Neidio i'r prif gynnwy

Nifer gwelyau’r GIG ar lefel Cymru a Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Cyfartaledd blynyddol yw'r data a gyflwynir yn y datganiad ystadegol hwn ac maent yn dangos y newid blynyddol yng nghyfraddau’r gwelyau llawn a’r gwelyau sydd ar gael. Felly, ni fydd y data hyn yn adlewyrchu’r newid mewn lefelau gweithgarwch yn ystod y flwyddyn.

Mae'r data hyn yn cwmpasu cyfnod o amser yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar wasanaethau'r GIG.

Yn ystod y pandemig, ad-drefnwyd gwasanaethau ysbytai yng Nghymru o ganlyniad i fesurau atal a rheoli heintiau gwell, a'r angen i drin cleifion COVID a chleifion nad ydynt yn gleifion COVID ar wahân. O ganlyniad, gostyngwyd gweithrediadau a gynlluniwyd yn sylweddol a gostyngodd derbyniadau brys nad ydynt yn rhai brys. O ganlyniad, roedd cyfraddau gwelyau llawn mewn ysbytai yn is yn 2020-21 nag yn y blynyddoedd blaenorol. Felly, dylid bod yn ofalus wrth gymharu cyfraddau gwelyau llawn rhwng 2020-21 a’r blynyddoedd blaenorol.

SITREP COVID-19 dyddiol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw'r brif ffynhonnell ddata ar gyfer ffigurau derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer COVID-19, ac mae data yn cael eu cyhoeddi'n ddyddiol gan Lywodraeth Cymru (StatsCymru). Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad ystadegol hwn yn seiliedig ar ffynhonnell wahanol, diffiniadau gwahanol a mathau gwahanol o ysbytai. Felly, ni ddylid cymharu’r ddau gasgliad hwn.

Prif bwyntiau

  • Yn 2020-21, roedd nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau a oedd ar gael yn 10,340.4, gostyngiad o 224 (2.1%) o'i gymharu â 2019-20.
  • Yn 2020-21, roedd nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau llawn yn 7,170.2, gostyngiad o 1,863.1 (20.6%) o'i gymharu â 2019-20.
  • Yn 2020-21, roedd canran gwelyau llawn y GIG yn 69.3%. Mae hyn yn ostyngiad o 16.2 pwynt canran o'i gymharu â 2019-20.
  • Mae’r ffaith bod nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau llawn a chanran y gwelyau llawn yn 2020-21 yn is yn adlewyrchu'r lefelau is o weithgarwch gofal wedi’i gynllunio o ganlyniad i bandemig COVID-19.

Newid hirdymor

Ers i'r casgliad data presennol ddechrau ym 1996-97, mae nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau llawn a'r gwelyau sydd ar gael wedi bod yn gostwng. Cynyddodd canran y gwelyau llawn tan 2016-17, ac ar ôl hynny bu gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn.

Noder mai'r strategaeth hirdymor ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru yw darparu gofal yn agosach at y cartref drwy gynyddu gwasanaethau cymunedol a meddygon teulu. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn 'Cymru iachach: y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol'.

Mae datblygiadau mewn technoleg gofal iechyd hefyd wedi arwain at hyd arhosiad byrrach a mwy o lawdriniaethau dydd. Mae data ar yr hyd arhosiad cyfartalog i’w cael ar PEDW ar-lein ( Iechyd a Gofal Digidol Cymru).

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.