Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi gwneud dau welliant i’n system rheoli trethi ar gyfer ffurflenni’r Dreth Trafodiadau Tir (TTT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn ymateb i adborth, rydym wedi gwneud dau newid newydd i’n system rheoli trethi y mis yma. Mae’n effeithio ar y ffordd rydych yn cyflwyno gwybodaeth mewn dwy ran o’r ffurflen.

Dileu’r adran am y les

Rydym wedi dileu’r adran ‘am y les’ o’r ffurflen TTT o 1 Mawrth 2019 am nad yw’r wybodaeth hon yn ofynnol. Mae’n rhaid talu TTT o hyd ar les ac mae’r wybodaeth angenrheidiol yn cael ei chasglu yn yr adran ‘am y cyfrifiad’ ar y ffurflen TTT. 

Nid ydym yn newid y cyfnod ffeilio TTT. Bydd yn dal i fod 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym (fel rheol y dyddiad cwblhau). 

Dyddiad dod i rym a chontract 

Mewn ymateb i'ch adborth rydym yn cyflwyno nodwedd newydd sy’n ymwneud â’r dyddiad dod i rym a chontract.  

Nawr byddwch yn gallu llenwi ffurflen TTT heb ddyddiad dod i rym a chontract. Mae hyn yn cynnwys y cyfrifiad treth. 

Byddwch hefyd yn gallu cynnwys dyddiad yn y dyfodol. Bydd y nodwedd newydd hon ar gael o 14 Mawrth. 

Rydym wedi creu fideo  hefyd i esbonio'r newidiadau.

Rydym ni’n croesawu adborth. Anfonwch e-bost: haveyoursay@wra.gov.wales.