Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Tachwedd 2011.

Cyfnod ymgynghori:
16 Awst 2011 i 17 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym am newid system Cymru ar gyfer cyflwyno apeliadau cynllunio er mwyn symleiddio'r broses apelio, arbed arian ac amser a sicrhau bod modd ymdrin ag apeliadau cymhleth.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae ein newidiadau arfaethedig yn cynnwys:

  • system gyflymach ar gyfer apeliadau gan ddeiliaid tai;
  • galluogi’r Arolygiaeth Gynllunio i benderfynu ar y dull a ddefnyddir i apelio ym mhob achos yn seiliedig ar feini prawf sydd wedi’u cymeradwyo a’u cyhoeddi gan y Gweinidog;
  • caniatáu i bobl wneud cais am gostau mewn perthynas ag apeliadau yr ymdrinnir â nhw drwy sylwadau ysgrifenedig;
  • ei gwneud yn haws cywiro gwall(au) mewn penderfyniadau ar apeliadau;
  • awdurdodi arolygwyr i benderfynu ar apeliadau mewn perthynas â rhoi caniatâd sy’n ymwneud â hen fwynau;
  • newid y trefniadau ar gyfer talu ffioedd am geisiadau gorfodi pan gyflwynir apeliadau fel y telir y ffi gyfan i’r awdurdod cynllunio lleol;
  • ei gwneud yn ofynnol cyflwyno Datganiadau o Dir Cyffredin yn gynt;
  • canllawiau a phroses ffurfiol ar gyfer amserlenni ymholiadau cymhleth.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 217 KB

PDF
217 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Rhestr o'r ymgynghoreion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 48 KB

PDF
48 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.