Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Trosolwg

Er mwyn llywio'r gwaith o ddarparu atebion dalgylch sy'n seiliedig ar dystiolaeth, mae angen gwell gwybodaeth am  ansawdd rhyddhau o orlifoedd storm a'r effaith ar ansawdd y dŵr sy'n eu derbyn. Bydd monitro elifiant yn well ar safleoedd penodol, ynghyd â gwaith monitro sydd eisoes ar waith drwy gydol digwyddiad, yn gwella'r dystiolaeth sydd ar gael ac yn galluogi targedu a blaenoriaethu camau gweithredu'n effeithiol.  Rhaid i waith monitro gorlifoedd storm presennol ac yn y dyfodol hefyd weithio ochr yn ochr â rhaglenni monitro ar gyfer lygredd o ffynonellau amaethyddol, gwasgaredig a sectorau eraill.

Bydd rhaglen fonitro ymchwiliol yn cael ei sefydlu rhwng CNC a'r cwmnïau dŵr i bennu gofynion hirdymor ar gyfer monitro gorlifoedd storm ledled Cymru. Bydd yr angen i fonitro ar gyfer ystod ehangach o lygryddion gan gynnwys micro-blastigau, cynhyrchion fferyllol a pharamedrau iechyd y cyhoedd hefyd yn cael ei asesu.

Bydd cwmnïau dŵr hefyd yn ymchwilio ac yn hyrwyddo'r defnydd o fonitro a thystiolaeth o ffynonellau eraill gan gynnwys atebion a thechnoleg arloesol.  Gall dinasyddion a grwpiau lleol chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i fynd i’r afael â llygredd ansawdd dŵr gan ddarparu gwybodaeth fonitro a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd.  Byddwn yn gweithio'n galed gyda gwyddonwyr dinasyddion i ddeall sut mae eu gwaith yn rhan o'n rhaglen waith derfynol.

Ein hymrwymiadau

Mae'r camau sy'n cael eu cymryd o fewn y ffrwd waith hon i gyd yn cyd-fynd â Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru  2021-26 a’r nodau Llesiant canlynol:

  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth i ni wneud y cynnydd mwyaf posibl tuag at ddatgarboneiddio.
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt.
  • Ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
  • Dechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden, gan gryfhau'r gwaith o fonitro ansawdd dŵr.
Sefydliad Arweiniol    Gweithred     Pam?     Erbyn Pryd
Cyfoeth Naturiol Cymru         Byddwn yn cynnal adolygiad o'r holl dystiolaeth yng Nghymru, y DU ac o ffynonellau ehangach i ddatblygu rhaglen dystiolaeth ar gyfer gorlifoedd storm   Er mwyn cynllunio a deall rhaglen dystiolaeth, mae angen i ni ddadansoddi ac adolygu'r arferion gorau, y dystiolaeth a'r gwaith monitro presennol sydd ar gael i'n helpu i bennu'r cwmpas ar gyfer monitro yn y dyfodol. Rhagfyr 2022.
Cyfoeth Naturiol Cymru        Gan adeiladu ar yr adolygiad a gweithio gyda'r tasglu byddwn yn creu rhaglen dystiolaeth sy'n gweithio ochr yn ochr â rhaglenni tystiolaeth y Cwmnïau Dŵr yng Nghymru, gan nodi'r paramedrau angenrheidiol i sicrhau gwell ansawdd dŵr. Bydd targedu’r gwaith o gasglu tystiolaeth ar asedau sy’n gorlifo’n aml ac asedau mewn ardaloedd sensitif, sy’n cyd-fynd â gwaith monitro cwmnïau dŵr yn ein galluogi i greu darlun o effaith gorlifoedd storm.  Dechrau ar raglen dystiolaeth o 01 Ebrill 2023
Cyfoeth Naturiol Cymru     Byddwn yn cynnal arolygon ar y lan (mae asesiadau infertebratau yn samalau 1 munud sy’n edrych ar y gwahanol gynefinoedd o fewn yr ardal samplu)  mewn lleoliadau y cytunir arnynt i asesu effaith fiolegol gorlifoedd storm, gan dargedu asedau rhanddeiliaid yn ogystal ag asedau sy’n gorlifo’n aml     Pan mae gorlifoedd storm yn gweithredu dan yr amodau cywir, dylai unrhyw effaith amgylcheddol gael ei gwyrdroi. Bydd ein harolygon yn helpu i ddatblygu darlun o iechyd yr afon o ystyried gorlifoedd storm.   Byddwn yn ceisio cynnal rhaglen ymchwilio 2 flynedd rhwng 2022-2024 i sicrhau ein bod yn ystyried y tywydd a phatrymau tymhorol.
Tasglu
      
Byddwn yn datblygu Fframwaith ar gyfer defnyddio 'Gwyddoniaeth Dinasyddion' a thystiolaeth rhanddeiliaid wrth adnabod a mynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â gorlifoedd storm. Mae rôl y cyhoedd, rhanddeiliaid a chwsmeriaid o ran gwella ansawdd dŵr yn hanfodol i'w lwyddiant. Bydd y tasglu yn helpu i ddatblygu fframwaith lle gall eraill y tu allan i'r rheoleiddiwr a'r cwmni dŵr helpu i ddatblygu tystiolaeth a darparu rôl ganolog wrth nodi a gwella unrhyw asedau sy'n gweithredu’n wael.   Gan weithio gyda rhanddeiliaid, y nod yw datblygu a chyhoeddi fframwaith erbyn Gorffennaf 2023 a fyddai’n gallu gweithio ar y cyd â sylfaen dystiolaeth y Rheoleiddiwr a Chwmnïau Dŵr.
DCWW         Gan adeiladu ar y data rydym eisoes yn ei gyhoeddi ar ein gwefan o’n gwaith monitro hyd digwyddiadau, byddwn yn datblygu rhyngwyneb sy'n haws ei ddefnyddio. Yn dilyn ein darpariaeth o ddata “byw” i Surfers Against Sewage ar gyfer Dyfroedd Ymdrochi, byddwn yn sicrhau ein bod yn gosod system fonitro “byw” ar draws ein hasedau a fydd yn adrodd o fewn awr o unrhyw ollyngiad. Cynyddu natur agored a thryloyw ein data amgylcheddol i'r cyhoedd  Bydd yr adnodd mapio yn mynd yn fyw ym mis Medi 2022. 

Bydd system fonitro byw yn cael ei chyflwyno erbyn mis Mawrth 2025
DCWW       Byddwn yn adeiladu porth ar-lein a fydd yn ein galluogi i rannu'r holl wybodaeth a gasglwn ar yr effaith ecolegol o orlifoedd storm.   Cynyddu natur agored a thryloyw ein data amgylcheddol i'r cyhoedd   Bydd porth gwybodaeth yn cael ei gyflwyno erbyn mis Mawrth 2025.
DCWW/HD        Byddwn yn asesu effaith amgylcheddol ar bob gorlif storm   I gael dealltwriaeth lawn o effaith gorlifoedd storm ar yr amgylchedd   Asesiad llawn o effaith pob gorlif storm erbyn mis Rhagfyr 2027.
HD     Sicrhau bod gwybodaeth am berfformiad ar gael yn rhwydd ar ein gwefan erbyn diwedd 2022 fel bod pobl yn cael mwy o hyder ynglŷn â’r cyfleoedd i fwynhau’r afonydd ar draws ein rhanbarth   Cynyddu natur agored a thryloyw ein data amgylcheddol i'r cyhoedd  Erbyn diwedd 2022
CCW/Afonydd Cymru         Byddwn yn ystyried tystiolaeth benodol bresennol (CCW) Cymru ynglŷn ag ymwybyddiaeth y cyhoedd o ansawdd dŵr afonydd i helpu i ganfod bylchau mewn ymgysylltiad a fyddai’n llywio’r ffordd yr ydym ni’n mynd ati i wella dealltwriaeth y cyhoedd a rhanddeiliaid o faterion yn ymwneud â gorlifoedd storm yng Nghymru. Gweithio gyda chwsmeriaid dŵr i fynd i'r afael â chamddefnyddio carthffosydd. Gweithio gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid i wella eu dealltwriaeth a'u rôl weithredol wrth fynd i'r afael â'r broblem flocio carthffosydd a gorlifoedd storm yng Nghymru   Rhagfyr 2022
CCW        
 
Byddwn yn gosod meincnod ar gyfer y cysylltiad rhwng ymddygiad personol a'r effaith ar yr amgylchedd, a'r targed ar gyfer 2030. Asesu a darparu tystiolaeth o’r newid tuag at bobl yn gwneud cysylltiad rhwng eu defnydd o wasanaethau dŵr gwastraff a’i effaith ar yr amgylchedd (ymchwil flynyddol ymwybyddiaeth Dŵr CCW).  Hydref 2022 Arolwg blynyddol parhaus
CCW     
    
Yr ydym yn adolygu eglurder a thryloywder gwybodaeth amgylcheddol y diwydiant dŵr am ardaloedd y cwmni ac yn ehangach. Cynyddu tryloywder ac atebolrwydd gwybodaeth amgylcheddol cwmnïau dŵr ar eu heffaith amgylcheddol er mwyn cynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd  Rhagfyr 2022
Parhaus 
Ofwat         Bydd Ofwat yn cwblhau ei ymchwiliad i weithredoedd pob Cwmni Dŵr a Charthffosiaeth yng Nghymru (a Lloegr) Bydd Ofwat yn dwyn cwmnïau i gyfrif am eu dyletswyddau cyfreithiol i ddelio'n effeithiol â charthffosiaeth.  Parhaus – ni ellir gosod amserlen ar gyfer cwblhau hyn. 
Ofwat     Bydd Ofwat yn ystyried yr amgylchiadau penodol yng Nghymru wrth asesu'r cynlluniau busnes o 2024 a thu hwnt. Bydd Ofwat yn ystyried yr amgylchiadau penodol hyn wrth benderfynu ar y camau mwyaf priodol a fforddiadwy.   Sicrhau bod yr amgylchiadau penodol yng Nghymru yn cael eu hystyried.  Bydd hyn yn cynnwys y darpariaethau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru).  Bydd Ofwat yn annog cwmnïau dŵr Cymru i gynnwys cwsmeriaid a rhanddeiliaid ehangach wrth gyd-greu eu hatebion a bydd yn blaenoriaethu atebion sy'n seiliedig ar natur lle y bo'n briodol.   Adolygiad prisiau nesaf yn 2024 ac adolygiadau prisiau dilynol (bob 5 mlynedd ar hyn o bryd)
Ofwat      Bydd Ofwat yn ystyried cydnerthedd hirdymor wrth asesu'r cynlluniau busnes yn 2024  Mae'r tasglu'n cydnabod y bydd newid yn yr hinsawdd a'r boblogaeth yn sbardun pellach i gwmnïau flaenoriaethu atebion a buddsoddiad hirdymor.   2024 a thu hwnt.