Gweithredu Deddf Cynllunio (Cymru) 2026 a Deddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2026
Sut y byddwn yn gweithredu’r Deddfau, gyda’r prif gamau ac amserlen.
Ar y dudalen hon
Rhan 1: Cefndir
1.1 Cafodd Deddf Cynllunio (Cymru) 2026 ("y Ddeddf Gynllunio") a Deddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2026 ("y Ddeddf Darpariaethau Canlyniadol") gefnogaeth drawsbleidiol yn eu pleidlais derfynol yn Senedd Cymru ar 10 Mawrth 2026, a chafwyd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026, a thrwy hynny daethant yn Ddeddfau'r Senedd.
1.2 Mae'r Ddeddf Gynllunio yn nodi gwahanu deddfwriaethol hanesyddol rhwng Cymru a Lloegr o ran cyfraith gynllunio. Drwy gydgrynhoi a chodio deddfwriaeth gynllunio'n benodol ar gyfer Cymru, mae'n sefydlu fframwaith cyfreithiol penodol sy'n adlewyrchu'r system gynllunio yng Nghymru. Mae'n darparu'r datganiad mwyaf cynhwysfawr a hygyrch o'r ddeddfwriaeth sy'n rheoli cynllunio gwlad a thref unrhyw le yn y DU.
1.3 Mae'r Ddeddf Cynllunio yn dwyn ynghyd ddarpariaethau presennol mewn un statud dwyieithog, cydlynol, gan ddisodli fframwaith tameidiog a ddatblygwyd dros ddegawdau. Mae'n moderneiddio ac yn egluro'r gyfraith gan ei gwneud yn haws ei deall a'i defnyddio. Er bod strwythur a geiriad y gyfraith wedi newid, mae ei heffaith gyfreithiol yn aros yr un fath.
1.4 Mae'r Ddeddf Darpariaethau Canlyniadol yn ategu'r Ddeddf Cynllunio drwy wneud y diwygiadau a'r diddymiadau sydd eu hangen i'r ddeddfwriaeth bresennol, gan gynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed i gefnogi gweithredu'r Ddeddf Cynllunio newydd yn didrafferth. Mae'r ffaith bod y darpariaethau hyn mewn Deddf ar wahân yn osgoi llwytho'r brif Ddeddf Cynllunio ag Atodlenni technegol hir sydd naill ai â hyd oes gyfyngedig yn ymarferol neu a fydd o ddiddordeb cyfyngedig iawn i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr cyfraith gynllunio.
1.5 Mae'r Deddfau a'r wybodaeth ategol, megis y Nodiadau Esboniadol a'r Nodiadau Drafftwyr, i'w gweld yn legislation.gov.uk, sydd ar gael yn y dolenni canlynol:
1.6 Mae gwybodaeth sy'n ymwneud â chraffu ar y Biliau y deilliodd y ddwy Ddeddf ohonynt ar gael ar wefan y Senedd:
1.7 Fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Deddfau, disgwylir i'r ddeddfwriaeth gychwyn 18 mis ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol. Felly, rhagwelir y bydd y fframwaith deddfwriaethol newydd yn dod i rym ym mis Hydref 2027. Bydd yr union ddyddiad cychwyn yn cael ei gadarnhau yn' Canllawiau i Ymarferwyr ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2026', y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi yng Ngwanwyn 2027.
1.8 Pan ddaw'r Deddfau i rym byddant yn cael eu hategu gan gyfres o is-ddeddfwriaeth. Hyd nes y bydd y Deddfau a'r is-ddeddfwriaeth berthnasol yn cael eu cychwyn, bydd y fframwaith deddfwriaethol presennol yn parhau i fod yn berthnasol.
Diben y ddogfen a'r dull cyffredinol o weithredu
1.9 Mae'r ddogfen hon yn nodi'r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r Deddfau, gan gynnwys y camau allweddol a'r amserlen ar gyfer eu cychwyn.
1.10 Mae'r system gynllunio yn cael ei hategu gan gorff sylweddol a chymhleth o is-ddeddfwriaeth, ynghyd ag amrediad eang o ganllawiau, dogfennau polisi ac adnoddau gweithredol y bydd angen eu diwygio a'u diweddaru i gyd er mwyn iddynt gyd-fynd â'r Ddeddf Cynllunio. O ystyried ehangder a natur dechnegol y ddeddfwriaeth a'r dogfennau ategol, bydd angen diweddaru ac ailddatgan y deunyddiau hyn mewn ffordd raddol, er mwyn galluogi cychwyn y Deddfau mewn modd amserol.
1.11 Bydd y cam cyntaf ("y cam gweithredu"), y disgwylir iddo gael ei gyflawni rhwng nawr a mis Hydref 2027, yn canolbwyntio ar wneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth, cychwyn y rhaglen o ailddatgan yr is-ddeddfwriaeth – yn ogystal â diwygio a diweddaru'r canllawiau a ddefnyddir yn amlaf gan ymarferwyr, y mae angen diweddariadau sylweddol iddynt o ganlyniad i'r Deddfau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gan randdeiliaid yr offerynnau hanfodol ar waith o'r diwrnod cyntaf, wrth gynnal effaith gyfreithiol bresennol y system.
1.12 Bydd yr ail gam yn parhau â'r rhaglen o ailddatgan, ar ffurf wedi'i moderneiddio a'i diweddaru, yr is-ddeddfwriaeth sy'n sail i'r system gynllunio, a diwygio a diweddaru'r gyfres ehangach o ganllawiau a dogfennau polisi dros y tymor canolig i'r hirdymor.
1.13 Mae'r dull hwn yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng cychwyn y Deddfau mewn modd amserol a'r cyfyngiadau ymarferol sy'n gysylltiedig â diweddaru a diwygio corff sylweddol a thechnegol o is-ddeddfwriaeth, canllawiau a dogfennau polisi a deunyddiau gweithredol eraill.
1.14 Bydd y cam gweithredu yn cynnwys tair rhan allweddol, gydgysylltiedig a fydd gyda'i gilydd yn ategu cychwyn y Deddfau mewn ffordd effeithiol:
- Paratoi a gwneud is-ddeddfwriaeth (gweler Rhan 2);
- Diweddaru canllawiau, polisïau a deunyddiau gweithredol presennol (gweler Rhan 3);
- Cefnogi rhanddeiliaid (gweler Rhan 4).
1.15 Mae'r cynllun gweithredu hwn yn nodi'r dull a'r gwaith ar draws y tri maes allweddol hyn, ynghyd â'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i baratoi ar gyfer cychwyn y Deddfau.
Rhan 2: Paratoi a gwneud is-ddeddfwriaeth
2.1 Er mwyn cefnogi cychwyn y Deddfau, bydd pecyn o is-ddeddfwriaeth yn cael ei gyflwyno. Bydd hyn yn cynnwys rheoliadau sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i'r is-ddeddfwriaeth bresennol, yn ogystal â rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth newydd ar gyfer diogelu coed. Bydd hefyd yn cynnwys ailddatgan (h.y. symleiddio a moderneiddio) nifer fach o offerynnau statudol presennol.
2.2 Mae manylion y rhaglen ddeddfwriaethol hon yn parhau i gael eu mireinio. Yn benodol, gall nifer a threfn offerynnau statudol Cymru sy'n rhan o'r cam gweithredu newid yn ystod y broses ddrafftio. Gall hyn gynnwys nodi offerynnau ychwanegol i'w hailddatgan, neu ddarpariaeth newydd yn cael ei nodi o fewn offerynnau statudol annibynnol ar gyfer Cymru.
2.3 Yn ogystal, efallai y bydd achosion lle mae angen datblygu polisi i gefnogi amcanion y Llywodraeth newydd, a allai olygu ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ehangach. Pan fydd hyn yn digwydd, ac er mwyn sicrhau craffu a datblygu polisi priodol, gall hyn effeithio ar pryd y daw offerynnau statudol ailddatganedig ar gyfer Cymru i rym. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod modd gweithredu'r Deddfau o hyd, wrth sicrhau hyblygrwydd i ymateb i anghenion sy'n dod i'r amlwg.
2.4 Mae'r canlynol yn darparu rhestr o offerynnau statudol Cymru y disgwylir iddynt fod yn rhan o'r cam cyntaf o weithredu ar hyn o bryd, ac a fydd yn cael eu dwyn i rym ochr yn ochr â chychwyn y Deddfau. Bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei gosod yn unol â Rheolau Sefydlog y Senedd a rhagwelir y bydd yn dod i rym yn ystod mis Hydref 2027.
Gorchymyn Cychwyn
2.5 Bydd angen gorchymyn cychwyn i ddod â darpariaethau'r Deddfau i rym. Bydd hyn yn nodi pa ddarpariaethau yn y Deddfau sydd i'w cychwyn, a'r dyddiad y byddant yn dod i rym. Ystyrir hefyd a ddylid dod ag unrhyw ddarpariaethau heb eu cychwyn mewn deddfwriaeth bresennol wedi'i chydgrynhoi gan y Ddeddf Cynllunio i rym.
Rheoliadau Darpariaethau Canlyniadol
2.6 Bydd y rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau sy'n deillio o'r Ddeddf Cynllunio i is-ddeddfwriaeth. Mae angen nifer o ddiwygiadau er mwyn cadw'r sefyllfa gyfreithiol bresennol oherwydd newidiadau a wnaed i'r ddeddfwriaeth bresennol sydd wedi cael ei chydgrynhoi yn y Ddeddf. Rydym hefyd yn bwriadu cynnwys darpariaeth sy'n diwygio cyfeiriadau mewn is-ddeddfwriaeth at ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi cael ei chydgrynhoi, i sicrhau eu bod yn cyfeirio at y darpariaethau cywir yn y Ddeddf Cynllunio. Er bod darpariaeth yn Neddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn sicrhau y bydd is-ddeddfwriaeth yn parhau i weithio'n gywir pan ddaw'r Ddeddf i rym heb i'r newidiadau hyn gael eu gwneud, bydd diwygio is-ddeddfwriaeth i gyfeirio at ddarpariaethau yn y Ddeddf Cynllunio yn cynyddu hygyrchedd y ddeddfwriaeth.
2.7 Efallai y bydd angen gwneud diwygiadau cyfyngedig i ddeddfwriaeth sylfaenol i adlewyrchu newidiadau mewn mannau eraill yn y llyfr statud sydd wedi cael eu gwneud ers i'r Ddeddf Darpariaethau Canlyniadol cael y Cydsyniad Brenhinol.
Rheoliadau Cynllunio (Diogelu Coed) (Cymru) 2027
2.8 Mae Rhan 9 o'r Ddeddf Cynllunio yn ailddatgan darpariaethau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, sy'n ymwneud â diogelu coed a choetiroedd, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio 2008. Mae'r diwygiadau hynny, a fydd wedi cael eu dwyn i rym yng Nghymru yn union cyn i Ran 9 o'r Ddeddf newydd dod i rym, yn galluogi'r holl fanylion gweithdrefnol perthnasol i gael eu cynnwys mewn rheoliadau, yn hytrach nag ym mhob gorchymyn diogelu unigol.
2.9 Mae angen rheoliadau newydd, wedi'u gwneud o dan bwerau yn Rhan 9 o'r Ddeddf Cynllunio, i alluogi'r system newydd i weithredu'n foddhaol. Felly, bydd Rheoliadau Cynllunio (Diogelu Coed) (Cymru) 2027 yn dod i rym ar yr un pryd â Rhan 9, gan gwblhau'r gwaith o gydgrynhoi'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer diogelu coed a choetiroedd yng Nghymru. Cynhaliwyd ymgynghoriad gan Lywodraeth flaenorol Cymru ar y cynigion ar gyfer rheoliadau coed a choetiroedd rhwng Tachwedd 2024 a Chwefror 2025. Mae'r wybodaeth ategol ar gael wefan Llywodraeth Cymru.
2.10 Mae Rheoliadau Cynllunio (Diogelu Coed) (Cymru) 2027, ynghyd â Rhan 9 o'r Ddeddf Cynllunio ei hun, yn symleiddio ac yn atgyfnerthu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer diogelu coed a choetiroedd sydd o werth arbennig i amwynderau, gan gynnwys coed hynod a choetiroedd hynafol. Maent hefyd yn gweithredu rhai o'r argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith yn eu hadroddiad: Cyfraith Gynllunio yng Nghymru. Bydd gorchmynion diogelu coed presennol yn parhau i fod yn ddilys, a bydd y rhai sy'n ymwneud â choetiroedd yn dod yn orchmynion diogelu coetir yn awtomatig o dan y darpariaethau trosiannol yn y Ddeddf Darpariaethau Canlyniadol.
Ailddatgan is-ddeddfwriaeth
2.11 Bydd y cam gweithredu hefyd yn cynnwys ailddatgan nifer fach o offerynnau. Dyma fydd dechrau rhaglen hirdymor ac uchelgais y Llywodraeth i ailddatgan y corff o is-ddeddfwriaeth sy'n cefnogi'r Ddeddf Cynllunio, gan sicrhau ei bod yr un mor glir a hygyrch i randdeiliaid â'r Ddeddf Cynllunio ei hun.
2.12 Os na fydd is-ddeddfwriaeth yn cael ei hailddatgan yn ystod y cyfnod gweithredu hwn, mae darpariaeth yn Neddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn golygu y bydd yr is-ddeddfwriaeth sy'n cael ei dirymu'n parhau i gael effaith fel pe bai wedi cael ei gwneud o dan y Ddeddf Cynllunio.
2.13 Er mwyn dechrau'r Deddfau yn unol â'r amserlen, rhagwelir na fydd yr is-ddeddfwriaeth a fydd yn cael ei hailddatgan yn ystod y cam hwn yn cynnwys diwygiadau polisi. Fodd bynnag, ystyrir ymgorffori diwygiadau sydd eisoes wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.
2.14 Rhagwelir y bydd y cam gweithredu'n cynnwys ailddatgan yr is-ddeddfwriaeth ganlynol.
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 ("Gorchymyn 2012").
2.15 Mae Gorchymyn 2012 wedi cael ei nodi i'w ailddatgan oherwydd ei rôl ganolog wrth weithredu'r system rheoli datblygiadau, nifer y diwygiadau sydd wedi cael eu gwneud i'r Gorchymyn ers iddo ddod i rym yn 2012 a'r diwygiadau sydd eu hangen o ganlyniad i'r Ddeddf Cynllunio.
2.16 Byddwn hefyd yn ystyried a ellir cynnwys darpariaethau gweithdrefnol cysylltiedig sydd mewn rheoliadau neu orchmynion presennol eraill ar hyn o bryd, megis Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992, wrth ailddatgan Gorchymyn 2012.
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 ("Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd")
2.17 Mae Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd wedi cael ei nodi i'w ailddatgan oherwydd ei rôl bwysig yn y ffordd y gellir defnyddio tir ac adeiladau o fewn y system gynllunio, a'i arwyddocâd mewn penderfyniadau rheoli datblygu o ddydd i ddydd. O ystyried ei oedran a'r nifer o welliannau a wnaed iddo, gan gynnwys gwelliannau sy'n gymwys i Loegr yn unig, mae'r offeryn presennol yn dod yn fwyfwy anhygyrch a dryslyd i'r holl randdeiliaid, yn enwedig wrth ddeall sut mae'n gymwys yng Nghymru. Mae ailddatgan yr offeryn fel y mae'n gymwys yng Nghymru yn caniatáu i'r holl ddarpariaethau sy'n gymwys i Loegr yn unig gael eu hepgor. Bydd hyn yn arwain at offeryn dwyieithog wedi'i ddrafftio i safonau modern, gan wella hygyrchedd a darparu sylfaen glir a chydgysylltiedig ar gyfer diwygiadau yn y dyfodol.
2.18 Bydd Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd a Gorchymyn 2012 yn cael eu gwneud ar ffurf rheoliadau, yn hytrach na gorchmynion. Mae hyn oherwydd bod pwerau Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ar y materion sydd yn y gorchmynion gwreiddiol ar hyn o bryd wedi cael eu hailddatgan i fod yn bwerau i wneud rheoliadau yn unol â'r arferion drafftio presennol.
Cyfarwyddiadau nad ydynt yn ymwneud â safle penodol
2.19 Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi nifer o gyfarwyddiadau nad ydynt yn ymwneud â safle penodol o dan erthyglau 18(1), 20, 22(5) a 31 o Orchymyn 2012, gan gynnwys Cyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Datblygiad Glo a Phetroliwm) (Cymru) 2026 a Chyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Mewn Ardaloedd Risg Llifogydd) (Hysbysu) (Cymru) 2025.
2.20 Rydym yn bwriadu ailddatgan y Cyfarwyddiadau hyn i adlewyrchu'r fframwaith deddfwriaethol newydd, a'u hailgyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd y gofynion o sylwedd sydd ym mhob set o Gyfarwyddiadau yn cael eu newid.
2.21 Byddwn hefyd yn ystyried gwella hygyrchedd y Cyfarwyddiadau hyn, gan gynnwys a yw'n bosibl iddynt gael eu hailddatgan ar ffurf un offeryn.
Rhan 3: Diweddaru canllawiau, polisi a deunyddiau gweithredol
3.1 Bydd nifer o ganllawiau a dogfennau gweithdrefnol allweddol yn cael eu diweddaru a'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ar ôl cychwyn y Deddfau (rhagwelir y bydd hyn yn ystod mis Hydref 2027).
Llawlyfr Rheoli Datblygu
3.2 Bydd y Llawlyfr Rheoli Datblygu ("y Llawlyfr") yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwyd gan y Deddfau a'r is-ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei hailddatgan. Bydd hyn yn cynnwys diwygiadau i adrannau presennol, cyflwyno deunydd newydd lle bo angen, a diweddariadau i groesgyfeiriadau a therminoleg i sicrhau cysondeb â'r fframwaith deddfwriaethol newydd.
3.3 Bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod y Llawlyfr yn parhau i ddarparu ffynhonnell glir a chynhwysfawr o ganllawiau gweithredol i awdurdodau cynllunio ac ymarferwyr ar ôl cychwyn y Deddfau.
Defnyddio amodau cynllunio ar gyfer rheoli datblygu (WGC 016/2014)
3.4 Bydd y Cylchlythyr ynghylch defnyddio amodau cynllunio yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru i adlewyrchu'r Deddfau, cyfraith achos berthnasol, a newidiadau i ymarferion ers iddo gael ei gyhoeddi yn 2014. Fel dogfen weithdrefnol allweddol o fewn y broses rheoli datblygu, bydd y deunyddiau sydd wedi cael eu diweddaru'n cael eu hymgorffori yn y Llawlyfr Rheoli Datblygu fel Atodiad newydd.
Llawlyfr Cynlluniau Datblygu
3.5 Bydd y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r fframwaith deddfwriaethol newydd. Bydd hyn yn cynnwys diweddariadau i derminoleg a chyfeiriadau deddfwriaethol sy'n deillio o'r Deddfau.
3.6 Er bod disgwyl i'r newidiadau sydd eu hangen fod yn gyfyngedig o ran cwmpas, bydd cyhoeddi Llawlyfr Cynlluniau Datblygu wedi'i ddiweddaru, ochr yn ochr â'r Llawlyfr Rheoli Datblygu, yn sicrhau bod gan ymarferwyr fynediad at ganllawiau gweithdrefnol cyfredol o adeg cychwyn y Deddfau.
Ffurflenni cais
3.7 Bydd y gyfres o ffurflenni cais, wedi'u cyhoeddi gan Weinidogion Cymru, yn cael eu diwygio a'u hailgyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd y rhain yn cael eu rhannu â darparwyr gwasanaethau gwneud cais ar-lein allanol cyn y cychwyn er mwyn galluogi gwneud y diweddariadau sydd eu hangen i'r system.
3.8 Bydd y diwygiadau'n cynnwys diweddariadau i'r daliadau amaethyddol a gofynion ynghylch tystysgrifau perchnogaeth, a fydd â goblygiadau ar gyfer prosesau dilysu. Mae rhagor o fanylion yn 'Canllawiau i Ymarferwyr ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2026' – y canllawiau i ddefnyddiwr a fydd yn cyd-fynd â'r Deddfau.
Polisi Cynllunio Cenedlaethol
3.9 Bydd angen i'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, Polisi Cynllunio Cymru a sawl Nodyn Cyngor Technegol cysylltiedig (TANs) adlewyrchu'r fframwaith deddfwriaethol newydd wedi'i sefydlu gan y Deddfau. Bydd y diwygiadau hyn yn cael eu sbarduno gan yr adolygiadau polisi sylweddol nesaf o'r dogfennau hyn, sy'n debygol o gael eu cynnal ar ôl cychwyn y Deddfau.
Gwefan Llywodraeth Cymru
3.10 Bydd amryw dudalennau allweddol a ddefnyddir yn rheolaidd gan randdeiliaid ar adran gynllunio gwefan Llywodraeth Cymru yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r fframwaith deddfwriaethol newydd.
Rhan 4: Cefnogi rhanddeiliaid
4.1 Bydd cymorth wedi'i dargedu ar gyfer rhanddeiliaid yn rhan allweddol o'r cam gweithredu i sicrhau bod ymarferwyr wedi'u paratoi'n dda ar gyfer y fframwaith deddfwriaethol newydd cyn iddo gael ei gychwyn. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi tair dogfen ganllaw sylweddol.
Canllawiau i Ymarferwyr ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2026
4.2 Cyn cychwyn y Ddeddf, bydd "canllawiau i ddefnyddiwr" ar y Ddeddf yn cael eu cyhoeddi yng Ngwanwyn 2027. Bydd y ddogfen hon yn helpu holl ddefnyddwyr y system gynllunio i ddeall a defnyddio'r fframwaith deddfwriaethol newydd yn barod ar gyfer ei gychwyn ffurfiol. Bydd yn tynnu sylw at newidiadau allweddol sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth newydd ac yn darparu canllawiau i gefnogi rhanddeiliaid i baratoi ar gyfer ei chychwyn, gan gynnwys canllawiau penodol ar gyfer awdurdodau cynllunio i'w helpu yn ystod y cyfnod pontio.
Diogelu Coed a Choetiroedd yng Nghymru: Canllaw i'r Gyfraith ac Arferion Da
4.3 Ochr yn ochr â Rhan 9 o'r Ddeddf Cynllunio a Rheoliadau Cynllunio (Diogelu Coed) (Cymru) 2027 (gweler uchod), bydd canllawiau yn cael eu cyhoeddi yn egluro sut y bydd y system newydd yn gweithredu. Yn benodol bydd yn tynnu sylw at gyflwyno gorchmynion diogelu coetir, y ffactorau i'w hystyried wrth wneud gorchmynion, symleiddio gweithdrefnau gwneud gorchmynion, a'r eithriadau diwygiedig i'r angen i gael cydsyniad ar gyfer gwaith ar goed gwarchodedig. Mae'r canllawiau yn cael eu paratoi mewn cydweithrediad â gweithgor o randdeiliaid allweddol.
4.4 Mae'n debygol y bydd y canllawiau hyn yn cael eu cyhoeddi yn Haf 2027 cyn i'r ddeddfwriaeth newydd ddod i rym, er mwyn galluogi awdurdodau ac ymarferwyr i ymgyfarwyddo â hi.
Cynllunio ar gyfer mwynau yng Nghymru: Canllaw ar y Ddeddfwriaeth
4.5 Mae'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu datblygu mwynau wedi esblygu'n raddol dros amser. Mae wedi cael ei ledaenu ar draws nifer o Ddeddfau a darnau o is-ddeddfwriaeth, gan ddefnyddio pwerau addasu yn helaeth. Mae hyn wedi gwneud y gyfraith yn gymhleth ac yn anodd ei ddeall. Mae'r Ddeddf Cynllunio yn mynd i'r afael â hyn drwy ddod â'r holl ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol ar gyfer datblygu mwynau ynghyd, gan gynnwys darpariaethau a gynhwyswyd yn flaenorol yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (gan gynnwys darpariaethau wedi'u haddasu gan reoliadau), Deddf Cynllunio a Digolledu a Deddf yr Amgylchedd 1995 yn un fframwaith cydgysylltiedig . Mae'r Ddeddf hefyd yn diweddaru terminoleg ac yn dileu darpariaethau nad oes eu hangen bellach. Mae hyn yn galluogi gweithredwyr mwynau, awdurdodau cynllunio a defnyddwyr eraill i gael mynediad i'r gyfraith yn haws a hynny mewn un lle.
4.6 Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau ochr yn ochr â'r Ddeddf Cynllunio, yn esbonio sut mae'r Ddeddf yn berthnasol i ddatblygu mwynau. Bydd y canllawiau hyn yn cael eu cyhoeddi yn ystod mis Hydref 2027.
Terminoleg gynllunio yn y Gymraeg
4.7 Mae creu'r Ddeddf Cynllunio yn garreg filltir arwyddocaol i derminoleg gynllunio yn y Gymraeg. I gyd-fynd â chyhoeddi'r Ddeddf ar legislation.gov.uk, mae rhestr dermau ddwyieithog Saesneg-Cymraeg gynhwysfawr o derminoleg gynllunio wedi cael ei lansio ar wefan BydTermCymru.
4.8 Mae'r rhestr dermau annibynnol hon yn dwyn ynghyd tua 300 o dermau allweddol o'r Ddeddf Cynllunio a Deddf Seilwaith (Cymru) 2024, sy'n gysylltiedig yn agos â'i gilydd, gan ddarparu adnodd awdurdodol, hygyrch i helpu unrhyw un sydd eisiau defnyddio terminoleg gynllunio neu ddefnyddio'r system gynllunio drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma'r rhestr gynhwysfawr gyntaf o derminoleg gynllunio yn y Gymraeg i gael ei chyhoeddi ers 30 mlynedd.
4.9 Cafodd termau cyfarwydd eu cadarnau pan oedd hynny'n briodol, ac mae eraill wedi cael eu mireinio neu eu haddasu i sicrhau eglurder, cysondeb a chadernid cyfreithiol.
4.10 Mae'r rhestr dermau ar gael mewn gwahanol fformatau electronig, gan ei gwneud yn hawdd ei hailddefnyddio ar draws sefydliadau a systemau.
4.11 Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod rhai o'r termau newydd yn y rhestr yn ddarostyngedig i'r darpariaethau perthnasol yn y Ddeddf Cynllunio gael eu cychwyn, a bydd y telerau yn y fframwaith deddfwriaethol presennol sydd eisoes ar waith yn parhau i fod yn berthnasol nes bod y darpariaethau hynny wedi dod i rym.
Ymgysylltu
4.12 Bydd ymgysylltu rheolaidd â rhanddeiliaid yn cael ei gynnal drwy ddigwyddiadau sefydledig, megis cyfarfodydd chwarterol gyda Chymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru (POSW), i sicrhau bod y gweithredu'n ddidrafferth, yn gefnogol ac yn gydweithredol.
4.13 Ein nod yw darparu'r offerynnau sydd eu hangen ar randdeiliaid i'w helpu i ddeall y newidiadau, wrth ddarparu ar yr un pryd sianeli ar gyfer codi cwestiynau penodol wrth iddynt ddechrau cymhwyso'r ddeddfwriaeth newydd yn ymarferol. Wrth inni ymgysylltu â rhanddeiliaid, bydd unrhyw gwestiynau cyffredin yn cael eu llunio mewn rhestr a'u cyhoeddi ochr yn ochr â'r canllawiau i ddefnyddiwr ar wefan Llywodraeth Cymru. Gellir hefyd anfon unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r cam gweithredu at cydgrynhoicynllunio@llyw.cymru.
4.14 Wrth i'r dyddiad cychwyn nesáu, os bydd unrhyw faterion newydd, arbenigol yn codi nad ydynt yn cael sylw yn y canllawiau i ddefnyddiwr, bydd digwyddiadau ymgysylltu â ffocws yn cael eu trefnu.
Rhan 5: Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW)
5.1 Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) yn rheoli gwaith achos sy'n ymwneud â datblygu a defnyddio tir er budd y cyhoedd, ar ran Gweinidogion Cymru. Mae hyn yn cynnwys apeliadau cynllunio a gorfodi a cheisiadau wedi'u hadfer sydd ar hyn o bryd yn dod o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, ond bydd y Ddeddf honno'n cael ei disodli gan ddarpariaethau'r Ddeddf Cynllunio a'r Ddeddf Darpariaethau Canlyniadol. Felly, mae angen i PEDW baratoi ar gyfer y Deddfau newydd drwy ddiweddaru canllawiau cyhoeddedig, llythyrau templed, hysbysiadau safle a datganiadau i'r wasg a ffurflenni apelio.
5.2 Mae PEDW yn cyhoeddi canllawiau i bartïon sy'n gysylltiedig â'u gwaith ar eu tudalennau gwe Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru | LLYW. CYMRU. Bydd y canllawiau hyn yn cael eu hadolygu a'u diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau deddfwriaethol wedi'u cyflwyno gan y Deddfau a'r is-ddeddfwriaeth wedi'i hailddatgan cyn iddynt gael eu cychwyn. Bydd hyn yn cynnwys diwygiadau a chyflwyno deunydd newydd os bydd angen, a diweddariadau i groesgyfeiriadau a therminoleg i sicrhau cysondeb â'r fframwaith deddfwriaethol newydd. Bydd hyn yn sicrhau bod canllawiau PEDW yn parhau i fod yn glir ac yn gynhwysfawr ar ôl cychwyn y Deddfau.
5.3 Bydd y gyfres o ffurflenni apelio, a gyhoeddir gan PEDW ar ran Gweinidogion Cymru, hefyd yn cael eu diweddaru a'u hailgyhoeddi ar eu gwefan pan fydd y Deddfau'n cael eu cychwyn yn ystod mis Hydref 2027.
5.4 Bydd PEDW hefyd yn adolygu ac yn diweddaru eu llythyrau safonol, eu hysbysiadau safle a'u datganiadau i'r wasg yn ôl yr angen, yn ogystal â'u Llawlyfr Hyfforddi Arolygwyr, cyn i'r Deddfau cael eu cychwyn.
Rhan 6: Crynodeb o’r Dyddiadau Allweddol
Y Cam Gweithredu: 27 Ebrill 2026 i Disgwylir yn Hydref 2027
Y cam ymgyfarwyddo – paratoi ar gyfer cychwyn y deddfau: Gwanwyn 2027 i Disgwylir yn Hydref 2027
27 Ebrill 2026
- Y Deddfau'n cael y Cydsyniad Brenhinol
- Y rhestr dermau o derminoleg gynllunio' yn cael ei chyhoeddi
Gwanwyn 2027
- Canllawiau i Ymarferwyr ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2026' yn cael eu cyhoeddi
Haf 2027
- Is-ddeddfwriaeth yn cael ei gosod gerbron y Senedd
- Diogelu Coed a Choetiroedd yng Nghymru: Canllaw i'r Gyfraith ac Arferion Da' yn cael ei gyhoeddi
Disgwylir yn Hydref 2027
- Y Deddfau'n cael eu cychwyn
- Y Llawlyfr Rheoli Datblygu’ yn cael ei gyhoeddi
- Llawlyfr Cynlluniau Datblygu' yn cael ei gyhoeddi
- Cynllunio ar gyfer mwynau yng Nghymru: Canllaw ar y Ddeddfwriaeth' yn cael ei gyhoeddi
- Cyfarwyddiadau nad ydynt yn ymwneud â safle penodol yn cael eu cyhoeddi
- Ffurflenni cais cynllunio ac apelio'n cael eu cyhoeddi
6.1 Disgwylir i'r Ddeddf Cynllunio, y Ddeddf Darpariaethau Canlyniadol Cynllunio a'r holl is-ddeddfwriaeth wedi'i gwneud i gefnogi'r fframwaith deddfwriaethol newydd ddod i rym yn ystod mis Hydref 2027.
6.2 Bydd y canllawiau i ddefnyddiwr ar y Ddeddf Gynllunio, 'Canllawiau i Ymarferwyr ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2026', yn cael eu cyhoeddi tua chwe mis cyn cychwyn y Deddfau (felly yn ystod Gwanwyn 2027). Bydd hyn yn rhoi digon o amser i ymarferwyr a sefydliadau ymgyfarwyddo â'r newidiadau sydd yn yr arfaeth a pharatoi ar eu cyfer cyn iddynt gychwyn'n ffurfiol.
6.3 Bydd yr is-ddeddfwriaeth a nodir yn Rhan 2 o'r ddogfen hon yn cael ei gwneud[1] a'i chyhoeddi wedyn ar legislation.gov.uk yn ystod Haf 2027. Bydd y canllawiau sy'n cyd-fynd â Rheoliadau Cynllunio (Diogelu Coed) (Cymru) 2027 - 'Diogelu Coed a Choetiroedd yng Nghymru: Canllaw i'r Gyfraith ac Arferion Da' - hefyd yn cael eu cyhoeddi ar yr adeg honno.
6.4 Bydd y gyfres o ddeunyddiau a nodir yn Rhan 3 o'r ddogfen hon, y 'Cynllunio ar gyfer mwynau yng Nghymru: Canllaw ar y Ddeddfwriaeth' a nodir yn Rhan 4, a'r deunyddiau sydd i'w cynhyrchu gan PEDW a nodir yn Rhan 5 yn cael eu cyhoeddi yn ystod mis Hydref 2027 i gefnogi cychwyn y Deddfau.
[1] Mewn rhai achosion, yn dibynnu ar ofynion y Deddfau, rhaid i'r ddeddfwriaeth gael ei gosod gerbron y Senedd a'i chymeradwyo cyn y gall Gweinidogion Cymru ei gwneud
Rhan 7: Edrych i'r dyfodol (Cam Dau)
7.1 Bydd Cam Dau yn dechrau ar ôl cychwyn y Deddfau. Bydd hon yn rhaglen raddol i ailddatgan, ar ffurf wedi'i moderneiddio a'i diweddaru, weddill y corff o is-ddeddfwriaeth cynllunio. Bydd hyn yn cynnwys offerynnau allweddol fel Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, ynghyd â diweddariadau i'r gyfres ehangach o ganllawiau cynllunio a dogfennau polisi.
7.2 Bydd Cam Dau yn cael ei gyflwyno dros y tymor canolig i'r hirdymor, a bydd ailddatgan yr is-ddeddfwriaeth yn cael ei gynnal mewn dilyniant strwythuredig fel bod y system yn parhau i weithredu'n effeithiol wrth i'r rhaglen ehangach fynd rhagddi. Bydd y cam hwn yn cael ei lywio gan flaenoriaethu parhaus a maint unrhyw ddatblygu polisi sydd ei angen, gan gynnwys diwygiadau polisi posibl. Bydd y drefn ar gyfer ailddatgan yr is-ddeddfwriaeth yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys ei defnydd gan ymarferwyr, maint y diwygiadau wedi'u gwneud i'r offeryn a nifer y cyfeiriadau at ddeddfwriaeth wedi'i hailddatgan yn y Ddeddf Cynllunio. Pan fydd hynny'n ymarferol, gall hyn fod yn gysylltiedig ag amseriad newidiadau arfaethedig i is-ddeddfwriaeth sy'n ofynnol gan ddiwygiadau polisi.
7.3 Disgwylir i ragor o fanylion am ailddatgan is-ddeddfwriaeth gael eu nodi yn rhaglen nesaf y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru (y mae'n ofynnol gwneud hynny o dan Ran 1 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019).[2]
[2] Bydd y rhaglen hon yn cael ei gwneud a'i chyhoeddi erbyn canol Tachwedd 2026 fan bellaf.
