Cael y gwerth gorau posibl am arian yw’r prif nod wrth fuddsoddi arian cyhoeddus.
Yn y casgliad hwn
Diben y dull gwell achosion busnes ar gyfer cynigion gwariant a phenderfyniadau busnes yw:
- nodi gwir angen am ymyrraeth
- gosod amcanion clir
- ystyried ystod eang o atebion posibl
- sefydlu trefniadau i wireddu’r cynnig.
Ar ddechrau datblygu achos busnes prosiect neu raglen – cam 'Asesiad Strategol' - argymhellir paratoi Proffil Canlyniadau Prosiect/Rhaglen. Mae'r broses hon yn helpu i egluro sut y bydd menter yn cyfrannu at ganlyniadau blaenoriaeth y llywodraeth.
Canllawiau atodol y Llyfr Gwyrdd: Proffil Canlyniadau Prosiect/Rhaglen ar GOV.UK
Cymorth
Gellir dod o hyd i Sefydliadau Hyfforddiant Achrededig sy’n darparu hyfforddiant Achosion Busnes Gwell ar lefel Sylfaen ac ar lefel Ymarferydd yma: Better Business Cases™ APMG International.
Gall cydweithwyr yn y sector cyhoeddus sy’n gweithio yng Nghymru gael mynediad at hyfforddiant Gwell Achosion Busnes drwy gontract hyfforddiant sydd wedi’i gaffael gan Lywodraeth Cymru. I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â swyddfacyflawniprosiectau@llyw.cymru.