Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw bydd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans, yn annog arweinwyr digidol ac arbenigwyr o bob rhan o sector cyhoeddus Cymru i gymryd rhan yn y gwaith o sicrhau bod Cymru’n genedl sydd ar flaen y gad o ran datblygiadau digidol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yng nghynhadledd flynyddol Share Cymru a drefnir gan Gymdeithas y Rheolwyr Technoleg Gwybodaeth (SOCITM), bydd y Gweinidog yn sôn am y gwaith arloesol y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus digidol.

Bydd y Gweinidog yn dweud:

“Mae’r datblygiadau yn y maes digidol a thechnoleg yn rhoi cyfleoedd newydd a chyffrous inni allu cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus a helpu cymunedau yng Nghymru – ond mae’n rhaid inni weithio gyda’n gilydd.

“Mae llawer o brosiectau cyffrous yn digwydd ar draws llywodraeth leol yng Nghymru sy’n ymchwilio i’r modd y gall cydweithio agosach ar draws y sector cyhoeddus greu arbedion a gwasanaethau gwell, ond mae tipyn o ffordd i fynd eto er mwyn gwneud y gwasanaethau hyn yn fwy hyblyg a hygyrch.

“Mae angen inni fwrw ymlaen â’r newidiadau hyn gan ddefnyddio’r maes digidol fel ffon fesur - gwthio’r ffiniau o ran y digidol, gan sicrhau'r un pryd bod holl ddinasyddion Cymru yn ganolog i’r newidiadau - hyd yn oed y rhai sy’n meddwl nad rhywbeth iddyn nhw yw datblygiadau digidol.

“Mae heddiw’n gyfle da inni rannu gwybodaeth a gweithio gyda’n gilydd i newid gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru er gwell.”

Eleni mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi tîm Talent Gorau 2019 SOCITM. Yn ystod y dydd, bydd y rhai fydd yn mynychu’r digwyddiad yn cael clywed gan y grŵp am y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud i ddatblygu pecyn offer sy’n rhoi’r digidol wrth wraidd democratiaeth.