Neidio i'r prif gynnwy

Nifer gwelyau’r GIG ar lefel Cymru a Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Cyfartaledd fesul blwyddyn ariannol yw’r data a gyflwynir yn y pennawd ystadegol hwn ac maent yn dangos y newid blynyddol yng nghyfraddau’r gwelyau llawn a’r gwelyau sydd ar gael. Mae cyfres data fisol waelodol hefyd ar gael drwy’r ddolen yn yr adran ddata isod.

Mae’r data yn cwmpasu pandemig y coronafeirws (COVID-19), a effeithiodd ar wasanaethau’r GIG. Dylid cymryd gofal wrth gymharu cyfraddau gwelyau llawn yn ystod y pandemig â blynyddoedd blaenorol a blynyddoedd dilynol.

Prif bwyntiau

Mae’r data diweddaraf yn dangos cynnydd bach yn nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau sydd ar gael a gwelyau llawn. Cynyddodd y gyfradd gwelyau llawn ychydig hefyd. Mae nifer y gwelyau sydd ar gael a gwelyau llawn yn dal ychydig yn is na’r lefelau cyn y pandemig. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r duedd hirdymor o leihad yn nifer y gwelyau sydd ar gael a gwelyau llawn wedi lefelu rhywfaint.

Yn 2022-23, nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau a oedd ar gael oedd 10,400, sef cynnydd o 125 (1.2%) o’i gymharu â 2021-22.

Yn 2022-23, nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau llawn oedd 8,888, sef cynnydd o 546 (6.5%) o’i gymharu â 2021-22.

Yn 2022-23, canran gwelyau llawn y GIG oedd 85.5%. Mae hyn yn gynnydd o 4.3 pwynt canran o gymharu â 2021-22.

Newid hirdymor

Ers i’r casgliad data presennol ddechrau ym 1996-97, mae nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau llawn a’r gwelyau sydd ar gael wedi gostwng, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maent wedi lefelu. Cynyddodd ganran y gwelyau llawn yn raddol tan 2016-17. Wedi gostyngiad yn ystod 2020-21, cynyddodd y gyfradd gwelyau llawn yn sydyn yn 2022 ac mae wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf.

Cefndir pellach

Noder mai’r strategaeth hirdymor ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru yw darparu gofal yn agosach at y cartref drwy gynyddu gwasanaethau cymunedol a meddygon teulu, gan arwain at lai o alw am welyau ysbyty dros amser. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn ‘Cymru iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol’.

Mae datblygiadau mewn technoleg gofal iechyd hefyd wedi arwain at hyd arhosiad byrrach a mwy o lawdriniaethau dydd. Mae data ar yr hyd arhosiad cyfartalog ar gael ar Data Gofal Cleifion a Dderbyniwyd (APC) ar gael Ar-lein (Iechyd a Gofal Digidol Cymru).

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Rhys Strafford

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.