Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn hysbysebu am eu rolau lleoliad ymchwil gymdeithasol i israddedigion ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25.

Mae Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth Llywodraeth Cymru yn cynnal sesiwn wybodaeth ar gyfer israddedigion sydd â diddordeb mewn ymgeisio am y cyfleoedd lleoliad ymchwil gymdeithasol i israddedigion yn Llywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal Gweminar y gellir sicrhau lle ynddi drwy e-bostio recriwtio.ymchwilcymdeithasol@llyw.cymru. Diben y weminar hon yw esbonio sut i ymgeisio am y rolau hyn a rhoi rhagor o wybodaeth am y rolau eu hunain. 

Fel rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn gwybodaeth bersonol (enw a chyfeiriad e-bost) gan y rhai sydd am sicrhau lle i ymuno â gweminar lleoliadau i israddedigion GSR Llywodraeth Cymru drwy e-bostio recriwtio.ymchwilcymdeithasol@llyw.cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru fynediad at eich enw a'ch cyfeiriad e-bost ac unrhyw wybodaeth arall y byddwch yn dewis ei darparu os byddwch yn anfon e-bost atom i ofyn am addasiadau rhesymol ar gyfer y weminar.

Beth fyddwn ni’n ei wneud â’ch gwybodaeth?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Unwaith y byddwch wedi sicrhau lle yn y weminar drwy e-bostio recriwtio.ymchwilcymdeithasol@llyw.cymru byddwch yn cael ymateb e-bost sy'n cynnwys dolen i gyfarfod Teams ar gyfer y weminar gwybodaeth.

Felly, fel cynadleddwr, bydd Llywodraeth Cymru yn cael mynediad at eich gwybodaeth gyswllt (enw a chyfeiriad e-bost) er mwyn anfon dolen Teams atoch ar gyfer y weminar. Ac yn sgil hynny, fel trefnydd y digwyddiad, mae Llywodraeth Cymru yn dod yn rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth honno. 

Gofynnir i'r cynadleddwyr hefyd anfon e-bost at flwch negeseuon recriwtio ymchwil gymdeithasol Llywodraeth Cymru: recriwtio.ymchwilcymdeithasol@llyw.cymru os bydd unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnynt i gymryd rhan yn y weminar. Gallai hyn gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, defnyddio trawsgrifio neu gapsiynau agored yn ystod y digwyddiad, neu sleidiau a anfonir cyn y weminar. Os ydych am ofyn am unrhyw addasiadau rhesymol ar gyfer weminar, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich enw a'ch cyfeiriad e-bost er mwyn gohebu â chi.

Bydd dolen Teams i'r digwyddiad yn cael ei hanfon atoch ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad. Ni fydd yn bosibl i Lywodraeth Cymru na chynadleddwyr eraill weld unrhyw wybodaeth bersonol drwy Teams, heblaw am yr enw arddangos y byddwch yn dewis ei ddarparu er mwyn cael mynediad i Teams.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw cydsyniad; ac ar gyfer unrhyw ddata mewn categori arbennig a ddarperir fel rhan o geisiadau am addasiadau rhesymol, y sail gyfreithiol yw cydsyniad penodol.

Pa mor ddiogel yw’ch data personol?

Mae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw ar weinyddion diogel, ac mae mynediad i'r blwch post Recriwtio Ymchwil Cymdeithasol wedi'i gyfyngu i gydweithwyr ymchwil cymdeithasol sy'n ymwneud â recriwtio. 

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau ar gyfer ymdrin ag unrhyw achosion o dorri rheolau diogelwch data. Os amheuir bod rheolau diogelwch data wedi cael eu torri, yna bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fydd gofyniad cyfreithiol arnom i wneud hynny.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw manylion cyswllt y mynychwyr, ac unrhyw wybodaeth sydd wedi'i hanfon ati gan y mynychwyr yn gofyn am addasiadau rhesymol ar gyfer y weminar, tan y digwyddiad a bydd yn dileu'r wybodaeth hon o fewn wythnos ar ôl dyddiad y digwyddiad.

Byddwn ond yn cadw eich manylion cyswllt am gyfnod hirach os gofynnwch i ni gysylltu â chi am ymarferion recriwtio yn y dyfodol.

Eich hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth

Mae gennych yr hawl:

  • i weld y data personol yr ydym yn eu prosesu ynglŷn a chi
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu’r prosesu (o dan amgylchiadau penodol)
  • i'ch data gael eu 'dileu'
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Eich hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.gov.uk

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei chadw a’r defnydd a wneir ohoni, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylio cyswllt isod:

Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth (sy'n trefnu'r digwyddiad ar ran ystadegau ac ymchwil gymdeithasol)

Y Gyfarwyddiaeth Digidol, Data a Thechnoleg 
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: recriwtio.ymchwilcymdeithasol@llyw.cymru

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru