Gwybodaeth ychwanegol am integreiddio’r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid â chynlluniau gwarant fferm achrededig.
Cyflwyniad
Cyhoeddodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd Llyr Gruffydd ar 19 Gorffennaf fod proses y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC) o fewn Gweithred Gyffredinol (UA) 12 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn newid. Mae Llywodraeth Cymru’n wrthi’n integreiddio rhannau allweddol UA12 â chynlluniau gwarant fferm achrededig sy’n cytuno’n ffurfiol i gymryd rhan yn y trefniant hwn a bodloni’r gofynion cyflawni. Mae’r newid hwn yn cael ei wneud yn sgil argymhelliad a wnaed yn dilyn adolygiad y Llywodraeth o’r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol.
- amcan AHIC yw helpu ffermwyr a milfeddygon i weithio gyda’i gilydd i nodi blaenoriaethau, cymryd camau wedi’u targedu a sicrhau gwelliannau di-dor yn iechyd, lles a chynhyrchiant anifeiliaid. Mae’r gofynion o ran AHIC o dan UA12 yn parhau’n ddigyfnewid. Mae arbenigedd milfeddygon yn parhau’n ganolog i wella iechyd, lles a chynhyrchiant anifeiliaid
- bwriad Llywodraeth Cymru wrth integreiddio gofynion cynlluniau gwarant fferm â gofynion UA12 yw lleihau dyblygu a’r baich gweinyddol ar ffermwyr a milfeddygon, gan yr un pryd sicrhau canlyniadau o ran iechyd a lles anifeiliaid. Nid yw’r broses newydd hon am weld glastwreiddio’r AHIC na’r cynlluniau gwarant fferm sy’n dewis cymryd rhan
- bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda chynlluniau gwarant fferm sydd â diddordeb dros y misoedd i ddod i ddeall sut y gall yr integreiddio hwn weithio ar lefel ymarferol
- byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i gynlluniau gwarant fferm gadarnhau a ydynt am integreiddio elfennau o’r UA12 yn eu Cynlluniau Iechyd a Lles Anifeiliaid o 2027
- ni fydd angen i ffermwyr sy’n aelodau o gynllun gwarant fferm achrededig sydd wedi ymrwymo i integreiddio AHIC o 2027 fodloni gofynion ‘Mesur’ a ‘Chynllun’ AHIC ar wahân yn 2026. Caiff gofynion iechyd a lles eu cynllun gwarant fferm presennol eu derbyn fel prawf eu bod yn bodloni’r gofyn hwn. I’ch atgoffa, yn 2026, dim ond elfennau ‘Mesur’ a ‘Chynllun’ AHIC sydd angen eu cwblhau
- os yw ffermwr eisoes wedi cwblhau elfennau ‘Mesur’ a ‘Chynllun’ ei AHIC ar gyfer 2026 a’i fod yn aelod o gynllun gwarant fferm sydd wedi ymrwymo i integreiddio AHIC â’i gynllun iechyd a lles anifeiliaid, bydd yn gallu defnyddio’r gwaith sydd eisoes wedi’i gwblhau trwy AHIC 2026 (er enghraifft, y blaenoriaethau a nodwyd a’r gweithredoedd y cytunwyd arnynt gyda’r milfeddyg) i fwydo a chefnogi cynlluniau iechyd a lles y cynllun gwarant fferm ar gyfer 2027
- os yw’r ffemwr wedi ysgwyddo costau mewn cysylltiad â’r AHIC eisoes ond a fyddai wedi bodloni’r gofynion newydd heb ysgwyddo’r costau hynny, gall gysylltu â’r RPW trwy’r ffurflen ymholiadau ar-lein a rhoi manylion y costau a ysgwyddwyd i weld a oes ganddo hawl i iawndal. Caiff pob achos ei ystyried ar wahân
- os nad yw ffermwr wedi cwblhau cynllun iechyd a lles anifeiliaid ei gynllun gwarant fferm eto ar gyfer 2026, rydyn ni’n cynghori milfeddygon i ymgorffori elfennau ‘Mesur’ a ‘Chynllun’ yr AHIC yn eu cynllun 2026. Bydd hynny’n helpu i barhau i wella iechyd a lles anifeiliaid a helpu ffermwyr i baratoi ar gyfer eu gofynion yn 2027
- os nad yw ffermwr yn aelod o gynllun gwarant fferm, ni fydd y newid hwn yn effeithio arno, ond bydd dal angen iddo fodloni gofynion cyfredol AHIC. Fe welwch ddisgrifiad llawn o Weithred Gyffredinol 12 yn adran J12 yn Cynllun Ffermio Cynaliadwy (2026): haen gyffredinol: llyfryn rheolau
- ar gyfer cynllun blwyddyn 2026, bydd angen i ffermwyr gynnal Asesiad o Fioddiogelwch Stoc sy’n Cyrraedd y Daliad (BAIS) yn unol â Chanllawiau’r Cynllun. Fodd bynnag, o 2027, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y gofyn hwnnw wedi’i fodloni os yw cynllun gwarant fferm y ffermwr sy’n cymryd rhan yn yr SFS yn ymrwymo i ymgorffori’r BAIS ac AHIC yn eu cynlluniau iechyd a lles
- bydd dal gofyn i ffermwyr sydd wedi cael Rhif Prawf Milfeddygol (VAN) ond sydd ddim yn aelod o gynllun gwarant fferm cydnabyddedig gwblhau pob elfen o’r UA12 os ydyn nhw wedi ymaelodi â’r SFS. Nid yw VAN yn gynllun gwarant fferm ac ni fydd yn brawf bod ffermwr wedi bodloni AHIC neu ofynion eraill UA12
