Neidio i'r prif gynnwy

Mae blwyddyn gyntaf y cynllun gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc a staff y sector addysg wedi bod yn llwyddiant yn ôl Llywodraeth Cymru, gan ei gwneud hi’n haws nag erioed i bobl ddysgu’r iaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r cynllun yn rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru.

Rhwng 22 Medi 2022 a 31 Mawrth 2023, ymunodd dros 1,500 o bobl ifanc 16 i 25 â gwersi dysgu Cymraeg, a dros 450 o athrawon a darpar athrawon.

Mae’r artist stryd o Gaerdydd, Daniel Reeves a gaiff ei adnabod fel ‘Revealist’, wedi manteisio ar y cynllun. Dywedodd:

“Fe welais i neges ar Instagram am wersi Cymraeg am ddim i bobl dan 25 oed. Fe wnes i chwilio ar y we a rhoi fy enw i lawr yn syth.

“Roedd dysgu Cymraeg ar-lein gyda’r tiwtor yn hawdd iawn. Roedd hi’n help mawr. Mae wedi bod yn wych cael cefnogaeth gan gymaint o bobl ar y daith, o gymaint o wahanol gefndiroedd, ond y peth gorau i fi yw gallu teimlo’n falch am rywbeth dw i’n gweithio arno.”

Un o’r athrawon sydd wedi dysgu Cymraeg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yw Tom Trevarthen o Ysgol Henry Richard Tregaron - un o’r bobl oedd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni. Dywedodd:

“Dw i wedi byw yng Nghymru ers symud yma i astudio dros ddegawd yn ôl, ac y llynedd fe wnes i benderfynu ei bod hi’n hen bryd i fi ddysgu Cymraeg, ac ers hynny dw i wedi bwrw ’mlaen ac wir wedi joio.

“Mae’r Gymraeg nawr yn rhan bwysig o ’mywyd cymdeithasol a ’mywyd gwaith. Mae llawer o blant yn yr ysgol yn siarad Cymraeg fel ail iaith a dw i’n gobeithio bod fy ngweld i’n dysgu ac yn dod yn fwy hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg wedi bod yn ysbrydoliaeth iddyn nhw.”

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac wrth lansio’r fenter hon y llynedd, y nod oedd ei gwneud hi’n haws nag erioed i bobl ddysgu’r iaith a magu’r hyder i’w defnyddio yn eu bywydau bob dydd. Rwy’n hynod o falch fod bron i 2,000 o bobl wedi manteisio ar y cyfle dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Drwy gynnig gwersi Cymraeg am ddim, rydym wedi sicrhau fod pobl ifanc yn gallu parhau i ddatblygu a gwella eu sgiliau Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol, a’u bod yn gallu defnyddio’r iaith yn eu gwaith ac wrth gymdeithasu.

“Mae datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg yn allweddol i gyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Dywedodd Cefin Campbell AS, Aelod Dynodedig:

"Mae'n wych gweld y brwdfrydedd a bod pobl yn manteisio ar y cynnig hwn o wersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc ac i rai yn y proffesiwn addysgu. Mae'n rhan allweddol o'r pecyn o bolisïau i gryfhau'r Gymraeg, sy’n digwydd drwy'r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

"Flwyddyn ers ei lansio, mae'n arbennig gweld yr effaith y mae'r cynllun hwn yn ei chael. Rwy'n gobeithio y gwelwn lwyddiant y cynllun yn parhau, ac y bydd yn magu hyd yn oed mwy o fomentwm wrth symud ymlaen."

Dywedodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Creu a chefnogi siaradwyr newydd y Gymraeg yw prif nod y Ganolfan, ac rydyn ni’n cynnig ystod o gyfleoedd i bobl fwynhau dysgu a defnyddio’r Gymraeg. 

“Mae cynlluniau penodol ar gyfer pobl ifanc a’r gweithlu addysg, gyda dosbarthiadau wyneb-yn-wyneb, rhai rhithiol, a chyrsiau hunan-astudio ar-lein.  Mae ’na fwrlwm yn y sector a galw am gyfleoedd newydd, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i ehangu ein darpariaeth.”