Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r llywodraeth hon yn credu bod diwylliant, treftadaeth, y celfyddydau a chwaraeon yn hanfodol yng Nghymru. Maent yn hanfodol i sut rydyn ni'n adrodd ein straeon, sut rydyn ni'n mynegi ein gwerthoedd, deall ein hunain a chysylltu ag eraill. 

Fel gwrthblaid, roeddem yn feirniadol o'r diffyg buddsoddiad mewn diwylliant a chwaraeon ac effaith tanbrisio'r ddau dros nifer o flynyddoedd. Mae gennym gyfle nawr i fynd i'r afael â hyn, ac i gymryd camau cadarnhaol sy'n dangos ymrwymiad newydd i ddiwylliant a chwaraeon. 

Ymhen deng mlynedd, bydd Cymru'n genedl lle nad yw diwylliant a chwaraeon yn cael eu hystyried fel pethau ychwanegol dewisol, ond fel rhan hanfodol o fywyd cenedlaethol. 

Rydym am i ddiwylliant a chwaraeon gael eu cydnabod fel grym pwerus ar gyfer iechyd a lles unigolyn, cysylltiad cymunedol, cyfleoedd economaidd, proffil rhyngwladol a hyder cenedlaethol.

Mae hynny'n golygu Cymru lle mae mwy o bobl yn cymryd rhan yn rheolaidd; lle mae plant a phobl ifanc yn tyfu i fyny gyda mynediad at ddiwylliant a chwaraeon fel rhan o fywyd bob dydd; lle yr eir ati i ddileu rhwystrau sy'n gysylltiedig â thlodi, daearyddiaeth, anabledd, iaith, hyder neu gefndir; lle mae sefydliadau ac asedau cymunedol yn gynaliadwy ac yn gysylltiedig; a lle mae'r gweithlu yn cael ei werthfawrogi, yn fedrus ac yn cael ei gefnogi'n deg.

Mae hefyd yn golygu Cymru lle mae'r llywodraeth yn glir am ei rôl: arwain lle mai dim ond y llywodraeth all arwain, ymgynnull partneriaid o amgylch canlyniadau a rennir, defnyddio tystiolaeth i lywio buddsoddiad a gweithredu, a gweithio ar draws portffolios fel bod diwylliant a chwaraeon yn cyfrannu'n llawn at nodau cenedlaethol – adeiladu ein hyder fel cenedl a chwarae rôl allweddol wrth ein gwneud yn Gymru iachach a chyfoethocach.

Ein Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd i Gymru

Byddwn yn datblygu Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon i Gymru drwy sefydlu'r sefyllfa bresennol, nodi'r canlyniadau yr ydym am i ddiwylliant a chwaraeon eu cyflawni i Gymru, a gweithio gyda phartneriaid i gyd-ddylunio'r camau gweithredu sydd eu hangen i gyrraedd yno.

Mae 'diwylliant' yn golygu chwaraeon, diwydiannau creadigol, celfyddydau, digwyddiadau, treftadaeth, amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau. Dyna ein man cychwyn, ond rydym hefyd eisiau i'n strategaeth newydd fod yn drawsbynciol, gan ddangos pwysigrwydd diwylliant a chwaraeon i lawer o sectorau eraill. 

Bydd y strategaeth newydd yn seiliedig ar ailasesiad gwreiddiau a changhennau o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r sectorau diwylliant a chwaraeon, a gynhelir drwy gydweithio ac ymgynghori ag artistiaid, sefydliadau chwaraeon, diwylliannol a threftadaeth a rhanddeiliaid perthnasol eraill.

Mae’r strategaeth yn anelu at darparu Cymru iachach, gyfoethocach a mwy gwydn, ac yn cael ei fframio o amgylch chwe maes ffocws: 

1. Cymru Iachach: Mae diwylliant a chwaraeon yn gwella iechyd a lles pobl

Mae gan bobl o bob oed a gallu fwy a gwell cyfleoedd i gymryd rhan mewn diwylliant a chwaraeon i wella eu lles corfforol a meddyliol fel rhan o agenda iechyd ataliol trawsnewidiol.

2. Cymru Gyfoethocach: Mae diwylliant a chwaraeon yn rhyddhau mwy o'n potensial economaidd

Mae diwylliant a chwaraeon yn gyrru twf economaidd, swyddi, diwydiannau creadigol, arloesi, twristiaeth ac enw da rhyngwladol sy'n datgloi mwy o'n potensial economaidd.

3. Cymru Gydnerth: Mae ein seilwaith diwylliannol a chwaraeon yn gynaliadwy ac mae gweithlu cryf yn gofalu amdano 

Bydd cyrff cyhoeddus, sefydliadau, safleoedd a gweithlu cryfach a mwy cynaliadwy yn gofalu am ein diwylliant. 

4. Cymru Fedrus: Codi safonau addysg a chynyddu sgiliau drwy ymgorffori mynediad at ddiwylliant a chwaraeon i blant a phobl ifanc

Hyrwyddo ac ymgorffori mwy o fynediad a chyfranogiad at ddiwylliant a chwaraeon i blant a phobl ifanc, yn ogystal â meithrin a hyfforddi talent y dyfodol.

5. Cymru Fwy Cysylltiedig: Mae diwylliant a chwaraeon yn dod â phobl at ei gilydd, gan gysylltu ein cymunedau trwy ymdeimlad o le

Mae diwylliant a chwaraeon yn cryfhau cymunedau, yn mynd i'r afael â thlodi plant, yn lleihau unigrwydd ac yn cynnal cymunedau bywiog a chydlynol lle gall pawb gael mynediad at ddiwylliant a chwaraeon a chymryd rhan ynddo waeth beth fo'u hincwm, anabledd, daearyddiaeth neu gefndir.

6. Cymru ddwyieithog a hyderus: Mae diwylliant a chwaraeon yn cael eu dathlu ar lwyfan byd 

Hyrwyddo a dathlu holl ddiwylliant a chwaraeon Cymru ym mhob cwr o Gymru a'r byd ochr yn ochr â'n cynnig twristiaeth ddiwylliannol.

Sut byddwn yn gweithredu’r strategaeth newydd

Mae ymgysylltu ac ymgynghori helaeth wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf felly byddwn yn cymryd ymagwedd wedi'i dargedu at sut rydym yn datblygu'r strategaeth hon.

Am y tro cyntaf erioed yng Nghymru, bydd y strategaeth ddiwylliant yn cael ei ehangu i gynnwys y diwydiannau creadigol a chwaraeon, felly, byddwn yn trafod gyda phobl o'r diwydiannau chwaraeon a chreadigol.

Byddwn yn adeiladu ar y gwaith sy'n cael ei wneud i adolygu ein cyfleusterau a'r cyfleoedd buddsoddi sy'n gysylltiedig â diwylliant a chwaraeon. Bydd hyn yn llywio cynnydd cynyddol mewn cyllid yn y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon, sy'n gysylltiedig â newid ehangach i weithgareddau iechyd a lles ataliol ar draws y llywodraeth. Bydd y gwaith hwn yn parhau ochr yn ochr â datblygu'r strategaeth newydd.

Rydym yn canolbwyntio ar dystiolaeth. Byddwn yn sefydlu'r sefyllfa bresennol ar draws diwylliant a chwaraeon yng Nghymru, gyda'r nod o gyhoeddi adroddiad yng Ngwanwyn 2027. Bydd ein hasesiad yn seiliedig ar dystiolaeth a chanfyddiadau ein gweithgarwch ymgysylltu. Byddwn yn nodi beth sy'n gweithio a beth sydd angen ei newid. Ar yr un pryd byddwn yn datblygu gweledigaeth 10 mlynedd ar y cyd ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru sy'n amlinellu'r math o genedl y mae Cymru eisiau bod, er mwyn gwireddu'r uchelgais o ddod yn bwerdy chwaraeon a diwylliannol. Bydd hyn yn canolbwyntio ar nodi'n glir pa ganlyniadau sydd angen eu cyflawni i gyrraedd yr uchelgais hon.   

Yn olaf, byddwn yn cynhyrchu strategaeth gyda chynlluniau gweithredu penodol i'r sector. Bydd hyn yn glir o ran yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud fel partner a galluogwr. Bydd yn amlinellu'r hyn y gall sectorau ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru, a pha gyrff hyd braich, llywodraeth leol, partneriaid cyflawni, cymunedau a sectorau ehangach fydd yn cyfrannu. Bydd yn nodi sut y byddwn yn monitro ac yn gwerthuso ein cynnydd.

Gofyn am dystiolaeth

Mae'r gwaith hwn yn dechrau gyda galwad gyffredinol am dystiolaeth i lywio'r gwaith o ddatblygu ein Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd ar gyfer Cymru. 

Mae'r alwad hon am dystiolaeth yn agor y sgwrs ar ddyfodol diwylliant a chwaraeon yng Nghymru. Mae'n gofyn i bobl, sefydliadau, cymunedau a phartneriaid helpu Llywodraeth Cymru i ddeall cyflwr presennol diwylliant a chwaraeon, llunio gweledigaeth genedlaethol a rennir, a nodi'r camau ymarferol sydd eu hangen i wireddu uchelgais Cymru i ddod yn bwerdy chwaraeon a diwylliant.

Nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar dystiolaeth bresennol, ymgysylltu blaenorol â'r wybodaeth sydd gan sectorau, cymunedau a chyrff cyhoeddus ledled Cymru. Bydd hefyd yn helpu i nodi ble mae tystiolaeth ar goll, ble mae'r heriau mwyaf, a ble mae cyfleoedd i weithredu gyda mwy o uchelgais, ffocws a phwrpas cyffredin.

Rydym am ddod â'r sylfaen dystiolaeth gryfaf bosibl at ei gilydd cyn datblygu'r strategaeth. Mae hyn yn cynnwys data, ymchwil, profiad byw, gwybodaeth leol, enghreifftiau o arfer da, tystiolaeth o rwystrau, a syniadau ymarferol ar gyfer newid. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn tystiolaeth sy'n ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio, beth sy'n fregus, beth sydd ar goll, a beth y gellid ei gynyddu neu ei gryfhau gyda'r gefnogaeth gywir.

Bydd y dystiolaeth a gasglwyd drwy'r alwad hon yn ychwanegol at y dadansoddiad arbenigol mewnol ac academaidd, byrddau crwn y sector, ymgysylltu wedi'i dargedu. Gyda'i gilydd, bydd hyn yn helpu i lunio Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon ymarferol ar gyfer Cymru gyda chamau gweithredu, cyfrifoldebau, cerrig milltir a mesurau llwyddiant clir.

Rydym eisiau clywed gan y rhai sydd eisoes yn rhan o seilwaith diwylliannol a chwaraeon Cymru – o grwpiau a sefydliadau ar lawr gwlad, cymunedol, grwpiau a sefydliadau dan arweiniad gwirfoddolwyr i'n cyrff diwylliannol a chwaraeon cenedlaethol. Rydym hefyd eisiau clywed gan y rhai nad ydynt yn cyflawni neu'n cefnogi gweithgareddau diwylliannol neu chwaraeon ar hyn o bryd ond sydd eisiau chwarae eu rhan wrth drawsnewid Cymru yn bwerdy diwylliannol a chwaraeon.

Cwestiynau

1. Beth yw'r sefyllfa yn awr? Beth yw'r sefyllfa bresennol o ran diwylliant, treftadaeth, y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. 

Cwestiynau trafod:

  • Pa bwysau sy'n effeithio ar sefydliadau, cyfleusterau, clybiau, lleoliadau, ymarferwyr a gweithluoedd?
  • Beth yw'r cryfderau a beth sy'n gweithio'n dda y gellir ei ddiogelu, ei gynnal neu ei gynyddu?
  • Ble mae'r rhwystrau mwyaf i fynediad, cyfranogiad, cyflogaeth, gwirfoddoli neu ddilyniant a pha gymunedau, lleoedd neu grwpiau sy'n cael eu gwasanaethu leiaf gan y ddarpariaeth bresennol?
  • Ble mae'r bylchau tystiolaeth mwyaf arwyddocaol?

2. Ble rydyn ni eisiau gyrraedd mewn deng mlynedd? Beth yw ein huchelgais cyffredin a'r canlyniadau diwylliannol a chwaraeon i ddiffinio llwyddiant i bobl, cymunedau, sectorau a lleoedd ledled Cymru. 

Ein gweledigaeth: Cymru'n dod yn bwerdy diwylliannol a chwaraeon

Ein 6 maes ffocws: (amlinellwyd uchod)

Cwestiynau trafod:

  • Beth yw eich barn am y chwe maes ffocws rydyn ni wedi'u hamlinellu?
  • Beth yw eich barn am y weledigaeth a’r hyn y mae'n ei olygu i Gymru gael ei chydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel pwerdy diwylliannol a chwaraeon?
  • Beth ddylai pobl yng Nghymru allu ei gyrchu, profi, creu neu gymryd rhan ynddo erbyn 2036?
  • Sut y gall diwylliant a chwaraeon gyfrannu at iechyd, lles, addysg, sgiliau, yr economi, lle, atal a'r Gymraeg?
  • Beth fydd llwyddiant i blant a phobl ifanc, pobl hŷn, pobl anabl, siaradwyr Cymraeg, pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl ar incwm isel a chymunedau gwledig?

3.  Beth yw rôl Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid dros y ddegawd nesaf wrth wneud Cymru'n bwerdy diwylliannol a chwaraeon? 

Cwestiynau trafod:

  • Pa gamau all Llywodraeth Cymru eu harwain yn uniongyrchol, a ble y gall ganolbwyntio ar gynnull, galluogi, ariannu, rheoleiddio neu ddileu rhwystrau?
  • Pa newidiadau sydd eu hangen i bolisi, buddsoddiad, data, cyfleusterau, datblygu'r gweithlu, llywodraethu neu weithio mewn partneriaeth?
  • Pa gamau y mae cyrff cenedlaethol, awdurdodau lleol, sefydliadau'r trydydd sector, clybiau, lleoliadau, sefydliadau, ysgolion, byrddau iechyd, cymunedau a phartneriaid preifat eisoes yn eu gwneud ac y gallant eu gwneud yn wahanol neu gyda'i gilydd?
  • Pa gamau cynnar all wneud y gwahaniaeth mwyaf yn nwy flynedd gyntaf y strategaeth?
  • Pa dystiolaeth, cerrig milltir neu ddangosyddion y gellir eu defnyddio i olrhain cynnydd a dal y llywodraeth a'i phartneriaid i gyfrif?

Sut i ymateb

Rydym yn croesawu ymatebion ysgrifenedig gan unigolion, cymunedau, sefydliadau a phartneriaid ledled Cymru. Gall ymatebion dynnu ar ddata ffurfiol, ymchwil gyhoeddedig, profiad sefydliadol, profiad byw, astudiaethau achos, enghreifftiau o arfer da neu gynigion ymarferol ar gyfer newid.

Rydym yn croesawu yn arbennig dystiolaeth glir ynghylch pa gamau sydd eu hangen, pwy sydd angen cymryd rhan, beth all y llywodraeth ei wneud yn wahanol, a sut y gellid mesur cynnydd. Mae'r cwestiynau hyn wedi'u bwriadu fel man cychwyn a gellir eu datblygu ymhellach trwy ymgysylltu â phartneriaid.

Bydd fersiynau hygyrch o'r alwad hon am dystiolaeth ar gael ym mis Medi 2026. Os y gallwn helpu gydag unrhyw addasiadau pellach a fydd yn ei gwneud hi'n haws i chi gymryd rhan yn yr alwad am dystiolaeth neu'r broses ymgysylltu ehangach, cysylltwch â ni. 

Dylid anfon pob ymateb erbyn 18 Rhagfyr 2026 at: StrategaethDiwylliantaChwaraeon@llyw.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 18 Rhagfyr am hanner dydd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni. 

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.