Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, lansiodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, gynllun Llyfrau Llesol (Cymru) sy’n darparu llyfrau hunangymorth ar gyfer plant a phobl ifanc.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y llyfrau yw helpu darllenwyr drwy gyfnod anodd yn eu bywydau, drwy ymdrin â phrofiadau megis profedigaeth, ysgariad, glasoed, a bwlio. Hefyd, mae ’na lyfrau ar gael i’r rheini a chanddynt  fân broblemau neu broblemau cymedrol sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl neu straen emosiynol.

Yn aml bydd plant a phobl ifanc yn ei chael yn anodd siarad am eu hemosiynau, ond drwy ddarllen am bwnc gallant ddod i ddeall eu teimladau’n well, a chael hyd i ffyrdd o ymdopi.

Gall pobl ifanc gael benthyg y llyfrau hunangymorth hyn am ddim o’r llyfrgell leol, a gall gweithwyr proffesiynol sy’n cyfarfod â phobl ifanc yn uniongyrchol, megis meddygon teulu, cwnselwyr ysgol, nyrsys ysgol, athrawon, neu staff canolfannau ieuenctid argymell llyfrau iddynt eu darllen.

Dywedodd Vaughan Gething:

“Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw darllen at ddibenion mwynhau neu ymestyn ein gwybodaeth. Mae gyda phob un ohonon ni ein hoff lyfr, un lle rydyn ni wedi gallu uniaethu gyda’r cymeriadau, gan fynd gyda nhw ar eu taith drwy’r stori. Maen nhw wedi ein helpu i ddeall y byd o’n cwmpas, ac i ffurfio ein syniadau a’n barn ein hunain.  

“Yr egwyddor hon sy’n sail i’r cynllun Llyfrau Llesol (Cymru). Mae’r cymeriadau yn y storïau’n cael profiadau sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth o bynciau, problemau, ac emosiynau sy’n effeithio ar bobl ifanc heddiw, megis bwlio, profedigaeth a straen, a hynny mewn ffordd berthnasol. Mae ymchwil wedi dangos pa mor effeithiol yw cynllun fel hwn, sy’n adeiladu ar gynllun Presgripsiwn Llyfrau Cymru i oedolion a chynlluniau tebyg sy’n cael eu defnyddio’n lleol gan fyrddau iechyd.

“Dyma gynllun cenedlaethol newydd a fydd yn sicrhau cysondeb ar gyfer holl blant a phobl ifanc Cymru.”

Mae llyfrau ar gael ar gyfer pobl ifanc, y glasoed hŷn a rhieni/gofalwyr, ac maen nhw wedi eu hadolygu gan weithwyr proffesiynol ym maes iechyd meddwl plant a’r glasoed, yn ogystal â chan lyfrgellwyr a’r bobl ifanc eu hunain. Mae’r llyfrau wedi eu rhannu’n themâu sy’n ymdrin â’r materion mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar bobl ifanc.

Mae ymchwil wedi dangos bod llyfrau hunangymorth o safon yn gallu bod yn effeithiol iawn. Gallan nhw ddatblygu gwytnwch emosiynol drwy roi sylw i broblemau’n gynnar, a gall hynny gael effaith bositif ar allu cymdeithasol a chyrhaeddiad addysgol person ifanc.