Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i lythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog Addysg at Estyn ar gyfer 2019-2020, yn gofyn iddynt gynnal adolygiad o ansawdd yr hyfforddiant proffesiynol sydd ar gael yng Nghymru i fodloni’r heriau o ran y newid yn yr amgylchedd gwaith ieuenctid cenedlaethol a datblygiadau polisi.

Mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso ansawdd a phriodoldeb hyfforddiant gwaith ieuenctid yng Nghymru wrth ddarparu i weithwyr ieuenctid y medrau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu rôl a bodloni gofynion gwaith ieuenctid modern ym mhob ffurf. Mae’n dilyn yr adroddiad thematig ‘Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid yng Nghymru: Gwerth Gwaith Ieuenctid’ a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2018, ac yr ymatebodd Llywodraeth Cymru iddo fis Awst 2019. Mae hefyd yn cyfeirio at y cynnydd a wnaed yn unol ag argymhellion adroddiad Estyn yn 2010, sef ‘Arolwg o hyfforddiant cymwysterau proffesiynol ar gyfer gweithwyr ieuenctid yng Nghymru’.

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

Mae 16 prif ganfyddiad yn yr adroddiad, ac fe geir crynodebau isod:

  1. Mae cymwysterau gwaith ieuenctid yn arfogi myfyrwyr â chefndir cadarn mewn arfer gwaith ieuenctid, ac yn rhoi iddynt y medrau sydd eu hangen arnynt i gyflawni yn eu proffesiwn. Mae’r sector gwaith ieuenctid wedi gwneud cynnydd gwerthfawr yn unol â bron pob un o’r argymhellion yn ‘Arolwg o hyfforddiant cymwysterau proffesiynol ar gyfer gweithwyr ieuenctid yng Nghymru’ (Estyn, 2010).
  2. Yn gyffredinol, mae myfyrwyr gwaith ieuenctid yn cyflawni’n dda, er bod llawer ohonynt wedi dechrau mewn addysg uwch o gefndiroedd addysg a chymdeithasol annhraddodiadol. Yn aml, mae eu profiadau eu hunain yn golygu y gallant ddeall y materion sy’n effeithio ar bobl ifanc, a dangos empathi. Mae llawer ohonynt yn symud ymlaen o Lefel 3 i lefel gradd ac mae ychydig ohonynt yn symud ymlaen i gyflawni graddau uwch.
  3. Mae rhaglenni hyfforddiant gwaith ieuenctid yn cyd-fynd yn dda â’r pum nod allweddol a amlinellir yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2019. Mae cynnwys cyrsiau ar bob lefel yn rhoi cydbwysedd addas rhwng hyfforddiant academaidd ac ymarferol, ac yn rhoi i fyfyrwyr y medrau sydd eu hangen arnynt i ymgymryd â swyddi mewn amrywiaeth eang o leoliadau gwaith ieuenctid a chymuned.
  4. Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales a sefydliadau addysg uwch (SAUau) yn gweithio gyda’i gilydd yn dda i gynnig cymwysterau priodol a chyfleoedd gwerth chweil i fyfyrwyr symud ymlaen i ddilyn cyrsiau ar lefel uwch. Mae ychydig o gyflogwyr yn cynnig llwybrau prentisiaeth ar gyfer hyfforddiant gwaith ieuenctid.
  5. Mae llawer o ddysgwyr yn cwblhau eu cyrsiau yn llwyddiannus, ac yn ennill eu cymwysterau. Mae bron pob un o’r myfyrwyr yn darparu esboniadau cadarn ynghylch pam maent yn dilyn eu rhaglenni astudio, ac maent yn llawn cymhelliant. Mae llawer ohonynt yn cyfeirio at yr effaith drawsnewidiol a gafodd gwaith ieuenctid ar eu bywydau eu hunain, a dangosant awydd angerddol a diffuant i ddylanwadu ar fywydau pobl ifanc er gwell.
  6. Mae safon yr addysgu a’r cyfarwyddyd yn effeithiol ar draws y darparwyr amrywiol. Mae myfyrwyr yn canmol y profiad, cymhwysedd staff, a’r cymorth addysgol a bugeiliol a ddarperir ar draws yr holl ddarparwyr cyrsiau. Mae tiwtoriaid gwaith ieuenctid a chymuned yn weithwyr ieuenctid profiadol a chymwys, sy’n defnyddio eu profiadau ymarferol yn y maes i ymestyn eu haddysgu a’u mewnbwn academaidd. Fe ddewn nhw ag ymroddiad ac angerdd i’w rôl, yn ogystal â dealltwriaeth gadarn o weithio mewn partneriaeth, datblygiadau yn y sector a gwaith ieuenctid rhyngwladol.
  7. Mae lleoliadau gwaith yn elfen hanfodol o raglenni hyfforddiant gwaith ieuenctid. Maent yn darparu’r lleoliad ymarferol lle gall myfyrwyr ddefnyddio’r agweddau damcaniaethol ar eu cwrs, a myfyrio ar eu harfer eu hunain o dan oruchwyliaeth pobl eraill. Mae pob SAU wedi cymryd camau effeithiol, ond mae prinder lleoliadau gwaith yn parhau i fod yn her. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn teimlo bod lleoliadau gwaith yn berthnasol a buddiol i’w datblygiad proffesiynol ac academaidd.
  8. Mae arweinyddiaeth a rheolaeth mewn sefydliadau sy’n cynnig cyrsiau gwaith ieuenctid yn effeithiol. Mae gan bob darparwr brosesau rheoli ansawdd cadarn ar waith ac mae rheolwyr cyfadrannau a chyrsiau yn defnyddio amrywiaeth o wybodaeth ac yn craffu ar ddata i reoli ansawdd ac effeithiolrwydd cyrsiau. Mae ganddynt systemau a chynlluniau o ansawdd da ar waith i ddogfennu’r prosesau rheoli. Mae deilliannau myfyrwyr yn destun cymedroli allanol trylwyr. Mae gan y rhan fwyaf o ddarparwyr fesurau effeithiol ar waith i sicrhau ansawdd lleoliadau gwaith a dilyniant myfyrwyr yn ystod y lleoliad.
  9. Mae sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant gwaith ieuenctid wedi cynyddu eu defnydd o’r Gymraeg, er bod anghysondebau a phroblemau cyffredin yn parhau ledled Cymru. Mae gan sefydliadau fwy o ddogfennau Cymraeg nag o’r blaen, ac maent yn galluogi myfyrwyr i gyflwyno aseiniadau yn Gymraeg. Caiff myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg gyfleoedd priodol i ddefnyddio eu Cymraeg mewn lleoliadau gwaith, ond mae cyfleoedd i astudio yn Gymraeg yn parhau i fod yn gyfyngedig, ac mae dysgu dwyieithog yn parhau i fod heb eu datblygu’n ddigonol yn y sector gwaith ieuenctid.
  10. Erbyn hyn, mae pob SAU yn integreiddio elfennau o addysgu â chyfadrannau eraill yn eu sefydliad. Mae’r drefn hon o rannu theori ac arfer ar draws arbenigeddau yn datblygu dealltwriaeth o’r cyd-destunau y mae gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda phobl ifanc ynddynt.
  11. Mae tebygrwydd rhwng medrau a methodoleg gwaith ieuenctid a’r ffyrdd newydd o weithio a amlinellir yn y Cwricwlwm i Gymru 2022. Mae SAUau yn paratoi myfyrwyr gwaith ieuenctid ar gyfer y cyfraniad y gallant ei wneud at addysg ffurfiol ac anffurfiol trwy archwilio dogfennau arfer a pholisi perthnasol mewn modiwlau cyrsiau ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig.
  12. Mae ymglymiad agos ETS â’r sector a glynu at safonau Cyd-bwyllgor Negodi’r DU (JNC) yn sicrhau bod cymwysterau gweithwyr ieuenctid a’r hyfforddiant a gawsant ar y lefelau proffesiynol uchaf. Mae hyfforddiant gwaith ieuenctid yn rhoi ystod eang iawn o fedrau i ymarferwyr ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc. Mae’r medrau hyn yn adlewyrchu pum piler gwaith ieuenctid, sef: addysgiadol, mynegiannol, cyfranogol a grymusol (Grŵp Adolygu Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, 2018) ac yn arfogi gweithwyr i ymgymryd â gwaith ieuenctid mewn amrywiaeth eang o leoliadau statudol ac anstatudol. Nid yw medrau gweithwyr ieuenctid neu fedrau y mae amrywiaeth eang o gyflogwyr yn gofyn amdanynt, yn cael eu harchwilio’n rheolaidd ar hyn o bryd.
  13. Erbyn hyn, mae llawer o ysgolion uwchradd yn dechrau gweld gwerth cael gweithiwr ieuenctid yn aelod o’r staff, ond mewn llawer o achosion, maent yn gweithio gyda phobl ifanc heriol yn unig, ac fe gânt eu gweld fel gweithwyr sy’n cynorthwyo â rheoli ymddygiad, neu gymorth ar gyfer pobl ifanc â ‘phroblemau’, ac yn aml, ni chânt eu gwerthfawrogi’n ddigonol fel addysgwyr drwy eu hawl eu hunain.
  14. Mae nifer y gweithwyr ieuenctid a’r gweithwyr cymorth ieuenctid sydd wedi eu cofrestru’n ffurfiol yn tanamcangyfrif nifer y gweithwyr hyn sy’n cyflwyno gwaith ieuenctid ar draws yr amrywiaeth lawn o leoliadau. Dim ond 429 o weithwyr ieuenctid a 692 o weithwyr cymorth ieuenctid sydd wedi eu cofrestru gyda CGA ar 1 Mawrth 2020 (CGA, 2020). Mae CGA yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, ETS, y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim a Grŵp Cyfranogiad Strategaeth Datblygu’r Gweithlu i ddatrys y materion hyn.
  15. Ar ôl hyfforddi, nid yw’n ofynnol i weithwyr ieuenctid, fel athrawon, gwblhau blwyddyn brawf, ac nid ydynt yn gymwys i gael cyfleoedd dysgu proffesiynol fel hawl chwaith. Mae’r ffaith nad oes statws gweithiwr ieuenctid cymwys sydd gyfwerth â statws athro cymwys (SAC) ar gyfer athrawon yn golygu nad yw gweithwyr ieuenctid yn elwa yn yr un ffordd ag athrawon ar hyfforddiant parhaus ar gyfer eu medrau proffesiynol, a chydnabyddiaeth ohonynt. Hefyd, mae diffyg cyllid i gefnogi cyfleoedd hyfforddi parhaus. Ni chaiff uwch weithwyr ieuenctid eu cynnwys mewn rhaglenni arweinyddiaeth addysgol cenedlaethol na rhanbarthol, ac mae hyn yn rhwystro datblygiad arweinyddiaeth o fewn y proffesiwn.
  16. Mae gan awdurdodau lleol rôl bwysig mewn cefnogi a datblygu hyfforddiant gwaith ieuenctid. Fodd bynnag, nid oes ganddynt yr adnoddau bob amser i gefnogi datblygu cyrsiau neu gyfrannu at hyfforddiant gweithwyr ieuenctid (statudol a gwirfoddol, fel ei gilydd), gan gynnwys y rhai mewn lleoliadau nad ydynt yn rhai addysg yn yr awdurdod lleol.

Argymhellion 1-5

Argymhelliad 1

Parhau i weithio gyda phob partner yn y sector gwaith ieuenctid i gefnogi datblygiad gwaith ieuenctid a hyfforddiant gwaith ieuenctid, gan gynnwys gallu arweinyddiaeth.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn: Wrth ddatblygu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru, ymgysylltodd Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol â phobl ifanc, gweithwyr ieuenctid a gwirfoddolwyr, a rhwydweithiau a grwpiau ieuenctid gwirfoddol, awdurdodau lleol ac annibynnol. Mae'r ymgysylltu gweithredol hwn wedi parhau drwy waith y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim a'r pedwar Grŵp Cyfranogiad Strategol, sy'n cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid o bob rhan o'r sector. Yn benodol, fel rhan o gynllun gwaith Datblygu'r Gweithlu y Grŵp, byddant yn datblygu Cynllun Datblygu'r Gweithlu sy'n cwmpasu'r sector o brentisiaid i reolwyr gwasanaethau. Mae cynllun gwaith y Grŵp hefyd yn nodi'r angen i sicrhau bod hyfforddiant gweithwyr ieuenctid â chymwysterau proffesiynol yn parhau i fod yn addas i'r diben, yn unol â chanfyddiad yr adroddiad bod hyfforddiant ar hyn o bryd yn rhoi cefndir cadarn i fyfyrwyr ynghyd â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt yn y proffesiwn. Yn ogystal â hyn, mae'r Grŵp hefyd wedi dechrau prosiect ar ddatblygu rhaglen arweinyddiaeth ar gyfer uwch arweinwyr yn y sector. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â'r sector drwy'r grwpiau hyn a thrwy ddulliau eraill gyda phobl ifanc a rhanddeiliaid allweddol eraill o bob rhan o'r sector.

Argymhelliad 2

Parhau i weithio gyda CGA ac ETS i ddiweddaru a gwella’r trefniadau cofrestru ar gyfer gweithwyr ieuenctid i sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cael ei drin yn yr un ffordd â phroffesiynau addysg eraill.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn: Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda CGA ac ETS i ddiweddaru'r trefniadau cofrestru ar gyfer gweithwyr ieuenctid gan gynnwys diweddaru'r rhestr gymwysterau sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru. Bydd categorïau cofrestru ychwanegol hefyd yn cael eu hystyried ymhellach gan gynnwys hyfforddeion a'r rhai mewn sectorau eraill yn hytrach nag Addysg. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud ar y cyd â'r Grŵp Cyfranogiad Strategol ar Ddatblygu'r Gweithlu, y mae CGA yn aelod ohono.

Argymhelliad 3

Comisiynu’r archwiliad medrau llawn ar gyfer y sector, i gynnwys medrau sydd eu hangen ar gyflogwyr a medrau presennol gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid sydd wedi eu cofrestru gyda CGA a’r rhai sy’n ymgymryd â gwaith ieuenctid ac nid ydynt wedi eu cofrestru.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn: Ymrwymodd Llywodraeth Cymru o fewn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru i ‘sicrhau bod hyfforddiant gweithwyr ieuenctid cymwys proffesiynol yn bodloni’r hyn y mae ei angen ar bobl ifanc heddiw a’r hyn y mae ei angen ar y cyd-destunau y mae gwaith ieuenctid yn cael ei gynnal ynddynt’. Mae Grŵp Datblygu'r Gweithlu wedi gosod mapio ac ymchwilio i'r gweithlu fel un o'i dasgau allweddol, a fydd yn rhoi dealltwriaeth gryfach o'r sgiliau presennol yn y sector. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid allweddol
ar draws y sector i fapio gweithwyr ieuenctid cofrestredig a chynnal arolwg cenedlaethol o'r gweithwyr ieuenctid hyn. At hynny, bydd y Grŵp yn astudio datblygiad gweithwyr ieuenctid, gan weithio tuag at system ar gyfer dysgu a datblygiad proffesiynol sy'n briodol ar gyfer anghenion gweithwyr ieuenctid cyflogedig a gwirfoddol, a rhaglen flynyddol o ddysgu a datblygiad proffesiynol sy'n briodol ar eu gyfer. Bydd y Grŵp Datblygu'r Gweithlu yn gweithio i sicrhau bod pob rhan o'r archwiliad sgiliau llawn a argymhellir gan Estyn yn cael eu hymgorffori yn y gwaith hwn. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil i lywio'r gwaith o weithredu'r strategaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru, a fydd yn casglu tystiolaeth o ystod, maint ac ansawdd gwaith ieuenctid.

Argymhelliad 4

Ymchwilio i ddarpariaeth llwybrau prentisiaethau ffurfiol ar gyfer hyfforddi gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn: Mae Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru yn nodi y dylid ystyried prentisiaid yng Nghynllun Datblygu'r Gweithlu. Mae Grŵp Cyfranogiad Strategol Datblygu'r Gweithlu yn cynnwys ymrwymiad yn eu cynllun gwaith i adolygu cydlyniad ac addasrwydd y gyfres lawn o gymwysterau a dilyniant mewn gwaith ieuenctid a chymunedol, gan gynnwys prentisiaethau gwaith ieuenctid. Drwy waith y Bwrdd a'r Grwpiau, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried dulliau o gefnogi darparwyr prentisiaethau i gynnig prentisiaethau sy'n rhoi'r sgiliau priodol i ddysgwyr y gallant eu cymhwyso mewn lleoliad ymarferol neu wrth symud ymlaen i gymhwyster lefel uwch.

Argymhelliad 5

Gweithio gyda darparwyr hyfforddiant gwaith ieuenctid a sefydliadau perthnasol eraill i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn hyfforddiant gwaith ieuenctid.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyn: Rhan o'r weledigaeth a amlinellir yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru yw bod cyfleoedd a phrofiadau ar gael i bobl ifanc yn Gymraeg ac yn Saesneg, a’u bod yn cymryd rhan mewn profiadau sy'n datblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth Gymreig. Fel rhan o strategaeth Cymraeg 2050, cafodd 79 o sefydliadau gyllid ar gyfer cyfleoedd anffurfiol i ddefnyddio'r Gymraeg drwy'r Grant Hybu'r Gymraeg er mwyn sicrhau bod cyfleoedd i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg yn bodoli ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim sydd wedi ymrwymo i ddatblygu lefel uwch o ddarpariaeth Gymraeg ar draws y sector gwaith ieuenctid cyfan. Mae gan y Grwpiau Cyfranogiad Strategol gamau gweithredu clir mewn perthynas â hyn, er enghraifft mae gan y Grŵp Hygyrch a Chynhwysol ymrwymiad i ddatblygu rhaglen waith i gynyddu cyfleoedd ar gyfer gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg, tra bod y Grŵp datblygu'r gweithlu yn ymrwymo i ddeall ac ymateb i anghenion hyfforddiant iaith Gymraeg presennol.

Mae grŵp gorchwyl a gorffen y Gymraeg yn cyd-fynd â gwaith y Grwpiau Cyfranogiad Strategol i edrych yn benodol ar y materion sy'n ymwneud â gwasanaethau Cymraeg ac annog twf ynddynt. Mae aelodau'r grŵp hwnnw'n eistedd ar yr holl Grwpiau Cyfranogiad Strategol er mwyn sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig ac mae cadeirydd y grŵp hwnnw'n eistedd ar y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim.

Argymhellion i Ddarparwyr, Awdurdodau Lleol a Chonsortia Rhanbarthol

Argymhelliad 6

Dylai Darparwyr Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid wneud yn siŵr fod gweithwyr ieuenctid a myfyrwyr o broffesiynau eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn cael cyfleoedd i hyfforddi gyda’i gilydd.

Argymhelliad 7:

Dylai Darparwyr Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid gwella argaeledd, amrywiaeth ac ansawdd lleoliadau gwaith.

Argymhelliad 8

Dylai Awdurdodau Lleol annog ysgolion i gydnabod medrau arbenigol a gwybodaeth broffesiynol gweithwyr ieuenctid ar gyfer cefnogi datblygiad y cwricwlwm newydd.

Argymhelliad 9

Dylai Awdurdodau Lleol cefnogi a chyfrannu at ddatblygu cyrsiau ar gyfer hyfforddi gweithwyr ieuenctid statudol a gwirfoddol, gan gynnwys y rhai mewn lleoliadau nad ydynt yn rhai addysg.

Argymhelliad 10

Dylai Consortia Rhanbarthol archwilio ffyrdd o gynnwys gweithwyr ieuenctid ochr yn ochr ag athrawon mewn cyfleoedd hyfforddiant dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth addysgol.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim i'w cefnogi i gyflawni'r argymhellion hyn gan sicrhau bod gweithwyr ieuenctid yng Nghymru yn cael y cymorth a'r hyfforddiant gorau i ddarparu profiadau dysgu cyfoethog a gwerthfawr i bobl ifanc yng Nghymru. Mae Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru yn dweud yn glir mai'r ased mwyaf i waith ieuenctid yng Nghymru yw'r gweithlu ieuenctid sy'n darparu profiadau a chyfleoedd i bobl ifanc ledled y wlad. Mae'r strategaeth yn amlinellu ein bod am i staff proffesiynol cyflogedig a gwirfoddol fod yn fedrus iawn a chael cyfleoedd i ddatblygu'n barhaus drwy gydol eu gyrfaoedd, gan gael mynediad at gyfleoedd rhwydweithio a rhannu gwybodaeth rhanbarthol a cenedlaethol a chyfleoedd i ddysgu, gan chwarae rhan weithredol yn natblygiad polisi gwaith ieuenctid.

Mae ein Grŵp Cyfranogiad Strategol ar Ddatblygu'r Gweithlu yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector, gan gynnwys darparwyr gwaith ieuenctid a chynrychiolwyr awdurdodau lleol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â'r grŵp hwn i'w cefnogi i gyflawni eu hymrwymiadau, a fydd yn cyfrannu at gyflawni'r argymhellion a restrir uchod.

Manylion cyhoeddi

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi fis Hydref 2020 ar wefan Estyn.