Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynnal digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd yr wythnos nesaf yng Nghaerdydd wedi rhoi cyfle gwych i Croeso Cymru godi proffil Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan bod disgwyl oddeudu 170,000 o ymwelwyr ychwanegol yng Nghaerdydd a chynulleidfa deledu fyd-eang o oddeutu 200 miliwn ar draws 200 o wledydd a thiriogaethau, mae Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn un o’r digwyddiadau mwyaf un erioed.  Gyda Juventus a Real Madrid yn cymeryd rhan yn rownd derfynol y dynion yng Nghyngrair y Pencampwyr UEFA a Lyon a Paris Saint-Germain yn cystadlu yn Rownd Derfynol y menywod yng Nghyngrair y Pencampwyr, mae disgwyl i Gaerdydd fod yn hynod brysur a bywiog gyda nid yn unig Eidalwyr, Sbaenwyr a Ffrancwyr, ond pobl o bob cwr o’r byd, gan gynnwys oddeutu 2,500 o aelodau’r cyfryngau.    

Mae’r gwaith o farchnata Cymru fel y wlad sy’n cynnal y digwyddiad wedi bod yn mynd rhagddo ers dechrau 2017.  Roedd cystadleuaeth yn rhan o stondin Croeso Cymru yn ITB Berlin, marchnad deithio fwyaf y byd, gyda gwobr i ennill wythnos o wyliau yng Nghymru a dau diced ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, y dynion a’r menywod, a gwelwyd dros 16,000 yn cymeryd rhan yn y gystadleuaeth. Roedd Cwpanau Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr hefyd i’w gweld ar y stondin, oedd yn boblogaidd iawn.  

Yn dilyn lansio teithiau awyr cwmni Iberia o Madrid i Gaerdydd, cynhaliwyd teithiau ymgyfarwyddo ar gyfer newyddiadurwyr a chwmnïau teithio o Madrid er mwyn iddynt weld yr hyn sydd gan Gaerdydd i’w gynnig – pe byddai eu tîm yn cyrraedd y rownd derfynol.  Mae Cwmnïau Teithio o Sbaen ac Iberia Airways bellach yn hyrwyddo Cynghrair y Pencampwyr a gwyliau byr i Gaerdydd trwy eu sianelau eu hunain.  Mae’r cwmni o Sbaen, Politours yn defnyddio Cynghrair y Pencampwyr yn benodol fel ffordd o dynnu sylw eu cleientiaid at Gymru fel cyrchfan gwyliau dinas a chyrchfan wyliau.    

Mae fideo newydd hefyd wedi ei gynhyrchu sy’n cynnwys bwytai yn hyrwyddo Caerdydd yn cael eu ffilmio a’u dosbarthu yn Eidaleg - You Tube (dolen allanol), Sbaeneg - You Tube (dolen allanol) a Saesneg - You Tube (Saesneg yn unig - dolen allanol). Mae fideo newydd o fachgen ifanc o Gymru yn breuddwydio am chwarae yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr wedi ei ddosbarthu drwy sianeli y cyfryngau cymdeithasol (Saesneg yn unig - dolen allanol).

Mae tudalennau rhyngwladol wedi eu creu ar croesocymru.com (dolen allanol) yn Ffrangeg, Sbaeneg a Chatalan, sy’n hyrwyddo Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr ymhellach fel cyrchfan wyliau.  Mae ymgyrch farchnata cyrchfan ddigidol hefyd yn cael ei chynnal yn Sbaen a Ffrainc i hyrwyddo Cymru.  

Er mwyn rhoi gwybodaeth i’r cefnogwyr, mae Canllaw i Gaerdydd wedi ei gynhyrchu yn Sbaeneg, Eidaleg a Ffrangeg a’i ddosbarthu trwy Croeso Cymru a VisitBritain.  Bydd negeseuon o groeso yn cael eu gosod yn Maes Awyr Caerdydd, Gorsaf Drenau  Caerdydd Canolog a Heol y Gadeirlan yn ogystal â brandio yng Ngorsaf Paddington, Llundain a Maes Awyr Schiphol, Amsterdam.   Bydd gan Croeso Cymru stondin ym Mhentref y Pencampwyr yn arddangos yr hyn sydd gan y wlad i’w gynnig – ac os na fydd cynnwrf y gemau yn ddigon, bydd Weiren Wib a phrofiad dŵr gwyn rhithiol 360 i’w gweld.  

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi: 

“Mae Gêm Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn gyfle gwych i bobl ledled y wlad weld yr hyn y gall Gymru ei wneud, tra’n rhoi i gannoedd a miloedd y cyfle i brofi ein twristiaeth, ein cynnyrch a’r cyfleoedd busnes sydd ar gael.  Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu croesawu peldroedwyr amlwg o bob cwr o’r byd i Gymru.   

“Am y tro cyntaf mewn wyth mlynedd, roedd nifer yr ymwelwyr tramor i Gymru yn fwy na miliwn yn 2016 – a gwelsom ffigurau gwariant uwch nag erioed o’n marchnadoedd dramor.  Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi rhagor o gyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o Gymru fel cyrchfan wyliau mewn marchnadoedd tramor amlwg. 

“I nifer o gefnogwyr, dyma fydd eu hymweliad cyntaf â Chymru, ac rydym yn gobeithio y cânt amser gwych yng Nghymru – yn mwynhau’r croeso a’r awyrgylch ac yn dod yn ôl eto yn fuan.  Byddwn yn parhau i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i gynnal digwyddiad mor fawr ymhell wedi’r chwiban olaf.”