Datblygu strategaeth ddiwylliant a chwaraeon newydd ar gyfer Cymru iachach, gyfoethocach a mwy gwydn.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae'r llywodraeth hon yn credu bod diwylliant, treftadaeth, y celfyddydau a chwaraeon yn hanfodol yng Nghymru. Maent yn hanfodol i sut rydyn ni'n adrodd ein straeon, sut rydyn ni'n mynegi ein gwerthoedd, deall ein hunain a chysylltu ag eraill.
Ymhen deng mlynedd, bydd Cymru'n genedl lle nad yw diwylliant a chwaraeon yn cael eu hystyried fel pethau ychwanegol dewisol, ond fel rhan hanfodol o fywyd cenedlaethol.
Rydym am i ddiwylliant a chwaraeon gael eu cydnabod fel grym pwerus ar gyfer iechyd a lles unigolyn, cysylltiad cymunedol, cyfleoedd economaidd, proffil rhyngwladol a hyder cenedlaethol.
Ein strategaeth diwylliant a chwaraeon newydd i Gymru
Byddwn yn datblygu Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon i Gymru drwy sefydlu'r sefyllfa bresennol, nodi'r canlyniadau yr ydym am i ddiwylliant a chwaraeon eu cyflawni i Gymru, a gweithio gyda phartneriaid i gyd-ddylunio'r camau gweithredu sydd eu hangen i gyrraedd yno.
Dweud eich dweud
Rydyn ni eisiau clywed gan bawb sydd â diddordeb mewn diwylliant a chwaraeon yng Nghymru, o grwpiau llawr gwlad a grwpiau sydd o dan arweiniad gwirfoddolwyr i sefydliadau cenedlaethol, yn ogystal â phobl sydd am helpu i lunio llwyddiant Cymru yn y dyfodol o ran diwylliant a chwaraeon.
Ymatebwch i'n galwad am dystiolaeth a helpwch i ddatblygu ein Strategaeth Ddiwylliant a Chwaraeon newydd ar gyfer Cymru.
