Four reports providing supporting evidence from Year 1 of the RIF National Evaluation. The findings set out the ideas and values informing the RIF as understood from a range of perspectives.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Adroddiad mapio cysyniadau grŵp
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r ail astudiaeth ar-lein gan Group Concept Mapping (GCM), a gynhaliwyd fel rhan o’r Gwerthusiad Cenedlaethol o’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Nod yr astudiaeth oedd adeiladu a chydgrynhoi canfyddiadau Adroddiad Cyfweliadau Ansoddol blwyddyn dau trwy brofi’r canfyddiadau a’r casgliadau allweddol gyda grŵp ehangach o randdeiliaid y Gronfa.
Mae’r adroddiad yn rhoi darlun cliriach a mewnwelediad i’r profiadau mwyaf a lleiaf amlwg o’r Gronfa, a’r datganiadau mwyaf a lleiaf dylanwadol wrth weithredu’r Gronfa hyd yn hyn.
Y datganiad mwyaf amlwg a mwyaf dylanwadol oedd ‘Mae ansicrwydd ynghylch cyllid hirdymor yn peri risgiau i gynaliadwyedd prosiectau/gwasanaethau’r Gronfa’, a’r datganiad lleiaf amlwg a lleiaf dylanwadol oedd ‘Mae cyfuno mentrau bach i greu prosiectau ambarél mwy wedi gwella’r strwythurau adrodd’.
Ym marn ymatebwyr y trydydd sector, ‘Partneriaethau, yn enwedig gyda’r trydydd sector’ oedd y datganiad mwyaf amlwg o ran eu profiad o’r Gronfa, a’r mwyaf dylanwadol wrth ei gweithredu.
Ym marn ymatebwyr y sector statudol, ‘Dysgu o brofiad’ oedd y datganiad mwyaf amlwg o ran eu profiad o’r Gronfa, a’r mwyaf dylanwadol wrth ei gweithredu.
Clystyrau ‘Data, monitro ac adrodd’ ac ‘Arloesi’ oedd y clystyrau lleiaf cydnabyddedig a dylanwadol waeth beth fo’r sector cyfranogwyr a’r lefel o gyfranogiad yn y RIF.
Adroddiad cyfweliadau ansoddol
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ar sail cyfweliadau ansoddol gydag arweinwyr y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, a gynhaliwyd fel rhan o gam gweithredu’r Gwerthusiad Cenedlaethol o’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae’n asesu i ba raddau y bu cynnydd llwyddiannus o ran dylunio a datblygu’r Gronfa a’i gweithredu hyd yma, yn ogystal â barn ynghylch defnyddioldeb Cymunedau Ymarfer y Gronfa.
Mae’r adroddiad yn canfod bod y Gronfa wedi’i ddefnyddio fel y bwriadwyd i gefnogi sbectrwm eang o wasanaethau, o ymyriadau gofal acíwt i fesurau ataliol.
Mae’n amlinellu sbectrwm o ddilyniant ar draws y rhaglen y Gronfa, sy’n cynnwys prosiectau cyfredol, rhai sy’n esblygu a rhai sy’n dod i’r amlwg.
Mae canfyddiadau’n dangos bod gweithio mewn partneriaeth gref a rheoli ar y cyd yn elfennau allweddol o brosiectau effeithiol o dan y Gronfa a bod gan y sector gwirfoddol rôl hanfodol o fewn prosiectau mewn rhai rhanbarthau trwy wella gwasanaethau a mynd i’r afael â bylchau.
Canfuwyd bod hyblygrwydd cyllid y Gronfa a’r seilwaith rhanbarthol a’r adnoddau a roddwyd ar waith wedi galluogi prosiectau i arloesi ac addasu i anghenion newidiol.
Mae’r adroddiad hefyd yn canfod bod y Gronfa yn galluogi prosiectau i sicrhau ymyrraeth gynharach, ond tynnir sylw at yr amser sydd ei angen i ymgorffori’r newid ymddygiad drwy’r system gyfan a’r integreiddio gwasanaethau y mae’r Gronfa yn anelu at eu hwyluso a’u cyflawni yn y pen draw.
Canfuwyd bod y Cymunedau Ymarfer yn hwyluso ymgysylltu rhwng gwahanol sectorau, gan ddarparu cyfleoedd i glywed cymysgedd o safbwyntiau, a chaniatáu i aelodau gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau polisi cenedlaethol a rhanbarthol, rhannu arferion da a rhannu dysgu.
Effeithiolrwydd a chost a budd rhaglenni iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon: adolygiad cyflym
Adolygiad llenyddiaeth systematig yw hwn, a gynhaliwyd fel rhan o werthusiad economaidd o’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae’r adolygiad yn canfod bod effeithiolrwydd cymysg a thystiolaeth economaidd sy’n dangos manteision mentrau iechyd a gofal cymdeithasol integredig, gyda thystiolaeth economaidd amrywiol ynghylch costau, canlyniadau buddiol, ac enillion ar fuddsoddiad ar gyfer dulliau gofal integredig.
Yr argymhellion yw bod angen mwy o werthusiadau economaidd o ansawdd uchel ac y dylid teilwra astudiaethau economaidd yn y dyfodol i gyd-destun polisi gwahanol y DU.
Profiadau o ymgorffori egwyddorion y Gronfa yn ymarferol
Mae’r adroddiad hwn yn adeiladu ar y gwaith a wnaed ym Mlwyddyn 1 y Gwerthusiad Cenedlaethol o’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol ac mae’n mynd i’r afael â chwestiynau ynghylch gweithredu’r Gronfa.
Mae hefyd yn bwrw golwg ar newidiadau i’r cyd-destun polisi a gwleidyddol, gan gynnwys momentwm cynyddol o ran datblygu’r ‘System Gofal Cymunedol Integredig’ ar gyfer Cymru.
Mae’r adroddiad yn asesu hynt y ‘cydbwysedd’ o fewn cyfres o 6 o ‘ddeuoedd’, sy’n cynnig ffordd o ‘wneud synnwyr’ o gymhlethdod y Gronfa deall y rhyngweithio rhwng ei hegwyddorion, ei gwerthoedd, ei chysyniadau a’i hadeiladwaith.
Mae canfyddiadau’n dangos bod lle i fod yn optimistaidd fel y gwelir yn nghydbwysedd y deuoedd – mae’r darlun hwn yn un cadarnhaol yn gyffredinol yn seiliedig ar y profiad o weithredu’r Gronfa.
Bydd camau dilynol y gwerthusiad yn gallu penderfynu a yw’r deuoedd sydd mewn cydbwysedd (neu’n agos at fod mewn cydbwysedd) yn caniatáu i’r Gronfa gyflawni’r ‘canlyniadau a ddymunir’ gan y rhaglen, gan ystyried y cyd-destunau deinamig o ran polisi, strategaeth a gweithredu sy’n effeithio ar weithredu’r gronfa. cyd-destunau sy’n effeithio ar weithredu’r gronfa.
Adroddiadau
Adroddiad mapio cysyniadau grŵp , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Adroddiad cyfweliadau ansoddol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB
Effeithiolrwydd a chost a budd rhaglenni iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon: adolygiad cyflym , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Profiadau o ymgorffori egwyddorion y Gronfa yn ymarferol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Rachel Cohen a Dan Hartill
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
