Gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer cael gweld ystadegau swyddogol yn gynnar.
Dogfennau
Awst 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 545 KB
Gorffennaf 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 606 KB
Mehefin 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 560 KB
Mai 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 558 KB
Ebrill 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 525 KB
Mawrth 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 547 KB
Chwefror 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 534 KB
Ionawr 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 506 KB
Rhagfyr 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 524 KB
Tachwedd 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 523 KB
Hydref 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 509 KB
Medi 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 523 KB
Manylion
Yn ychwanegol at y staff sy’n cynhyrchu’r adroddiad ystadegol, mae rhai unigolion yn cael gweld ystadegau swyddogol yn gynnar. Mae hyn yn galluogi pobl fel Prif Weinidog Cymru i roi sylwadau ar yr ystadegau yn seiliedig ar ddealltwriaeth gywir ohonynt.
Mae'r rheolau sy'n llywodraethu pwy a pham mae pobl yn cael gweld gwybodaeth yn gynnar yn cael ei osod allan yn y Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009.
Er mwyn sicrhau ein bod yn dilyn y rheolau mae Awdurdod Ystadegau'r DU yn asesu ein trefniadau ar gyfer pwy sy’n cael gweld gwybodaeth cyn ei chyhoeddi.
Pwy sydd â hawl gweld gwybodaeth cyn ei chyhoeddi?
Er budd tryloywder a bod yn agored rydym yn cyhoeddi teitlau’r adroddiadau ystadegol lle mae trefniadau gweld gwybodaeth cyn ei chyhoeddi yn berthnasol. Rydym yn cynnwys teitlau swyddi rheini sydd yn cael gweld gwybodaeth cyn ei chyhoeddi a'r sefydliadau y maent yn perthyn.
Am resymau gweinyddol, bydd timau fel yr uned gyfieithu a thîm cyhoeddi'r rhyngrwyd yn gweld ystadegau cyn eu rhyddhau mewn modd cyfyngedig.
Bydd y set ddiweddaraf o rhestrau yn cael eu hychwanegu yn ystod wythnos olaf o bob mis.