Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Cyhoeddwyd Strategaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd Gweithredu ar Hinsawdd Cymru (2023 i 2026) (y Strategaeth) gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2023. Mae’r Strategaeth yn darparu fframwaith ar gyfer sut y bydd Llywodraeth Cymru a Thîm Cymru yn ymgysylltu â phobl yng Nghymru ac yn eu cefnogi i weithredu ar yr argyfyngau hinsawdd a natur. Mae hefyd yn anelu at sicrhau bod safbwyntiau ar y trawsnewid i Sero Net yn cael eu casglu ar draws ystod o gymunedau, sectorau ac unigolion. Yn yr adroddiad hwn, mae Tîm Cymru, y cyfeirir ato fel Partneriaid, yn cynnwys cyrff gwasanaethau cyhoeddus, busnesau, sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedau lleol ledled Cymru yn cydweithio i fynd i’r afael â heriau cyffredin yr argyfyngau hinsawdd a natur. Pwrpas yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn yw cyfrannu at ddatblygu polisïau gwyrdd sy’n cael eu llywio gan ddeialog cyhoeddus, ac sy’n hygyrch i bawb. Mae'r Strategaeth yn nodi pedair thema dewis gwyrdd y gall y cyhoedd eu defnyddio i wneud dewisiadau amgylcheddol gynaliadwy: dewisiadau cludiant gwyrdd, dewisiadau bwyd gwyrdd, dewisiadau ynni cartref gwyrdd a dewisiadau defnydd gwyrdd.

Nodau a methodoleg ymchwil

Bydd gwerthuso ar sail damcaniaeth yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru ddeall effaith y Strategaeth. O’r herwydd, comisiynodd Llywodraeth Cymru SYSTRA i ddatblygu Damcaniaeth Newid ar gyfer y Strategaeth ym mis Mai 2024. Offeryn gwerthuso sefydledig yw Damcaniaeth Newid sy’n disgrifio’r hyn y mae’r Strategaeth yn ceisio’i gyflawni a sut, drwy amlinellu’r mewnbynnau, y gweithgareddau a’r allbynnau sydd eu hangen er mwyn cyflawni’r canlyniadau a’r effeithiau dymunol.

Defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau i lywio datblygiad y Ddamcaniaeth Newid. Yn gyntaf, cynhaliodd SYSTRA adolygiad tystiolaeth o lenyddiaeth berthnasol ar y Strategaeth a hwyluso gweithdy gyda rhanddeiliaid cyflawni canolog Llywodraeth Cymru. Cafodd y Ddamcaniaeth Newid drafft hon ei phrofi o ran straen a’i mireinio drwy gyfres o bum gweithdy pellach gyda Llywodraeth Cymru a Phartneriaid Strategaeth allanol. Rhoddodd cyfranogwyr y gweithdai eu mewnbwn yn unol â'u maes polisi ffocws a'r themâu dewis gwyrdd cyfatebol yn y Strategaeth.

Yn ogystal â datblygu Damcaniaeth Newid, datblygodd SYSTRA ganllawiau ar gyfer gwerthuso Strategaeth yn y dyfodol, gan gynnwys asesiad o ddibyniaethau, rhagdybiaethau a risgiau i weithrediad llwyddiannus y Strategaeth.

Prif ganfyddiadau

Isod ceir trosolwg o'r effeithiau, canlyniadau, allbynnau, gweithgareddau a mewnbynnau a nodwyd ar gyfer y Strategaeth (yr ymyriad). Disgrifir pob cydran yn gryno, ac yna ceir crynodeb o'r dibyniaethau, y rhagdybiaethau a'r risgiau a nodwyd drwy'r gweithdai a'r adolygiad tystiolaeth.

Effeithiau

Y brif effaith, neu ganlyniadau hirdymor, y mae’r Strategaeth yn anelu at gyfrannu ato yw Pontio Teg i sero net erbyn 2050. Y tu hwnt i hyn, nod y Strategaeth yw cyfrannu at ystod o effeithiau gwyrdd a chymdeithasol eraill, gan gynnwys diogelu'r amgylchedd, hybu iechyd, lles a chydraddoldeb ar draws cymdeithas ac mewn cymunedau, a hyrwyddo Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Ni fydd unrhyw un o'r effeithiau i'w priodoli'n uniongyrchol i'r Strategaeth ar ei phen ei hun, felly mae'n rhaid i werthusiad yn y dyfodol osgoi gwneud rhagdybiaethau achosol ac ystyried dulliau sy'n seiliedig ar ddamcaniaeth a dadansoddi cyfraniadau. Tynnodd cyfranogwyr y gweithdai sylw at y ffaith ei bod yn bosibl na fydd atebion i ddiwallu anghenion cyfiawnder cymdeithasol a chyflawni sero net yn cael eu darparu oherwydd cyfyngiadau macro-economaidd, er enghraifft y gall rhai dewisiadau ffordd o fyw gwyrdd arwain at gostau ychwanegol, ac felly, efallai na fyddant yn gyraeddadwy i bawb.

Canlyniadau

Mewn Damcaniaeth Newid, mae canlyniadau yn cyfeirio at y canlyniadau tymor cynnar neu ganolig y mae ymyriad yn ceisio eu cyflawni. Mae'r Ddamcaniaeth Newid yn nodi deuddeg canlyniad Strategaeth, wedi'u strwythuro gan fodel COM-B yn dri chanlyniad newid Ymddygiad (B), gan gyfrannu yn y pen draw at effeithiau'r Strategaeth Damcaniaeth Newid; tri chanlyniad Gallu (C); dau ganlyniad Cyfle (O); a phedwar canlyniad Cymhelliant (M). Yn ogystal, mae 10 canlyniad ymgysylltu (E).

Rhesymeg graidd y Strategaeth yw mai canlyniadau Ymgysylltu sy'n cyflawni'r canlyniadau Gallu, Cyfle a Chymhelliant (sydd yn eu tro yn cyflawni'r canlyniadau Ymddygiad). Fel rhan o'r ymchwil, awgrymir dangosyddion i fesur canlyniadau yn yr adroddiad. Yn ystod y gweithdai, mynegodd y cyfranogwyr bryderon nad yw'r Strategaeth yn mynd i'r afael yn ddigonol â chyfleoedd ac nad oedd digon o bolisi sylfaenol i alluogi ymddygiad gwyrdd drwy ei wneud yn fwy fforddiadwy, dymunol a chyfleus i bobl. Mae’r Strategaeth hefyd yn dibynnu ar y rhagdybiaeth bod cynnwys y cyhoedd, gan gynnwys grwpiau difreintiedig, yn y broses o wneud penderfyniadau ar yr hinsawdd yn arwain at well canlyniadau i'r cyhoedd ehangach a grwpiau difreintiedig. Fodd bynnag, mae risg y cynhelir ymgysylltiad ond nad yw'n effeithiol o ran cyflawni'r canlyniadau dymunol.

Dylai gwerthusiad o'r Strategaeth asesu holl elfennau model COM-B sydd wedi'u cynnwys yng nghanlyniadau'r Ddamcaniaeth Newid, gan roi sylw arbennig i os yw'r Strategaeth wedi arwain at fwy o gyfle i'r cyhoedd newid ymddygiad gwyrdd. Bydd hyn yn helpu i leihau'r risg o gambriodoli gwelliannau a fyddai wedi digwydd yn absenoldeb y Strategaeth.

Allbynnau

Mewn Damcaniaeth Newid, mae'r allbynnau'n cyfeirio at yr hyn a ddarperir neu a gynhyrchir a dylent fod yn fesuradwy. Prif allbynnau'r Strategaeth oedd negeseuon cyson y gellir ymddiried ynddynt, yn ogystal â pholisi gwyrdd wedi'i lywio gan ymgysylltu â'r cyhoedd sy'n hygyrch i bawb. Bydd angen i werthusiad yn y dyfodol nodi dulliau priodol ar gyfer asesu a greodd y Strategaeth yr allbynnau hyn. Awgrymir rhai dulliau mesur ansoddol a meintiol yn yr adroddiad. Gall allbynnau eraill, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag ymgysylltu a chryfhau deialog ac ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a’i Phartneriaid, fod yn fwy heriol i’w mesur yn wrthrychol. Rhaid i werthusiad yn y dyfodol ddefnyddio ystod o fethodolegau a gosod y mesuriad allbwn yn ei gyd-destun gyda'r canlyniadau.

Trwy'r gweithdai, nodwydy risg y rhoddir gormod o bwys ar fetrigau gwerthuso ymgyrchoedd yng nghamau cynnar asesu'r Strategaeth. Amlygodd y gweithdai fod yn rhaid i werthuso ystyried natur gydgysylltiedig gweithgareddau'r Strategaeth a bod yn rhaid asesu'r holl agweddau hyn.

Gweithgareddau

Mae gweithgareddau'n cyfeirio at y gweithredoedd sydd gyda'i gilydd yn gyfystyr ag ymyriad. Yn sail i’r Strategaeth mae ymagwedd ddeublyg at weithgareddau, gyda rhai yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru, ac eraill yn cael eu darparu gan Bartneriaid. Rhannwyd y gweithgareddau a nodwyd yn gyfathrebu, ymgysylltu a thystiolaeth ac ymchwil cymdeithasol. Mae'r dulliau hyn yn gysylltiedig â'i gilydd, a dylai canlyniadau gweithgareddau Partneriaid roi adborth parhaus i gryfhau gweithgareddau Llywodraeth Cymru, ac i'r gwrthwyneb. Mae’r adborth a’r gwelliant parhaus hwn yn dybiaeth graidd yn y Strategaeth, a bod Llywodraeth Cymru a’r Partneriaid yn cytuno ar y negeseuon ac yn cael eu darparu’n gyson. Llywiwyd negeseuon a chyfathrebu'r Strategaeth gan ymchwil a gynhaliwyd gan y Tîm Mewnwelediadau Ymddygiad a Beaufort Research gan ddefnyddio model COM-B i ddiffinio 'Pethau y gofynnir i bobl eu gwneud' a 'Pharatoadau' i'w hargymell i'r cyhoedd i weithredu newidiadau cynaliadwy o ran ffordd o fyw. Mae Pethau y gofynnir i bobl eu gwneud yn argymhelliad ar gyfer ymddygiad gwyrdd sy’n bodloni rhai o ofynion model COM-B, ond nid o reidrwydd pob un, lle mae pobl yn barod ac yn gallu newid eu hymddygiad. Mae Paratoad yn ymddygiad gwyrdd a all gynnwys rhwystrau i weithredu ar unwaith, felly dylid cynllunio cyfathrebiadau i gynyddu ymwybyddiaeth neu gynnig galwad mwy cyraeddadwy i weithredu na newid ymddygiad ar unwaith. Enghraifft o newid Paratoad yw rhoi prawf ar yrru cerbyd trydan, sy'n fwy hygyrch i'r mwyafrif na phrynu cerbyd trydan.

Amlygodd y gweithdai rai risgiau i'r gweithgareddau'n digwydd, er enghraifft nad oedd pob Partner yn gallu priodoli gweithgareddau i'r Strategaeth. Er enghraifft, roedd cyfranogwyr yn gyfarwydd i raddau helaeth ag Wythnos Hinsawdd Cymru ond nid oeddent yn gwybod bod hyn yn rhan o'r Strategaeth. Yn ogystal, roedd rhywfaint o anghytuno ynghylch beth ddylai'r negeseuon fod. Roedd rhai Partneriaid yn cwestiynu a oedd yn bosibl cyfleu neges gyson ar gyfer gwneud dewisiadau bwyd cynaliadwy.

Cynhaliwyd yr ymchwil i ddatblygu’r Ddamcaniaeth Newid rhwng Mehefin a Gorffennaf 2024, tua blwyddyn ar ôl i’r Strategaeth gael ei rhyddhau. Er bod cynllun cyfathrebu aeddfed ar waith, nid oedd yr holl weithgareddau ymgysylltu wedi'u cynnal eto. Mae'n debygol y bydd gweithgareddau ymgysylltu pellach yn cael eu nodi ar gyfer y Strategaeth, a dylid diweddaru'r Ddamcaniaeth Newid i ymgorffori'r allbynnau hyn. Nododd y rhai a gymerodd ran yn y gweithdai risg efallai na fyddai negeseuon i’r cyhoedd sy’n canolbwyntio ar annog ymddygiad gwyrdd yn cael eu cefnogi gan y polisïau a’r rhaglenni gofynnol i’w gwneud yn fforddiadwy a chyfleus i bobl weithredu newidiadau gwyrdd i’w ffordd o fyw.

Mewnbynnau

Mae’r adnoddau a ymrwymwyd i’r ymyriad, mewn geiriau eraill, y mewnbynnau i’r Strategaeth, yn cynnwys adnoddau a ddarperir yn uniongyrchol neu a gomisiynir gan Lywodraeth Cymru, ac arbenigedd a ddarperir ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, er enghraifft y Grŵp Cynghori ar Wyddor Ymddygiad a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd. Yn ogystal, mewnbwn canolog yw grwpiau cymunedol anllywodraethol, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol a rhwydweithiau sy’n gweithio ar gyfathrebu ac ymgysylltu â rhanbarthau a chymunedau ar yr argyfyngau hinsawdd a natur.

Y rhagdybiaethau canolog i'r mewnbynnau, a adnabuwyd drwy'r gweithdai a'r adolygiad tystiolaeth, yw bod y dystiolaeth y tu ôl i'r Strategaeth yn gadarn a bod mewnbwn digonol i gwrdd â gofynion y Strategaeth.

Argymhellion

Gwnaethpwyd yr argymhellion a ganlyn ar gyfer gwerthuso’r Strategaeth yn y dyfodol.

Dewisiadau methodolegol

  • Ni fydd y Strategaeth yn arwain yn uniongyrchol at y canlyniadau a'r effeithiau a ddisgrifir yn y Ddamcaniaeth Newid ond yn anelu at gyfrannu atynt. Dylai gwerthusiad yn y dyfodol ddefnyddio dull seiliedig ar ddamcaniaeth, gan ddefnyddio dulliau cyfrannu.
  • Gellir mesur llawer o ganlyniadau'r Strategaeth yn feintiol, ond ni fyddai hyn yn ddigon i benderfynu a fyddai canlyniadau ac effeithiau wedi digwydd heb y Strategaeth. Dylid ategu mesur canlyniadau meintiol gan asesiad ansoddol i archwilio sut arweiniodd y Strategaeth at newid.

Ystyriaethau yn ymwneud â dibyniaethau, risgiau a rhagdybiaethau

  • Mae gweithgareddau'r Strategaeth yn rhyngberthynol ac yn atgyfnerthu ei gilydd, a dylai gwerthusiadau yn y dyfodol fod yn gynhwysfawr yn hytrach nag asesu cysylltiadau achosol unigol.
  • Mae'r Strategaeth yn ddogfen fyw, ac mae rhai gweithgareddau'n debygol o fod heb eu diffinio eto, sy'n golygu y bydd angen diweddaru'r Ddamcaniaeth Newid.
  • Mae llwyddiant y Strategaeth yn dibynnu ar gydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a'i Phartneriaid, felly dylai gwerthusiad yn y dyfodol gynnwys amrywiaeth o safbwyntiau i ddeall sut y gweithredwyd y Strategaeth.

Manylion cyswllt

Awduron: Sally McNamara, Anna Foss

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Jake Wilkinson
Ymchwil Hinsawdd a'r Amgylchedd
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: ymchwilhinsawddacamgylchedd@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 13/2025
ISBN digidol: 978-1-83715-180-6

GSR logo