Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwell tâl ac amodau, mwy o sicrwydd gwaith, gwella cyfleoedd datblygu ac ymrwymiad i greu gweithlu medrus i’r dyfodol yn greiddiol i weledigaeth newydd i adfywio sector manwerthu Cymru sy’n cael ei lansio heddiw gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • gweledigaeth newydd sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru, y sector manwerthu ac undebau llafur yn cydweithio er mwyn datblygu sector cryf, cynaliadwy, arloesol a llwyddiannus
  • manwerthu yw cyflogwr sector preifat mwyaf Cymru – yn darparu swyddi i fwy na 114,000 o bobl ar draws y wlad
  • mae’r weledigaeth yn gosod uchelgeisiau i sicrhau bod manwerthu yn aros wrth wraidd cymunedau Cymru drwy gynnig gwaith teg a chyfleoedd gyrfa gwirioneddol i bobl 
  • mae’n cynnwys mesurau i helpu’r sector oresgyn yr heriau recriwtio a chadw staff a achoswyd gan bandemig Covid a’r DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â’r effaith ar gostau gweithredu ac arferion defnyddwyr o ganlyniad i’r argyfwng costau byw

Mae’r Weledigaeth Strategol a Rennir ar gyfer y Sector Manwerthu yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru, y sector ac undebau llafur yn cydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol er mwyn sicrhau dyfodol disglair a chynaliadwy i’r sector manwerthu yng Nghymru, fydd yn darparu cyfleoedd gyrfa teg sydd yn rhoi boddhad i weithwyr presennol y sector, a gweithwyr y dyfodol.

Mae’r sector manwerthu yn hynod bwysig i economi Cymru. Y sector hwn yw cyflogwr sector preifat mwyaf Cymru, yn darparu swyddi i fwy na 114,000 o bobl, ac yn cyfrannu 6% o Werth Ychwanegol Gros Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi’r swyddi, y nwyddau, y gwasanaethau cymunedol a’r buddiannau a gynigir gan y sector. Mae Gweinidogion wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i gefnogi sector manwerthu cynaliadwy a ffyniannus sydd yn parhau wrth wraidd cymunedau Cymru, ac sy’n cynnig gwaith teg a chyfleoedd gyrfa gwirioneddol i bobl.

Mae’r newid mawr yng nghanol ein trefi yn hanfodol i’r sector manwerthu, felly mae angen sector manwerthu cydnerth a llwyddiannus ar ganol ein trefi. 

Mae’r Weledigaeth yn amlinellu’r heriau sylweddol sy’n wynebu’r sector, ac yn diffinio’r meysydd allweddol lle mae angen gweithredu.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwella cyfleodd gyrfa o fewn y sector manwerthu, gydag ymrwymiad i wella tâl, telerau ac amodau yn gynyddol y tu hwnt i isafsymiau statudol, yn ddelfrydol drwy gydfargeinio
  • gwell sicrwydd swyddi, yn enwedig o ran sicrhau bod gweithwyr yn cael cynnig oriau wedi’u gwarantu a digon o rybudd os oes newid ym mhatrymau eu shifftiau 
  • y sector manwerthu yn dangos esiampl o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhlith y gweithlu - lle cymerir camau rhagweithiol i fynd i'r afael â diffyg cynrychiolaeth, gwahanu galwedigaethol a bylchau cyflog  
  • sicrhau amodau gwaith teg ac amgylchedd gwaith diogel, a rhoi llais effeithiol i weithwyr manwerthu mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a’u hamodau gwaith
  • sicrhau fod canol trefi a’r stryd fawr yng Nghymru yn ffynnu, drwy ymyraethau fel buddsoddiadau, gan gynnwys buddsoddiad adfywio ‘Trawsnewid Trefi’, cymorth ar gyfer ardrethi annomestig, a thrwy ddull gweithredu Canol Trefi yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, gan sicrhau mai’r lleoliadau hyn yw’r lleoliadau a ffefrir ar gyfer gweithleoedd a gwasanaethau
  • mynd i’r afael â’r bylchau mewn sgiliau. Gan adeiladu ar Gynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â’r sector ac undebau llafur, mae Gweinidogion wedi ymrwymo i gynorthwyo i ddarparu gweithlu sy’n barod ar gyfer y dyfodol i’r sector. Mae’r cynllun yn nodi camau gweithredu i uwchsgilio gweithwyr presennol a denu newydd ddyfodiaid i’r sector
  • cynorthwyo manwerthwyr i fanteisio ar y cyfleoedd ddaw o ddatgarboneiddio a digideiddio drwy, er enghraifft, leihau eu dibyniaeth ar danwyddau ffosil, gan leihau ôl troed carbon eu cadwyni cyflenwi a buddsoddi mewn technoleg ddigidol a chynyddu’r defnydd posibl ohoni.
  • mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, yn lansio’r Weledigaeth ar y cyd heddiw yn ystod ymweliad â siop lyfrau annibynnol Storyville a siop Boots yng nghanol tref Pontypridd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae manwerthu yng Nghymru yn hynod bwysig i'n heconomi, ein cymunedau a'n llesiant fel cenedl. Mae manwerthu o'n cwmpas ym mhob man, ym mhob rhan o Gymru, ym mhob pentref, tref a dinas – rydym yn gwerthfawrogi'r swyddi, y nwyddau, y gwasanaethau cymunedol a'r buddiannau a gynigir gan y sector. 

“Yn sgil pandemig y coronafeirws, rydym yn gwerthfawrogi'r sector manwerthu hyd yn oed yn fwy fel un o gonglfeini yr economi sylfaenol. Fodd bynnag, gwyddom nad yw sector manwerthu llwyddiannus a chadarn yn cael ei greu drwy hap a damwain. Dyna pam mae'n bwysig ein bod yn meithrin amgylchedd lle gall ddatblygu ac addasu, yn enwedig mewn ymateb i'r newid i economi fwy cylchol.

“Mae’r weledigaeth gyffredin rydym yn ei lansio heddiw yn ymrwymo Llywodraeth Cymru a’r sector manwerthu i ddeialog barhaus a chydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sydd o’n blaenau. Rydym yn ymwybodol iawn nad oes unrhyw atebion cyflym, datrysiadau hawdd na chyllidebau diderfyn. Fodd bynnag, rydym yn barod i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â Llywodraeth Cymru, cyflogwyr, cyrff sy'n cynrychioli busnesau ac undebau llafur, gan gydweithio i ddeall ble rydym ar hyn o bryd, ble rydym am fynd a sut y gallwn gyrraedd yno.

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wella safon byw a’r amodau fydd yn gwneud Cymru yn lle atyniadol i unigolion a busnesau gynllunio eu dyfodol. Rwy’n gwbl bendant bod gan y sector manwerthu ddyfodol llewyrchus, ac y bydd yn parhau i fod yn rhan allweddol o economi Cymru.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn:

“Mae'r sector manwerthu yn dibynnu'n sylweddol ar ei weithlu. Bydd gwell bargen i weithwyr manwerthu – cyflog gwell, telerau ac amodau gwell, hyfforddiant gwell a rhagolygon gyrfa gwell – yn helpu'r sector manwerthu i oresgyn heriau recriwtio a chadw gweithlu, yn enwedig yn ystod cyfnod o gyfradd cyflogaeth uchel. Bydd hyn o gymorth i hyrwyddo manwerthu fel dewis gyrfa hirdymor a galluogi'r gweithlu i ddarparu lefelau hyd yn oed yn well o wasanaeth cwsmeriaid. 

“Rhaid inni sicrhau bod gweithwyr manwerthu yn cael llais gwirioneddol, yn bennaf drwy eu hundebau llafur, i gynorthwyo i lywio eu hamodau gwaith a dyfodol gwaith yn y sector. Rhaid i ysbryd partneriaeth gymdeithasol – lle mae busnesau ac undebau llafur yn gweithio mewn modd adeiladol i gyflawni eu hamcanion – fod yn un o gonglfeini sector manwerthu y dyfodol.”

Dywedodd Sara Jones, Pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru:

“Mae’r Weledigaeth Manwerthu yn gydnabyddiaeth dderbyniol gan Lywodraeth Cymru o’r diwydiant manwerthu a’n gweithlu. Dangosodd y pandemig inni rôl mor bwysig mae’n manwerthwyr yn ei chwarae, fel gyrwyr yr economi a hyrwyddwyr cymunedol wrth wraidd ein trefi. Mae’r diwydiant yn parhau i wynebu heriau strwythurol sydd wedi cynyddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, fodd bynnag rydym yn gwybod bod cyfleoedd i ffynnu a chreu stryd fawr gynaliadwy, ac i sicrhau bod manwerthu’n parhau’n ddewis gyrfa i nifer o bobl.

“Mae traddodiad cryf o arloesi ac arwain ar syniadau newydd yn y sector, er budd cwsmeriaid Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y sylfeini hyn drwy gydweithio â gwneuthurwyr polisi ac arweinwyr ar bob lefel. Boed trwy Gynllun Gweithredu ar Hinsawdd y diwydiant, y Siarter Amrywiaeth a Chynhwysiant, neu drwy ein cyfraniadau elusennol sylweddol, mae manwerthwyr yn edrych ar ffyrdd o hyrwyddo cydraddoldeb a chyfleoedd ar gyfer ein gweithlu, ein cyflenwyr a’n cymunedau yn barhaus, a ffyrdd o gyfrannu’n effeithiol at gymdeithas. Edrychwn ymlaen at gam nesaf y Weledigaeth Manwerthu ac at fod yn bartner allweddol wrth gyflawni’r dyheadau hyn.”

Dywedodd Nick Ireland, Ysgrifennydd Rhanbarthol USDAW:

“Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid cymdeithasol am gryn amser ar sut gallwn gydweithio i daclo problemau sydd wedi hen sefydlu yn y diwydiant manwerthu ac rydym yn falch iawn o’r Weledigaeth maent wedi ei chyhoeddi heddiw. Roedd y diwydiant cyfan yn ei chael hi’n anodd cyn Covid-19, gyda niferoedd mwy nag erioed o siopau yn cau a swyddi’n cael eu colli, felly mae’r ymrwymiad parhaus hwn i gefnogi’r stryd fawr ac i adfywio canol trefi yn hollbwysig.

“Rhaid inni ddiogelu swyddi drwy helpu’r diwydiant manwerthu i ffynnu, ond  rhaid iddynt hefyd fod yn swyddi da gyda chyflog teg, sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac yn rhoi terfyn ar gontractau ansefydlog, sef yr hyn rydym wedi ymgyrchu droso yn barhaus yn ein hymgyrch ‘Bargen Newydd i Weithwyr’. Y ffordd orau o wneud hynny yw cydfargeinio gydag undebau llafur, sy’n rhan bwysig o’r Weledigaeth hon ar gyfer manwerthu yng Nghymru.

“Mae USDAW yn barod i adeiladu ar y gwaith rydym wedi ei wneud gyda Llywodraeth Cymru, grwpiau cynrychioli busnesau a thrwy ymgysylltu gyda chyflogwyr manwerthu a cheisio darparu gweithlu llawn cymhelliant sydd wedi ei hyfforddi yn dda, ac sydd yn cael ei barchu. Does dim digon o werthfawrogiad wedi bod o waith manwerthu ers amser maith, mae’r Weledigaeth hon yn rhoi cyfle inni newid hynny a rhoi i staff manwerthu Cymru yr urddas maent yn ei haeddu.”

Bydd cynllun gweithredu sy’n canolbwyntio ar gamau gweithredu yn dilyn y Weledigaeth Strategol yn y misoedd nesaf.