Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Mae Estyn wedi cynnal adolygiad thematig o bresenoldeb mewn ysgolion uwchradd ers dileu’r cyfyngiadau a oedd ar waith o ganlyniad i’r pandemig. Mae wedi’i seilio ar dystiolaeth o arolygiadau uwchradd a chanfyddiadau dilynol ers mis Chwefror 2022. 

Ni chafodd yr adolygiad thematig hwn ei gomisiynu yn ffurfiol gan y Gweinidog fel rhan o gylch gwaith Estyn 2023 i 2024, ond mae’n cynnwys nifer o argymhellion ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

Crynodeb o'r prif ganfyddiadau

Mae prif ganfyddiadau’r adroddiad fel a ganlyn.

  • Cyn y pandemig, roedd presenoldeb cyffredinol mewn ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed yn gwella’n raddol ymhlith yr holl ddisgyblion, yn ogystal â’r rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd cyfran y disgyblion a oedd yn absennol o’r ysgol yn barhaus yn gostwng, er ei bod yn parhau’n rhy uchel.
  • Er 2020, bu cynnydd nodedig yng nghanran y disgyblion sy’n absennol o’r ysgol. Mae absenoldeb awdurdodedig ac absenoldeb anawdurdodedig wedi cynyddu’n gyflym, a bu gwelliant cyfyngedig yn unig yn 2022 i 2023. 
  • Er bod setiau data craidd a rennir gydag ysgolion yn ddefnyddiol, byddai’n fuddiol cynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn galluogi ysgolion i werthuso’n fwy cadarn.
  • Roedd y rhan fwyaf o ysgolion a llawer o awdurdodau lleol yn deall pwysigrwydd gwella presenoldeb disgyblion. Fodd bynnag, nid oedd y gwaith i wella presenoldeb wedi cael digon o effaith dros y 2 flynedd ddiwethaf. 
  • Lle’r oedd ysgolion yn dechrau ysgogi gwelliannau mewn presenoldeb, roedd gan arweinwyr ddisgwyliadau uchel, roeddent yn monitro ac yn gwerthuso cyfraddau presenoldeb yn drylwyr, ac roedd ganddynt brosesau effeithiol i werthuso effaith eu gwaith.
  • Lle’r oedd ysgolion yn cael anhawster yn gwella presenoldeb, roedd arweinwyr yn tueddu i gredu eu bod yn gwneud popeth y gallent, er nad oedd hyn yn cael effaith ddigonol, ac nid oeddent yn defnyddio’r ystod eang o wybodaeth oedd ar gael i olrhain, monitro neu ymyrryd â phresenoldeb gwael. 
  • Mae llawer o ysgolion wedi gwella’u hymagweddau at gasglu barn disgyblion ar sut gallant weithio i wella presenoldeb. Fodd bynnag, caiff y farn hon ei chasglu’n bennaf gan ddisgyblion sy’n mynychu’r ysgol yn fwy rheolaidd, felly nid ydynt yn rhoi digon o wybodaeth i arweinwyr am y rhwystrau i’r disgyblion hynny nad ydynt yn mynychu’r ysgol yn ddigon da.
  • Yn yr achosion mwyaf effeithiol, mae arweinwyr mewn ysgolion yn canolbwyntio’n gryf ar wella addysgu ac arlwy eu cwricwlwm i gynorthwyo disgyblion i ymgysylltu’n effeithiol pan fyddant yn yr ysgol.
  • At ei gilydd, mae cymorth awdurdodau lleol ar gyfer gwella presenoldeb wedi cael effaith gyfyngedig dros y 2 flynedd ddiwethaf. Nid oedd swyddogion gwella ysgolion yn herio nac yn cynorthwyo arweinwyr ysgolion yn ddigon da i wella’r agwedd hon ar eu gwaith, a phan oedd disgyblion yn cyfeirio at wasanaethau awdurdodau lleol, nid oedd swyddogion yn adeiladu’n ddigon da ar y gwaith a oedd eisoes wedi’i wneud gan ysgolion. Yn yr achosion mwyaf effeithiol, roedd awdurdodau lleol ac ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd yn agos i gynllunio a thargedu cymorth. 
  • Roedd heriau ariannol presennol, ynghyd â’r gostyngiad ym mhresenoldeb disgyblion, wedi lleihau gallu staff cymorth i ymateb i bryderon. Yn ychwanegol, nid oedd adnoddau i gynorthwyo ysgolion i wella presenoldeb yn cael eu blaenoriaethu’n effeithiol bob amser. 
  • Roedd nifer o rwystrau rhag gwella presenoldeb disgyblion, ac roedd yn gynyddol anodd i ysgolion fynd i’r afael â’r rhain. Roedd y rhain yn cynnwys dirywiad yn amgyffrediad rhieni am bwysigrwydd presenoldeb da, gallu ysgolion i ymateb o gofio’r nifer gynyddol o ddisgyblion targedig, ac amseriad tymhorau a gwyliau’r ysgol. 
  • Roedd y ffaith fod disgyblion ond yn gymwys i gael cludiant am ddim os ydynt yn byw y tu hwnt i radiws 3 milltir yn her benodol. Roedd arweinwyr ysgolion wedi nodi, yn ystod misoedd pan mae’n bwrw mwy o law, a boreau a nosweithiau tywyllach, nad oedd disgyblion sydd fel arfer yn cerdded i’r ysgol, yn enwedig y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, yn mynychu mor aml, ar y cyfan.
  • Dros y 2 flynedd flaenorol, roedd ysgolion wedi cynyddu eu gallu i ddarparu cymorth targedig i wella presenoldeb disgyblion. O ystyried y pwysau presennol ar gyllidebau ysgolion, roedd arweinwyr ysgolion yn pryderu am gynaliadwyedd y gwaith hwn. Byddai ysgolion yn croesawu cyllid tymor hirach, wedi’i glustnodi i fynd i’r afael â’r flaenoriaeth genedlaethol bwysig hon. 
  • Adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae presenoldeb yn parhau i beri pryder ledled Cymru, ac mae amrywiad mawr mewn cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion unigol ledled Cymru.

Argymhellion: trosolwg

Dylai ysgolion: 

  • gryfhau cynllunio i wella presenoldeb yn strategol, gan gynnwys gwneud defnydd effeithiol o ddata i nodi tueddiadau ac mewn cynllunio ymagweddau tymor hir at wella presenoldeb disgyblion
  • cryfhau eu hymagwedd at fonitro, gwerthuso a gwella presenoldeb 
  • cryfhau eu gwaith gyda rhieni a gofalwyr i esbonio pam mae presenoldeb da yn bwysig
  • datblygu dulliau mwy effeithiol i gasglu barn disgyblion nad ydynt yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd
  • sicrhau bod addysgu ac arlwy’r cwricwlwm yn ennyn diddordeb disgyblion mewn dysgu

Dylai awdurdodau lleol: 

  • roi her a chymorth rheolaidd ac effeithiol i ysgolion i wella presenoldeb disgyblion a helpu gwerthuso effaith eu gwaith 
  • sicrhau bod ymyriadau awdurdodau lleol yn adeiladu ar waith a wnaed eisoes gan ysgolion
  • gweithio gydag ysgolion i’w cynorthwyo i weithio gyda rhieni a gofalwyr i ddeall pwysigrwydd presenoldeb da

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae'r adroddiad yn nodi rhai pethau cadarnhaol o ran sut mae ysgolion yn gweithio i wella presenoldeb, gan nodi bod mwyafrif yr ysgolion a holwyd yn cydnabod pwysigrwydd gwella presenoldeb, gyda llawer ohonynt yn gweld hynny fel blaenoriaeth i'r ysgol gyfan. Canfuwyd hefyd fod ysgolion yn gwneud defnydd cynyddol o lais y disgyblion i'w cynnwys yn llawn wrth ddatblygu strategaethau a nodi'r mathau o gymorth a allai helpu i wella presenoldeb. 

Byddwn yn ysgrifennu at gyfarwyddwyr addysg awdurdodau lleol i'w hysbysu am yr argymhellion ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol.

Argymhellion ac ymateb Llywodraeth Cymru

Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo pwysigrwydd presenoldeb da gyda rhieni, gofalwyr a disgyblion

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn yn rhannol. Rydym yn deall pwysigrwydd cyfathrebu â phlant a'u teuluoedd am bresenoldeb, ond mae'n bwysig deall y ffactorau a'r ymddygiadau sy'n achosi absenoldeb. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys plant, rhieni, gofalwyr, ysgolion ac awdurdodau lleol i ddatblygu'r ddealltwriaeth hon i sicrhau bod y gwaith cyfathrebu yn briodol ac yn effeithiol. Profwyd bod hyn yn fwy effeithiol na chyfathrebu cyffredinol. Un enghraifft o hyn yw'r gwaith sydd ar y gweill gyda Parentkind i ymgysylltu ymhellach â rhieni a gofalwyr i ddeall beth arall y gall Llywodraeth Cymru a phartneriaid ei wneud i gefnogi rhieni a gofalwyr o ran presenoldeb. 

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut gallai disgyblion sy’n byw o fewn y radiws 3 milltir nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim gael eu cynorthwyo’n well i fynychu’r ysgol yn fwy rheolaidd

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn. Mae pwerau yn ôl disgresiwn eisoes ar gael i awdurdodau lleol wneud unrhyw drefniant y maen nhw'n gweld yn dda i hwyluso cludiant o'r cartref i'r ysgol. Gall hyn gynnwys darparu cludiant ysgol am ddim i blant y mae eu rhieni neu ofalwyr yn derbyn budd-daliadau penodol, i gydnabod y gall fforddiadwyedd trafnidiaeth fod yn rhwystr i rai plant rhag mynychu'r ysgol.

Byddaf yn gofyn i'r Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol adeiladu ar ganfyddiadau Estyn ynglŷn â rôl darpariaeth cludiant ar gyfer presenoldeb yn yr ysgol. Byddant yn rhoi sylw penodol i sut y gallwn wella'r arferion a'r prosesau rhwng ysgolion ac awdurdodau lleol i'w cefnogi i weithio mewn partneriaeth i nodi a goresgyn y rhwystrau.

Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi setiau data craidd ar gyfer presenoldeb ddwywaith y flwyddyn, gan gynnwys dadansoddiad atchweliad, gweddillebau ar gyfer absenoldebau parhaus a phresenoldeb grwpiau blwyddyn i gefnogi prosesau gwerthuso’r ysgolion eu hunain yn well

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn yn rhannol. Rydym wedi ymrwymo i barhau i ddarparu setiau data craidd ar bresenoldeb i ysgolion ac awdurdodau lleol ar gyfer presenoldeb cynradd ac uwchradd, ond mae'n bwysig cydnabod y bydd unrhyw gasgliadau data neu waith dadansoddi data newydd yn effeithio ar lwyth gwaith ysgolion a Llywodraeth Cymru. Byddwn yn trafod â rhanddeiliaid i ddeall pa ddadansoddiadau ychwanegol fyddai'n ddefnyddiol fel rhan o'u prosesau hunanwerthuso.

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i ddarparu dadansoddiad wythnosol o bresenoldeb ar lefel ysgol i ddarparu gwybodaeth fwy mynych a gwella ansawdd y data hwn

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn yn rhannol. Byddwn yn parhau i gyhoeddi data presenoldeb yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn ysgol i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol.

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellir dyrannu cyllid yn fwy effeithiol i gynorthwyo ysgolion i wella presenoldeb

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn. Bydd y trefniadau grant cyfunol newydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol dargedu anghenion lleol. Mae presenoldeb yn flaenoriaeth allweddol i'r grant a bydd y telerau ac amodau yn nodi disgwyliadau ynghylch sut y bydd awdurdodau lleol yn cefnogi ysgolion ag ystyriaethau presenoldeb, yn enwedig mewn ysgolion lle mae presenoldeb yn bryder. 

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut gallai diwygio’r flwyddyn ysgol gynorthwyo disgyblion yn well i fynychu’r ysgol yn fwy rheolaidd

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn. Drwy'r Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i edrych ar strwythur presennol y flwyddyn ysgol, gan gynnwys hyd y tymhorau a'r gwyliau. 

Mae'r cynigion cychwynnol a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad yn cynnwys ymestyn y gwyliau hanner tymor mis Hydref i bythefnos a byrhau gwyliau'r haf i 5 wythnos, yn ogystal â chael toriad y gwanwyn ar ganol tymor y gwanwyn yn hytrach na gwyliau ynghlwm wrth y Pasg. Mae cynigion dilynol yn edrych ar ymestyn y gwyliau hanner tymor mis Mai i bythefnos a byrhau gwyliau'r haf i 4 wythnos. Mae'r newidiadau hyn yn cael eu cynnig heb unrhyw newid i gyfanswm cyffredinol y gwyliau ysgol i ddysgwyr a staff addysgu, a bydd gwyliau'r haf yn para am o leiaf 4 wythnos. 

Datblygwyd y cynigion yn dilyn ymchwil ac ymgysylltu helaeth, a'u bwriad yw helpu i sicrhau cysondeb o ran hyd tymhorau i wella'r potensial i ddysgu ac i ddarparu strwythur dysgu mwy cyson. Ar ben hynny, gallai gwasgaru'r gwyliau yn fwy cyfartal trwy gydol y flwyddyn a chynnig wythnos ychwanegol o wyliau yn ystod y tymor hiraf (yr hydref) gefnogi llesiant yn well a helpu i leihau blinder a deimlir gan ddysgwyr a staff ysgol. 

Drwy'r gwaith hwn mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau nad yw blinder dysgwyr yn rhwystr rhag mynychu'r ysgol. Drwy dymhorau mwy cyson eu hyd a sicrhau nad ydynt yn rhy hir, rydym yn gobeithio cefnogi presenoldeb dysgwyr yn well.

Yn ddibynnol ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad, disgwylir i unrhyw newidiadau i'r calendr ysgol gael eu cyhoeddi yng ngwanwyn 2024, i'w gweithredu o flwyddyn ysgol 2025 i 2026.

Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i nodi’r ffactorau sy’n effeithio ar bresenoldeb gwael a darganfod y dulliau mwyaf effeithiol o wella presenoldeb

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn yn rhannol. Mae gennym eisoes nifer o ffynonellau ymchwil y gallwn eu defnyddio i nodi'r ffactorau sy'n effeithio ar bresenoldeb. Mae'r rhain yn cynnwys ' Adolygiad presenoldeb, goblygiadau'r pandemig COVID-19 ar bresenoldeb mewn ysgolion' ac ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i 'Absenoldebau Disgyblion'. Mae gennym hefyd ganlyniadau'r arolwg Parentkind (Saesneg yn unig) diweddar a oedd yn cynnwys canfyddiadau defnyddiol megis rhwystrau canfyddedig rhag presenoldeb a chanfyddiadau ac agweddau rhieni tuag at ysgolion ac addysg. 

Mae ein rhaglen ymchwil barhaus, wedi'i chynllunio, yn edrych ar oblygiadau'r pandemig ar gyfer dysgwyr, atal gwaharddiadau, effeithiolrwydd Ysgolion Bro, y system anghenion dysgu ychwanegol, ac effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Mae'r holl brosiectau hyn yn ystyried sut y gellir defnyddio'r polisïau dan sylw i'r eithaf i gefnogi presenoldeb ac ennyn diddordeb.

Rydym yn adolygu ein sylfaen dystiolaeth yn barhaus i sicrhau bod gennym ddealltwriaeth lawn o ffactorau sy'n effeithio ar bresenoldeb. Rydym yn ymwybodol bod angen dyfnhau ein dealltwriaeth o ffactorau cartref a theulu sy'n effeithio ar bresenoldeb, a blaenoriaeth uniongyrchol felly yw adeiladu ar yr arolwg a gynhaliwyd gan Parentkind. Bydd trafodaethau o'r fath yn parhau i lywio ein holl bolisïau ac ymyraethau. 

Manylion cyhoeddi

Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 18 Ionawr a gellir ei ganfod ar wefan Estyn.