Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei huchelgais i Gymru fod yn genedl sy'n 'Ymwybodol o Ofalwyr', lle mae gofalwyr di-dâl yn cael eu cydnabod yn gynharach a'u trin fel partneriaid wrth gynllunio ar gyfer yr unigolyn y maent yn gofalu amdano.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i lansio heddiw (dydd Llun 2 Chwefror 2026) ar strategaeth ddrafft newydd, sef y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, sy'n gofyn i bobl ledled Cymru helpu i lywio sut i droi'r weledigaeth hon yn realiti.
Mae'r strategaeth ddrafft wedi'i datblygu drwy weithio gyda channoedd o ofalwyr a'u cynrychiolwyr ledled Cymru.
Mae'n nodi 8 blaenoriaeth gan gynnwys gwell cydnabyddiaeth o ofalwyr, sicrhau nad oes gan ofalwyr ifanc ormod o gyfrifoldebau, gwella mynediad at ofal seibiant a gwella cymorth llesiant.
Mae'r nod yn cynnwys Cymru'n dod yn genedl sy'n 'Ymwybodol o Ofalwyr'. Mae hyn yn golygu sicrhau bod gofalwyr o bob oedran ac o bob cymuned, gan gynnwys gofalwyr anabl, yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth sy'n briodol iddynt yn eu hardal leol pan fydd ei hangen arnynt.
Mae hefyd yn golygu adnabod gofalwyr yn gynt, er mwyn iddynt gael cymorth a chyngor hanfodol o gam cyntaf eu taith ofalu, a rhoi llais cryfach iddynt pan fo penderfyniadau yn cael eu gwneud am yr unigolion y maent yn gofalu amdanynt.
Mae'n hanfodol sicrhau bod trefniadau gofal amgen digonol a phriodol (gofal seibiant) a seibiannau byr ar gael i ofalwyr er mwyn eu galluogi i ofalu am eu llesiant.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:
Yn rhy aml, nid yw gofalwyr di-dâl yn cael eu cydnabod – hyd yn oed ganddyn nhw eu hunain. Gall ymddangos mai dim ond ‘edrych ar ôl mam’ neu ‘helpu ffrind’ y maen nhw’n ei wneud, ond mae gofalu yn gallu cael effaith fawr ar gyllid, gyrfaoedd, iechyd a llesiant unigolion.
Rydyn ni eisiau i Gymru fod yn genedl lle mae gofalwyr yn cael eu hadnabod yn gynnar, lle maen nhw'n gwybod am eu hawliau ac yn cael eu trin fel partneriaid i’r unigolion y maent yn gofalu amdanynt.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn bwysig ar gyfer llunio strategaeth sy'n ystyried yn llawn sut mae gofalwyr yn teimlo a'r cymorth y maen nhw'n ei gael. Byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i rannu eu barn yn ystod y cam ymgynghori
Mae'r ymgynghoriad bellach ar agor a bydd yn dod i ben ar 13 Ebrill.
