Mae gweithwyr iechyd a gofal ledled Cymru yn cynyddu eu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg gyda chleifion a chydweithwyr, diolch i raglen gan Lywodraeth Cymru i gryfhau'r dewis iaith o fewn y gwasanaeth iechyd.
Rhwng 2023 a 2025, fe gofrestrodd oddeutu 1,500 o staff ar gyrsiau Codi Hyder, gyda 6,000 yn manteisio ar y rhaglen Dysgu Cymraeg cyffredinol ar gyfer y sector Iechyd a Gofal.
Mae’r cyrsiau Codi Hyder yn cael eu harwain gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â byrddau iechyd. Mae’r cyrsiau yn cefnogi staff sy'n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg ond sy'n teimlo'n ansicr ynglŷn â defnyddio’r iaith mewn cyd-destun clinigol. Mae'r rhai sy’n dilyn y cyrsiau yn derbyn hyfforddiant un-i-un neu mewn grwpiau bach dros 10 i 12 wythnos, ac yna’n derbyn cefnogaeth barhaus i'w helpu i ddefnyddio'r Gymraeg yn naturiol yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
Mae gwerthusiad y Ganolfan yn dangos bod y cyrsiau codi hyder yn ystod 2024-2025 wedi cael effaith gadarnhaol, gyda dros 90% o ymatebwyr yn dweud fod ganddynt fwy o hyder i siarad Cymraeg gyda chydweithwyr, a 88% o ymatebwyr yn teimlo'n fwy hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg gyda chleifion a'u teuluoedd.
Un o’r gweithwyr sydd wedi cael budd o’r cwrs yw Julie Matthias, Cwnselydd Profedigaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Roedd hi’n teimlo’n gyfforddus yn siarad Cymraeg gyda phlant cyn dilyn y cwrs, ond yn llai sicr i ddefnyddio’r iaith gydag oedolion. Roedd arni eisiau cynnig mwy o sesiynau cwnsela yn Gymraeg a defnyddio'r iaith yn fwy rhagweithiol. Gyda’i thiwtor, aethant ati i ymarfer sgyrsiau sy'n gysylltiedig â'i gwaith a darllen adnoddau Cymraeg am alar a phrofedigaeth. Bellach, mae hi’n dechrau sgyrsiau yn Gymraeg gyda chydweithwyr ac yn cynnig gwasanaeth Cymraeg i blant, teuluoedd ac unrhyw un sy'n dymuno ei defnyddio.
Dywedodd:
Roedd y sesiynau yn hyblyg ac wedi'u teilwra i'm hanghenion. Mae gallu canolbwyntio ar eirfa galar, profedigaeth a hunan-ofal wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn fy ngwaith.
Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg:
Mae profiad Julie yn dangos sut gall cymorth ymarferol wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae gallu siarad â chleifion a theuluoedd yn yr iaith maen nhw'n teimlo'n fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio yn rhan bwysig o ddarparu gofal da, yn enwedig pan fo pobl yn fregus ac mewn gwendid.
Wrth i ni nodi ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg a dathlu 20 mlynedd o’r bathodyn Iaith Gwaith yr wythnos hon, mae'n galonogol gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan yn y cyrsiau a gweld eu lefelau hyder yn codi.
Ychwanegodd Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Dona Lewis:
Mae’r Ganolfan Genedlaethol yn falch iawn o arwain rhaglen hyfforddiant genedlaethol sy’n denu cynulleidfaoedd gwahanol at y Gymraeg, gan gefnogi gweithwyr ar draws y sector Iechyd a Gofal yng Nghymru i ddefnyddio mwy o’r iaith.
Mae diddordeb mawr yn ein cyrsiau, ac edrychwn ymlaen at barhau i ymestyn ein darpariaeth er mwyn cefnogi’r gweithlu i gryfhau eu sgiliau dwyieithog.
