Mae gwelliannau gwirioneddol wedi'u gwneud i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc sy'n cael eu darparu i bobl sy'n byw yng Nghymoedd y De.
Mae'r newidiadau'n golygu y gall yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, ddod â'r trefniadau monitro a chymorth sydd wedi'u rhoi ar waith i wella'r gwasanaethau hyn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ben.
Y bwrdd iechyd yw'r unig un sy'n cael ei symud yn ôl i drefniadau arferol ar gyfer CAMHS yng Nghymru.
Mae wedi gwneud gwelliannau hefyd i'w amseroedd aros a'i berfformiad ym maes canser, sy'n golygu bod lefel y cymorth a'r ymyrraeth y mae'n ei chael wedi gostwng o lefel pedwar i lefel tri.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn parhau i fod ar lefel tri ar gyfer cyllid a chynllunio.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
Rwy'n falch iawn o weld y gwelliannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac rwyf wedi penderfynu llacio lefel y cymorth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Mae fy mhenderfyniad heddiw yn dangos sut mae ein cefnogaeth yn cael effaith galonogol ar ansawdd y gofal a'r gwasanaethau y mae sefydliadau GIG Cymru yn eu darparu.
Hoffwn ddiolch i'r holl staff ar draws y bwrdd iechyd sy'n gweithio'n galed i wneud gwahaniaeth i fywydau plant y mae arnyn nhw angen cymorth iechyd meddwl o ansawdd uchel.