gefn FTE, sef gostyngiad blynyddol o 1
Ochr yn ochr â meddygon teulu cwbl gymwysedig, roedd:
- 431 o gofrestryddion mewn practis cyffredinol (meddygon teulu dan hyfforddiant) FTE, sef gostyngiad blynyddol o 1.7%
- 962 o nyrsys cofrestredig FTE, sef gostyngiad blynyddol o 4.0%
- 964 o staff gofal uniongyrchol i gleifion FTE (staff and ydynt yn feddygon teulu na nyrsys ond sy’n darparu gwasanaethau iechyd i gleifion megis cynorthwywyr gofal iechyd, cyflenwyr meddyginiaeth a fferyllwyr), sef cynnydd blynyddol o 2.5%
- 3,932 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill FTE, sef cynnydd blynyddol o 0.5%
Os nad oes cytundeb rhwng bwrdd iechyd lleol a phartner meddygaeth deulu, gall y bwrdd iechyd reoli practis meddyg teulu yn uniongyrchol. Mae’r bwrdd iechyd yn cyflogi staff yn uniongyrchol, ac mae’r practisau’n cael eu harwain fel arfer gan feddygon teulu ar gyflog neu feddygon teulu locwm.
- Ar 31 Mawrth 2026, roedd 24 o bractisau’n cael eu rheoli gan fwrdd iechyd lleol, yr un fath â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol. Roedd y practisau hyn yn cyflogi 117 o feddygon teulu cwbl gymwysedig FTE a 408 o staff practis ehangach FTE. Mae’r staff hyn wedi’u cynnwys yn y cyfansymiau ar gyfer staff.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mae'r ystadegau hyn yn cyfeirio at weithlu practisau cyffredinol sy'n gweithredu o dan gontract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) o fewn y GIG. Nid yw'n cynnwys unrhyw ddata o bractisau preifat.
Mae rhagor o wybodaeth am brosesau casglu data ac ansawdd ystadegol ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Manylion cyswllt
Ystadegau Gweithlu'r GIG a Gofal Sylfaenol
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
