Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer y cleifion cofrestredig a dosbarthiad oedran y gweithlu, ar 31 Rhagfyr 2023.

Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir yw’r System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) sydd wedi’i gyflenwi a’i ddilysu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau’r GIG Cymru.

Y prif bwyntiau

Yng Nghymru, ar 31 Rhagfyr 2023, roedd:

  • 374 o bractisau meddygon teulu yn weithredol, sef gostyngiad o 9 (2.4%) ers 31 Rhagfyr 2022.
  • 1,588 o feddygon teulu cwbl gymwysedig CALl, sef gostyngiad o 4 (0.3%) ers 31 Rhagfyr 2022. Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a staff locwm gweithredol yn unig.
  • 409 o gofrestryddion mewn practis cyffredinol (meddygon teulu dan hyfforddiant) CALl, sef gostyngiad o 2 (0.6%) ers 31 Rhagfyr 2022.
  • 5,948 o staff eraill practisau CALl, sef cynnydd o 126 (2.2%) ers 31 Rhagfyr 2022.

Ar ôl dadansoddi yn ôl mathau penodol o feddygon teulu a grwpiau o staff, roedd:

  • 1,422 o ymarferwyr cyffredinol CALl, sef gostyngiad o 27 (1.9%) ers 31 Rhagfyr 2022. Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig yn unig.
  • 11 o feddygon teulu wrth gefn CALl, sef gostyngiad o 1 ers 31 Rhagfyr 2022.
  • 155 o feddygon teulu locwm CALl, sef cynnydd o 24 (17.9%) ers 31 Rhagfyr 2022. Ni chaiff meddygon teulu locwm eu cyfrif oni bai eu bod yn weithredol a bod contractau wedi’u cofnodi ar eu cyfer yn system Locum Hub Wales rhwng 1 Hydref 2023 a 31 Rhagfyr 2023.
  • 1,040 o nyrsys cofrestredig CALl, sef cynnydd o 7 (0.7%) ers 31 Rhagfyr 2022.
  • 962 o staff gofal uniongyrchol i gleifion CALl (sef staff nad ydynt yn feddygon teulu nac yn nyrsys ond sy’n darparu gwasanaethau iechyd i gleifion, megis cynorthwywyr gofal iechyd, cyflenwyr meddyginiaeth a fferyllwyr), sef cynnydd o 32 (3.5%) ers 31 Rhagfyr 2022.
  • 3,946 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill CALl, sef cynnydd o 87 (2.2%) ers 31 Rhagfyr 2022.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Sabir Ahmed

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.