Neidio i'r prif gynnwys

Gan fod achosion o feirws y tafod glas seroteip 3 (BTV-3) wedi'u cadarnhau ar bron 500 o ffermydd yng Nghymru, mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine, wedi annog ceidwaid da byw i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y flwyddyn nesaf

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gyda thymor y Tafod Glas yn 2027 ar y gorwel, anogir ceidwaid i weithredu nawr er mwyn sicrhau bod eu buchesi a'u diadelloedd yn cael eu diogelu mewn da bryd.

Dywedodd Dr Richard Irvine: 

Rydyn ni wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol erbyn hyn, gan fod achosion o BTV-3 wedi'u cadarnhau ar fwy na 500 o ffermydd ledled Cymru yn ystod y tymor hwn.  

Mae hyn yn dangos bod y clefyd yn dal i fod yn bresennol dros ardal eang o Gymru a Phrydain, ac yn pwysleisio pam mae'n rhaid i frechu fod yn flaenoriaeth o hyd i geidwaid anifeiliaid sy'n gallu dal yr haint. 

Brechu yw'r unig fesur hirdymor ymarferol i amddiffyn eich da byw rhag y tafod glas.  

Bydd y tafod glas yn goroesi dros y gaeaf, felly mae'n hanfodol ein bod ni'n barod i'r clefyd hwn ddychwelyd y flwyddyn nesaf.  

Wrth i ni edrych ymlaen at 2027, rwy'n annog pob ceidwad da byw i frechu er mwyn amddiffyn eich buchesi a'ch diadelloedd rhag BTV-3. Rydyn ni wedi gweld yr effeithiau dinistriol mewn ardaloedd fel de-orllewin Lloegr yr haf hwn, a gallai'r un peth ddigwydd yng Nghymru'r flwyddyn nesaf.  

Mae gweithredu'n gynnar yn rhoi'r amddiffyniad gorau posibl i'ch da byw ac yn helpu i ddangos bod galw am frechlynnau BTV-3, gan helpu i sicrhau bod cyflenwadau masnachol yn parhau. Dangosodd yr haf hwn y gall y galw am frechlyn gynyddu'n gyflym pan fydd y clefyd yn lledaenu. Os bydd ceidwaid yn aros tan y funud olaf, mae perygl na fydd brechlyn ar gael pan fydd ei angen fwyaf arnynt.

Siaradwch â'ch milfeddyg nawr i gynllunio a chyflwyno eich archebion ar gyfer y brechlyn BTV-3 mewn da bryd. 

Hefyd, mae gwybod beth yw arwyddion y clefyd a phrynu stoc mewn ffordd ddiogel yn dal i fod yn gamau hanfodol y gall pob ceidwad eu cymryd. Cyn dod ag anifeiliaid newydd i'ch daliad, gwiriwch eu statws o ran y tafod glas a gofynnwch a ydyn nhw wedi cael eu brechu.

Hoffwn ddiolch i'r ffermwyr a'r milfeddygon ar hyd a lled Cymru sydd wedi bod yn adrodd ac yn brechu hyd yn hyn. Gan fod nifer yr achosion o BTV-3 wedi cynyddu, mae eich gwyliadwriaeth a'ch parodrwydd i weithredu'n gynnar yn helpu i amddiffyn da byw ledled y wlad.