Neidio i'r prif gynnwys

Trosolwg

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn gwahodd barn ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoliadau o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026. Yn benodol, mae'r cynigion yn ymwneud â phenderfyniadau gan yr awdurdod diogelwch adeiladau ynghylch pwy yw'r prif berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig, cofrestru adeiladau categori 1 a 2 ag awdurdodau diogelwch adeiladau a'r ffioedd a godir gan awdurdodau diogelwch adeiladau. 

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 18 Rhagfyr 2026, drwy unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Ymgynghoriad: WG54869

Tîm Diwygio Diogelwch Adeiladau
Y Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Mae fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill ar gael ar gais.

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth:

Tîm Diwygio Diogelwch Adeiladau
Y Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: diogelwchadeiladau@llyw.cymru

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiadau pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn cynnwys gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni chaiff eich enw na'ch manylion cyswllt eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gadwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • cludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: https://cy.ico.org.uk/

Cyflwyniad

1. Pwysleisiodd y gwersi a ddysgwyd o drychineb Tŵr Grenfell yr angen am atebolrwydd clir mewn perthynas â'r rhai sy'n berchen ar adeiladau perthnasol ac yn eu rheoli. Unwaith y bydd wedi'i rhoi ar waith, bydd Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026 (y Ddeddf) yn sefydlu cyfundrefn diogelwch adeiladau newydd yng Nghymru ar gyfer rheoleiddio'r gwaith o asesu a rheoli risgiau diogelwch adeilad mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno system reoleiddio gadarn a chydlynol, a fydd yn creu llinellau atebolrwydd clir, gan osod nifer o ddyletswyddau statudol ar “ddeiliaid dyletswydd” perthnasol mewn perthynas ag adeiladau rheoleiddiedig. Adeiladau rheoleiddiedig yw adeiladau o unrhyw faint sy'n cynnwys o leiaf 2 uned breswyl, yn amodol ar rai eithriadau. 

2. Mae'r Ddeddf yn creu tri chategori o adeiladau rheoleiddiedig, a bennir yn ôl uchder adeilad a nifer y lloriau sydd ynddo gyda gwahanol lefelau o reoleiddio yn dibynnu ar gategori'r adeilad. Mae'r adeiladau uchaf yn ddarostyngedig i'r rheoliadau llymaf.

  • Adeiladau Categori 1, sydd o leiaf 18 metr o uchder neu sydd ag o leiaf 7 llawr
  • Adeiladau Categori 2, sy'n llai na 18 metr o uchder ac sydd â llai na 7 llawr ond sydd o leiaf 11 metr o uchder neu sydd ag o leiaf 5 llawr
  • Adeiladau Categori 3, sy'n llai nag 11 metr o uchder ac sydd â llai na 5 llawr 

3. Mae'r darpariaethau ynglŷn â diogelwch tân yn y Ddeddf hefyd yn gymwys i dai amlfeddiannaeth, yn amodol ar rai eithriadau gan gynnwys pan fydd y tŷ amlfeddiannaeth wedi'i osod o dan gyd-denantiaeth unigol.

4. Bydd Awdurdodau Diogelwch Adeiladau yn gyfrifol am orfodi gofynion perthnasol gan gynnwys cofrestru adeiladau categori 1 a chategori 2 yng Nghymru. 

5. Bydd y Ddeddf a'r rheoliadau a wneir oddi tani yn cael eu rhoi ar waith dros gyfnod estynedig. Bydd gwahanol agweddau ar y ddeddfwriaeth yn dod i rym ar wahanol adegau, a bydd y gyfundrefn diogelwch adeiladau newydd yn gymwys i wahanol gategorïau o adeiladau mewn camau. Nod y dull gweithredu graddol hwn, yn rhannol, yw ceisio sicrhau bod ymgysylltu â'r broses, yn benodol ein gwaith ymgysylltu a'n hymgyngoriadau ffurfiol, yn fwy hwylus i randdeiliaid. 

6. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni ar yr agweddau cyntaf ar y ddeddfwriaeth sydd i'w rhoi ar waith. Roedd y cynigion hyn yn ymdrin â'r canlynol:

  • Rheoliadau ar gyweirio diffygion penodol mewn perthynas ag adeiladau 
  • Rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth ynghylch sut y penderfynir ar uchder neu nifer lloriau adeilad rheoleiddiedig
  • Rheoliadau ar gyfer dynodi'r Awdurdodau Diogelwch Adeiladau

 7. Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau’r ymgyngoriadau hyn yn ystod y misoedd nesaf.

Diben yr ymgynghoriad hwn

8. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cwmpasu'r canlynol:

  • Y prif berson atebol – penderfyniadau gan yr awdurdod diogelwch adeiladau, 
  • cofrestru adeiladau categori 1 a 2 â'r awdurdod diogelwch adeiladau, 
  • ffioedd a godir gan awdurdodau diogelwch adeiladau am gofrestru a phenderfyniadau ynglŷn â'r prif berson atebol a wneir gan yr awdurdod diogelwch adeiladau.

9. Byddwn yn mireinio'r cynigion hyn ar sail yr ymatebion a gawn ac, unwaith y bydd rheoliadau wedi'u gwneud, byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y gyfundrefn newydd yn gweithredu'n effeithiol yn ymarferol.

Y prif berson atebol – penderfyniadau gan yr awdurdod diogelwch adeiladau

10. Mae'r Ddeddf yn rhoi ystyr person atebol a phrif berson atebol yn adrannau 8 a 9 yn y drefn honno. 

11. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd gan adeiladau rheoleiddiedig drefniadau perchnogaeth neu reoli cymhleth lle gallai mwy nag un person atebol fodloni'r diffiniad o brif berson atebol o dan adran 9 am eu bod yn gyfrifol am wahanol rannau o strwythur allanol adeilad. O dan amgylchiadau o'r fath, gall rhywfaint o ansicrwydd godi ynghylch pwy ddylai gyflawni swyddogaethau'r prif berson atebol.

12. Gall unigolion a chanddynt fuddiant wneud cais i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl am benderfyniad ar y mater hwn (gweler adran 11 o'r Ddeddf). Gellid gwneud cais o'r fath, er enghraifft, pan fo anghytundeb ynghylch pwy yw'r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad.

13. Mae adran 10 o'r Ddeddf yn darparu, pan fo mwy nag un person atebol yn dod o fewn adran 9(3) mewn perthynas â gwahanol rannau o'r strwythur allanol, y gallant wneud cais ar y cyd i'r awdurdod diogelwch adeiladau am benderfyniad ynghylch pa un yw'r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad. 

14. Y nod yn hyn o beth yw cynnig proses glir, ddiduedd a thryloyw o benderfynu ar y prif berson atebol. Y disgwyl yw y bydd y llwybr hwn yn cael ei ddefnyddio pan fydd pob parti yn cytuno'n fras ynghylch pwy yw'r prif berson atebol, ond pan fyddant am gael penderfyniad ffurfiol i'r perwyl hwnnw. 

15. Drwy alluogi'r awdurdod diogelwch adeiladau i wneud y penderfyniad mae hyn yn cynnig ffordd fwy syml a chosteffeithiol o gael penderfyniad na chais o dan adran 11. Bydd yn helpu i leihau nifer yr achosion sy'n mynd gerbron y Tribiwnlys Eiddo Preswyl, yn enwedig pan fo cytundeb o bosibl rhwng y personau atebol yn ymarferol. Gall hyn helpu i sicrhau bod cyfrifoldebau o ran diogelwch adeiladau yn parhau i fod yn glir a bod cyn lleied o anghydfodau â phosibl.

16. Bydd rheoliadau a wneir o dan adran 10 yn nodi manylion ynghylch sut a phryd y mae rhaid gwneud ceisiadau i'r awdurdod diogelwch adeiladau, eu ffurf a'u cynnwys, tynnu ceisiadau yn ôl, a sut y dylid penderfynu arnynt.

Sut y mae rhaid gwneud cais

17. Rydym yn cynnig bod yn rhaid gwneud ceisiadau yn electronig yn ysgrifenedig gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost neu wefan a gyhoeddir gan yr awdurdod diogelwch adeiladau. 

Pryd y mae rhaid gwneud cais

18. Rydym yn cynnig y dylai fod yn bosibl gwneud cais ar unrhyw adeg, heb gyfyngiadau (ac eithrio pan fo cais wedi'i wneud i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl – gweler adran 10(4)), a hynny am y gall perchnogaeth adeilad newid ar unrhyw adeg.

Ffurf a chynnwys cais – y dogfennau y mae rhaid eu cynnwys gyda chais

19. Rydym yn cynnig bod yn rhaid i'r cais ar y cyd gynnwys y canlynol:

(a) enw pob ceisydd;
(b) manylion cyswllt ar gyfer pob ceisydd gan gynnwys cyfeiriad, rhif ffôn, a chyfeiriad e-bost (os yw ar gael); 
(c) cadarnhad bod pob person sy'n gwneud y cais wedi cydsynio i'r cais hwnnw gael ei wneud;
(d) cadarnhad bod pob parti sy'n gwneud y cais yn bodloni'r diffiniad o brif berson atebol o dan adran 9; 
(e) disgrifiad o faes/meysydd cyfrifoldeb pob ceisydd a thrwy ba fodd y mae'r rhwymedigaethau hynny arnynt (e.e. les); 
(f) prawf o rwymedigaeth atgyweirio neu ystad gyfreithiol (o dan adran 9). Gallai hyn gynnwys er enghraifft: 

  • Dogfennau teitl: copïau swyddogol o'r gofrestr teitlau gan Gofrestrfa Tir EF yn profi pwy sy'n dal ystad gyfreithiol mewn meddiant ar gyfer rhannau o'r ardaloedd cyffredin.
  • Cytundebau les: copi sampl neu ddarnau perthnasol o'r lesoedd sy'n dangos unrhyw "rhwymedigaethau atgyweirio perthnasol" statudol ar gyfer y strwythur a'r waliau allanol.
  • Dogfennau ynghylch strwythur a pherchnogaeth yr adeilad: er mwyn penderfynu pa endid sy'n "briodol" i fod yn brif berson atebol.
  • Cynlluniau/lluniadau: Cynlluniau safle neu gynlluniau pensaernïol i alluogi'r awdurdod diogelwch adeiladau i benderfynu pa endid sy'n gyfrifol am yr ôl troed strwythurol mwyaf neu'r gyfran fwyaf o unedau preswyl.
  • Tystiolaeth o reolaeth: dogfennau neu ohebiaeth sy'n dangos pwy sy'n rheoli'r rhannau cyffredin ar hyn o bryd.
  • Gohebiaeth: copïau o negeseuon e-bost, llythyrau, neu gofnodion sy'n dangos ymdrechion blaenorol i ddatrys pwy yw'r prif berson atebol gyda'r partïon eraill.

(g) os oes ffi yn daladwy, y swm gofynnol.

20. Credwn mai'r uchod yw'r lleiafswm y byddai ei angen ar awdurdod diogelwch adeiladau er mwyn gwneud penderfyniad.

Tynnu ceisiadau yn ôl

21. Rydym yn cynnig y dylai fod modd i unrhyw un o'r ceiswyr ar y cyd ofyn am gael tynnu'r cais yn ôl. Byddai'n ofynnol gwneud y cais i dynnu'n ôl yn ysgrifenedig i'r awdurdod diogelwch adeiladau a byddai angen nodi'r rhesymau pam y bwriedir tynnu'r cais yn ôl.

Penderfynu ar geisiadau

22. O ystyried y ffactorau niferus sy'n dylanwadu ar faint o amser y gall ei gymryd i'r awdurdod diogelwch adeiladau wneud penderfyniad o dan adran 10, nid ydym yn cynnig y dylid gosod terfyn amser ar ba mor hir y dylai hyn ei gymryd. Yn hytrach, rydym yn cynnig mai mater a ddylai fod yn destun canllaw ydyw.

23. Rydym yn cynnig y dylid galluogi'r awdurdod diogelwch adeiladau i ddewis peidio â bwrw ymlaen i wneud y penderfyniad. Gallai wneud hyn am fod yr wybodaeth a ddarparwyd yn awgrymu y byddai'n well gadael y penderfyniad i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl. Os bydd yr awdurdod diogelwch adeiladau yn penderfynu peidio â gwneud y penderfyniad, byddai'n ofynnol iddo roi esboniad, yn ysgrifenedig, i bob un o'r personau atebol sy'n rhan o'r cais ynghylch pam y gwnaeth y penderfyniad hwn. Rydym yn cynnig bod yn rhaid i'r awdurdod diogelwch adeiladau wneud hyn o fewn 14 diwrnod i'r cais ddod i law.

24. Nid ydym yn cynnig y dylid defnyddio rheoliadau i bennu cyfres o feini prawf y mae'n rhaid eu defnyddio wrth wneud y penderfyniad, ond gall canllawiau nodi ffactorau neu ystyriaethau y gall yr awdurdod diogelwch adeiladau ddymuno eu hystyried o bosibl. 

25. Pan fo'r awdurdod diogelwch adeiladau wedi derbyn taliad am unrhyw ffi a allai fod yn ddyledus, dylai fod yn bosibl gwneud cais am ad-daliad pe bai'r awdurdod diogelwch adeiladau yn dewis peidio â gwneud y penderfyniad.

26. Nid oes hawl i adolygu nac apelio yn erbyn y penderfyniad a wneir gan yr awdurdod diogelwch adeiladau. Pe bai anghydfod ynghylch y penderfyniad, yna byddai angen gwneud cais am benderfyniad i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl.

Cofrestru adeiladau categori 1 a 2 ag awdurdodau diogelwch adeiladau

Gweithdrefn ar gyfer cofrestru adeilad, gan gynnwys ffurf a chynnwys cais

27. Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn rheoliadau ynghylch sut y mae'n rhaid gwneud cais i gofrestru adeilad a ffurf a chynnwys y cais hwnnw. Os bydd adeilad newydd yn cael ei feddiannu cyn iddo gael ei gofrestru, bydd y prif berson atebol yn euog o drosedd o dan y Ddeddf.

28. Yn achos adeiladau sydd eisoes wedi'u meddiannu cyn i ddarpariaethau perthnasol y Ddeddf ddod i rym, bydd gan y prif berson atebol gyfnod estynedig o amser (disgwylir cyfnod o chwe mis ar hyn o bryd) i gofrestru'r adeilad cyn i'r drosedd y cyfeirir ati uchod fod yn weithredol.

29. Hefyd, bydd y broses o gymhwyso'r darpariaethau cofrestru at adeiladau categori 1 a 2 yn cael ei chyflwyno'n raddol, fel y bydd y gofyniad i gofrestru adeilad categori 1, a'r drosedd o ganiatáu i adeilad categori 1 gael ei feddiannu ond heb ei gofrestru yn gymwys yn gyntaf, a bydd y gofyniad i gofrestru adeilad categori 2 yn weithredol ar ddyddiad diweddarach. 

30. Ein bwriad yw mai dim ond gwybodaeth graidd am yr adeilad y dylai fod angen ei darparu fel rhan o'r broses gofrestru. At hynny, dylai'r cais ei hun fod yn syml i'w gwblhau a'i gyflwyno. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gellir cofrestru adeilad yn gyflym heb beri oedi gormodol cyn meddiannu.

31. Felly, rydym yn cynnig bod yn rhaid i'r cais i gofrestru gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(a) cyfeiriad yr adeilad;
(b) categori'r adeilad;
(c) uchder yr adeilad;
(d) nifer y lloriau yn yr adeilad;
(e) nifer yr unedau preswyl yn yr adeilad;
(f) enw'r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad;
(g) cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig lle gall awdurdod gorfodi roi hysbysiadau a dogfennau eraill i'r prif berson atebol o dan y Ddeddf a'r rheoliadau;
(h) rhif ffôn (os oes ganddo un) a chyfeiriad e-bost (os oes ganddo un) y prif berson atebol;
(i) enw pob person atebol arall (os o gwbl) yn yr adeilad
(j) rhif ffôn (os oes ganddo un) a chyfeiriad e-bost (os oes ganddo un) pob person atebol arall;
(k) manylion ynghylch y rhan o'r adeilad y mae pob person atebol arall yn gyfrifol amdani;
(l) os nad unigolyn yw'r prif berson atebol, p'un a yw'r prif berson atebol yn un o'r canlynol: 

  • m. awdurdod lleol,
  • darparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat,
  • landlord cymdeithasol cofrestredig o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996, 
  • cymdeithas cyfunddaliad fel y'i diffiniwyd gan adran 1 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002,
  • cwmni rheoli preswyl,
  • cwmni hawl i reoli fel y'i diffiniwyd gan adran 73(24) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, neu
  • os nad awdurdod na chorff o'r math a restrir uchod yw'r prif berson atebol, manylion y math o sefydliad ydyw.

(m) ar gyfer prif berson atebol nad yw'n unigolyn, enw a chyfeiriad yr unigolyn a fydd yn gweithredu fel pwynt cyswllt unigol i'r prif berson atebol at ddibenion y cais cofrestru.

(n) pan fo prif berson atebol wedi awdurdodi person i wneud cais ar ei ran: 

  • cadarnhad gan y person hwnnw ei fod wedi'i awdurdodi gan y prif berson atebol hwnnw i weithredu ar ei ran,
  • enw a chyfeiriad y person hwnnw.

32. Yr wybodaeth y cynigiwn y dylai fod yn ofynnol i'w darparu yw'r lleiafswm sy'n angenrheidiol yn ein tyb ni er mwyn i awdurdod diogelwch adeiladau a) gallu cofrestru adeilad a b) ei chadw at ddibenion cwblhau'r cofnod ar y gofrestr (gweler isod). Yr enwau a'r manylion cyswllt fydd yn ofynnol yw'r rhai a fydd yn angenrheidiol yn ein tyb ni i hwyluso penderfyniad cyflym ar y cais ac yna alluogi awdurdodau gorfodi i gyfathrebu â'r deiliaid dyletswydd cywir a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'u dyletswyddau. Bydd manylion am y math o sefydliad y mae prif berson atebol yn ei ffurfio yn ddefnyddiol wrth benderfynu ar lefel y cymorth y gallai fod angen ei ddarparu i hwyluso cydymffurfiaeth â dyletswyddau.

33. Ar gyfer adeiladau categori 1 a adeiledir ar ôl mis Gorffennaf 2026 ac sydd wedi mynd drwy'r broses Porth 3 newydd, rydym hefyd yn cynnig y dylai'r prif berson atebol gadarnhau, fel rhan o'r broses gofrestru, fod tystysgrif gwblhau yn rhannol neu'n llawn ar waith, pa awdurdod a'i rhoddodd, a'r dyddiad y cyhoeddwyd y dystysgrif honno. 

34. Er nad diben cofrestru yw sicrhau, ar adeg cofrestru, bod adeilad yn ddiogel, ni fyddai'n briodol i adeilad categori 1 gael ei feddiannu os nad oes tystysgrif gwblhau (neu gwblhau'n rhannol) ar waith. Y tystysgrifau hyn yw'r unig adeg pan fydd y corff rheoli adeiladu wedi cadarnhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol bosibl, fod y gwaith sydd wedi'i gwblhau yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu perthnasol. Felly, rydym o'r farn ei bod yn bwysig bod y prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 perthnasol yn cadarnhau bod tystysgrif ar waith cyn bod unrhyw adeilad yn cael ei gofrestru a chyn bod unrhyw ran ohono yn cael ei meddiannu.

35. Nid ydym yn cynnig ar hyn o bryd y dylai fod yn ofynnol i brif bersonau atebol roi cadarnhad bod tystysgrif gwblhau neu dystysgrif derfynol wedi'i rhoi ar gyfer adeiladau categori 2 sydd newydd eu hadeiladu neu eu hadnewyddu. Nid oes gofyn i'r adeiladau hyn ddilyn yr un broses borth ag adeiladau categori 1 ac maent eisoes yn destun triniaeth wahanol yn ystod y cyfnod dylunio ac adeiladu oherwydd y lefel is o risg sy'n gysylltiedig â nhw. Fodd bynnag, hoffem glywed barn ymgyngoreion ar hyn.

36. O ran gwneud cais, rydym yn cynnig, o leiaf, fod yn rhaid gwneud y cais yn ysgrifenedig ac yn electronig drwy gyfeiriad a gyhoeddir gan yr awdurdod diogelwch adeiladau. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu datrysiad TG i Gymru gyfan er mwyn cefnogi'r broses gofrestru a gweithgareddau eraill yr awdurdodau diogelwch adeiladau. Os caiff y gwaith hwnnw ei gwblhau'n llwyddiannus, ein bwriad yw y bydd ffurflen gais safonol y gellir mewnbynnu'r holl wybodaeth ragnodedig iddi ar gael ar-lein. Drwy hyn byddai'r defnydd o'r ffurflen gais ar-lein yn ofyniad mewn ffaith.

Rhaid i'r awdurdod diogelwch adeiladau gadw cofrestr o adeiladau categori 1 a 2

37. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod diogelwch adeiladau gadw cofrestr o adeiladau categori 1 a chategori 2 ar gyfer yr adeiladau hynny y mae'n awdurdod diogelwch adeiladau ar eu cyfer. Nodir rhestr o'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn y cofnod ar y gofrestr ar gyfer pob adeilad yn y Ddeddf. Mae'r un wybodaeth honno wedi'i hymgorffori yn y rhestr o wybodaeth rydym yn cynnig y dylid ei chyflwyno fel rhan o'r cais cofrestru (gweler adran 32). Hefyd, mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer rheoliadau i bennu gwybodaeth a dogfennau eraill i'w cynnwys yn y cofnod ar y gofrestr. Rydym yn cynnig y dylid defnyddio'r pŵer hwn i sicrhau bod yr holl wybodaeth y mae'n rhaid ei chyflwyno fel rhan o'r cais cofrestru yn cael ei chynnwys yn y cofnod ar y gofrestr. Mae hyn yn golygu y byddai'r gofrestr yn cynnwys yr holl wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 32 a 34.

38. Unwaith y bydd adeilad categori 1 wedi'i gofrestru a'i feddiannu, gall awdurdod diogelwch adeiladau, ar unrhyw adeg, gyfarwyddo'r prif berson atebol i wneud cais am dystysgrif adeilad. Rhoddir tystysgrifau adeilad gan awdurdod diogelwch adeiladau pan fo'n fodlon y cydymffurfir â'r holl ddyletswyddau perthnasol o dan y Ddeddf. Rydym yn cynnig y dylid dal gwybodaeth am y cais am dystysgrif adeilad ar y gofrestr o dan y cofnod ar gyfer adeilad categori 1, gan gynnwys a oes cyfarwyddyd wedi'i roi i wneud cais am dystysgrif, y dyddiad y daeth cais i law, a'r dyddiad y rhoddwyd neu y gwrthodwyd tystysgrif adeilad. Mae diben gwneud hynny yn ymwneud â’r wybodaeth a ddelir ar y gofrestr a ddylai fod ar gael yn gyhoeddus a thrafodir hyn yn fanylach isod.

39. Byddwn yn ystyried a ddylid ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth arall sydd wedi'i chynnwys yn y llinyn aur neu wybodaeth allweddol am yr adeilad, a gyflwynir i'r awdurdod diogelwch adeiladau, gael ei dal ar y gofrestr. Wrth gwrs, gall yr awdurdod diogelwch adeiladau ddal gwybodaeth ar yr un gronfa ddata heb i hyn fod yn ofyniad cyfreithiol, ond ar gyfer rhywfaint o wybodaeth efallai y byddai'n well ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i sicrhau bod y tri awdurdod diogelwch adeiladau yn gweithredu'n gyson â'i gilydd. Byddwn yn ystyried hyn pan fyddwn yn ymgynghori ymhellach ar gynnwys y llinyn aur.

Yr awdurdod diogelwch adeiladau i ddarparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth ar y gofrestr

40. Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer rheoliadau i nodi a oes rhaid i awdurdod diogelwch adeiladau gyhoeddi'r gofrestr neu'r wybodaeth neu'r dogfennau ynddi, ac i ba raddau.

41. Ein bwriad yw creu system sy'n cefnogi tryloywder drwy ganiatáu i breswylwyr ac eraill gael mynediad at wybodaeth bwysig am eu hadeilad. Gallai hyn gynnwys pobl sy'n ystyried prynu neu rentu fflat mewn adeilad. Credwn y gellid cyflawni hyn drwy sicrhau bod gwybodaeth berthnasol ar y gofrestr ar gael yn gyhoeddus, gan sicrhau bod gwybodaeth sensitif neu bersonol yn cael ei diogelu'n briodol. 

42. O ran yr wybodaeth rydym wedi cynnig y dylid ei dal ar y gofrestr, rydym yn cynnig y dylai rheoliadau nodi bod yr wybodaeth ganlynol ar gael ar y gofrestr gyhoeddus:

(a) cyfeiriad yr adeilad;
(b) categori'r adeilad;
(c) uchder yr adeilad; 
(d) nifer y lloriau yn yr adeilad; 
(e) enw'r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad.

43. Yn ein barn ni, dyma'r lefel isaf o wybodaeth y byddai ei hangen ar aelod o'r cyhoedd, gan gynnwys preswylydd adeilad categori 1 neu 2, i ddeall a yw adeilad wedi'i gofrestru, pa ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â diogelwch adeiladau a allai fod yn gymwys mewn cysylltiad â'r adeilad hwnnw, a phwy fyddai'n gyfrifol yn gyffredinol am gyflawni'r dyletswyddau hynny a sicrhau bod eraill yn gwneud hynny. Bydd hwyluso mynediad i'r cyhoedd at yr wybodaeth hon yn hanfodol er mwyn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd cyhoeddus.

44. Hefyd, rydym yn cynnig y dylai'r wybodaeth sy'n ymwneud â'r dystysgrif adeilad a ddelir ar y gofrestr fod ar gael yn gyhoeddus. Gallai hyn roi sicrwydd, er enghraifft, pan nad oes un yn cael ei harddangos yn yr adeilad ar y pryd, mai'r rheswm dros hyn yw nad oes cyfarwyddyd wedi'i roi eto yn ei gwneud yn ofynnol i'r cais gael ei wneud, neu fod y cais wrthi'n cael ei ystyried. Gall cyhoeddi'r wybodaeth hon hefyd fod yn ddefnyddiol o ran rhoi gwybod i breswylwyr bod tystysgrif ar waith ond nad yw'n cael ei harddangos ar hyn o bryd.

Prif bersonau atebol i roi declarasiwn ynghylch cywirdeb gwybodaeth a dogfennau sydd wedi eu cynnwys yn y gofrestr

45. O dan y Ddeddf, rhaid i'r prif berson atebol ar gyfer adeilad cofrestredig categori 1 neu gategori 2, o fewn pob cyfnod o bum mlynedd, wneud declarasiwn perthnasol i'r awdurdod diogelwch adeiladau. Declarasiwn perthnasol yw declarasiwn sy'n cadarnhau cywirdeb yr wybodaeth a'r dogfennau sydd wedi'u cynnwys yn y cofnod ar gyfer yr adeilad yng nghofrestr yr awdurdod. Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer gwneud rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth ynghylch (a) ffurf a chynnwys declarasiwn perthnasol a (b) sut y mae rhaid rhoi declarasiwn perthnasol.

46. Fel gyda'r cais i gofrestru, rydym yn cynnig, o leiaf, fod y rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i'r declarasiwn gael ei wneud yn ysgrifenedig ac yn electronig drwy gyfeiriad a gyhoeddir gan yr awdurdod diogelwch adeiladau. Gall hwn fod yn gyfeiriad e-bost neu'n gyfeiriad gwe. Os caiff y gwaith i ddatblygu datrysiad TG a grybwyllwyd yn flaenorol ei gwblhau'n llwyddiannus, rydym yn bwriadu i'r ffurflen declarasiwn berthnasol fod ar gael ar-lein ac yn cynnig y bydd y rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i bob declarasiwn gael ei wneud drwy'r cyfeiriad gwefan perthnasol. 

Ceisiadau gan brif bersonau atebol i ddileu adeiladau o'r gofrestr, gan gynnwys ffurf a chynnwys y cais

47. Mae'r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch sut y mae'n rhaid i gais gan y prif berson atebol i ddileu adeilad o'r gofrestr gael ei wneud, ei ffurf a'i gynnwys, ac unrhyw beth arall y mae'n rhaid ei gynnwys gyda'r cais.

48. Rydym am i hon fod yn broses glir a chyson sy'n galluogi'r awdurdod diogelwch adeiladau i benderfynu a ddylid dileu adeilad o'r gofrestr. Fel gyda cheisiadau i gofrestru ac unrhyw ddeclarasiwn perthnasol, ac er mwyn sicrhau'r cysondeb hwn, rydym yn cynnig y dylai fod yn ofynnol gwneud cais i ddileu yn ysgrifenedig yn electronig drwy gyfeiriad a gyhoeddir gan yr awdurdod diogelwch adeiladau. Unwaith eto, byddai’n well gennym pe bai ffurflen berthnasol ar gael ar-lein, a bod ceisiadau’n cael eu gwneud drwy’r cyfeiriad gwefan perthnasol.

49. Rydym yn cynnig y dylai fod yn rhaid i'r prif berson atebol roi'r manylion canlynol fel rhan o'i gais:

(a) ei enw llawn a'i fanylion cyswllt;
(b) cyfeiriad llawn a chod post yr adeilad;
(c) y rheswm pam mae'r cais yn cael ei wneud;
(d) y dyddiad y dylai cofrestriad yr adeilad ddod i ben; 
(e) unrhyw wybodaeth arall sy'n angenrheidiol i gefnogi'r cais.

Ffioedd a godir gan awdurdodau diogelwch adeiladau

Darpariaethau ar gyfer codi ffioedd gan awdurdodau diogelwch adeiladau am arfer unrhyw un o'u swyddogaethau o dan adran 125(1) o'r Ddeddf 

50. Mae adran 125 o'r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch ffioedd sy'n daladwy mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau rheoleiddio.

51. Mae rheoleiddio effeithiol yn gofyn am staff â'r sgiliau priodol, arbenigedd, systemau technegol a threfniadau monitro parhaus. 

52. Felly, gall cyfundrefn codi tâl gefnogi'r canlynol: 

(a)rheoleiddio effeithiol a chynaliadwy;
(b) adennill costau sy'n gysylltiedig â gweithgarwch rheoleiddio;
(c) cysondeb a thryloywder i'r diwydiant;
(d) ffordd o ddyrannu costau rheoleiddio yn deg; 
(e) gwell atebolrwydd wrth wneud penderfyniadau rheoleiddiol.

53. Ein bwriad yw y byddai rheoliadau a wneir o dan adran 125 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi cynllun codi tâl yn nodi'r ffioedd sy'n daladwy am weithgareddau a gwasanaethau penodol a ddarperir gan yr awdurdod diogelwch adeiladau. Fodd bynnag, bwriadwn ymgynghori ymhellach ar hyn.

54. At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, rydym ond yn ceisio barn ar y ffioedd y gellir eu codi gan yr awdurdod diogelwch adeiladau mewn perthynas â chofrestru a'r penderfyniad gan yr awdurdod diogelwch adeiladau ynghylch y prif berson atebol. 

Ffioedd sy'n gymwys o dan adran 10 o'r Ddeddf – penderfyniad ynghylch y prif berson atebol gan awdurdod diogelwch adeiladau

55. Rydym yn cynnig y dylai'r awdurdod diogelwch adeiladau godi ffi o £100 am wneud penderfyniad ynghylch pwy yw'r prif berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig (o dan adran 10 o'r Ddeddf a rheoliadau a wneir oddi tani).

56. Gellir ceisio penderfyniad gan y Tribiwnlys Eiddo Preswyl ynghylch pwy yw'r prif berson atebol ar gyfer adeilad (a materion eraill, gweler adran 11(1)), ac felly hyd nes y bydd costau'r awdurdod diogelwch adeiladau wedi'u hystyried yn llawn, credwn fod ffi sy'n gymharol â'r hyn y gall y tribiwnlys ei godi, ond sy'n is na hynny, yn gymesur. 

57. Credwn fod pennu ffi o £100, ochr yn ochr â'r disgwyliad y dylai penderfyniadau o'r fath gael eu gwneud yn gyflymach gan yr awdurdod diogelwch adeiladau na'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl, yn rhoi cymhelliant i bersonau atebol wneud cais i'r awdurdod diogelwch adeiladau. Yn ein barn ni, mae hyn yn sicrhau mai'r corff priodol a fydd yn gwneud y penderfyniadau a bydd yn helpu i ddiogelu gallu'r tribiwnlys i wneud penderfyniadau sy'n gofyn am benderfyniad barnwrol annibynnol.

58. Pan fo'r awdurdod diogelwch adeiladau yn gwrthod gwneud y penderfyniad ynghylch pwy yw'r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad, er enghraifft, pan fo gwybodaeth a ddarparwyd gyda'r cais yn awgrymu model cymhleth o berchnogaeth sy'n fwy addas i'r tribiwnlys benderfynu arno, byddai angen gwneud cais i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl.

59. Rydym o'r farn y gellid gwneud cais am ad-daliad wedyn am unrhyw ffi a dalwyd i'r awdurdod diogelwch adeiladau.

Ffioedd sy'n gymwys o dan adran 20 o'r Ddeddf – gweithdrefn gofrestru

60. Rydym yn cynnig y dylid codi ffi o £250 i'w thalu gan y prif berson atebol wrth wneud cais i gofrestru adeilad categori 1 neu gategori 2 rheoleiddiedig.

61. Mae'r ffi arfaethedig o £250 yn gyson ar y cyfan â ffioedd a godir mewn cyfundrefnau tebyg mewn rhannau eraill o'r DU. 

62. Gall y ffi hon newid yn y dyfodol, gan gynnwys pan gaiff ei hystyried fel rhan o gynllun ffioedd ehangach.

Canllawiau Ategol

Wrth roi'r gyfundrefn diogelwch adeiladau newydd ar waith byddwn yn gydweithredol ac yn canolbwyntio ar y defnyddiwr. Bwriadwn ddatblygu a chydgynhyrchu canllawiau ategol ar gyfer rheoliadau ar y cyd â rhanddeiliaid a fydd yn eu defnyddio yn ymarferol, er mwyn sicrhau bod y ddogfennaeth yn parhau i fod yn ymarferol, yn glir ac yn berthnasol i lifau gwaith pob dydd. Credwn mai rhanddeiliaid sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu pa ganllawiau y bydd eu hangen arnynt. 

Y Camau Nesaf

Daw'r ymgynghoriad hwn i ben ar 18 Rhagfyr 2026. Caiff ymatebion i'r ymgynghoriad hwn eu dadansoddi a bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ymateb.