Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil ansoddol ar gyfer blwyddyn gyntaf y gwerthusiad cenedlaethol Dechrau'n Deg.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad cenedlaethol o Dechrau'n Deg
Mae rhaglen graidd Dechrau'n Deg yn helpu teuluoedd â phlant dan 4 oed mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru. Lansiwyd cynnig craidd y rhaglen gyntaf yn 2006 i 2007 ac mae'n cynnwys pedair elfen.
- Gofal plant rhan-amser, uchel ei ansawdd, wedi'i ariannu ar gyfer plant 2 i 3 oed.
- Gwell cymorth gan ymwelwyr iechyd.
- Mynediad at gymorth magu plant o'r cyfnod amenedigol hyd at bedair oed.
- Cymorth datblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Ehangodd Cam 1 ehangu Dechrau'n Deg bob un o bedair elfen y rhaglen i ardaloedd newydd yn 2022 i 2023. Roedd y gwaith ehangu yn targedu cymunedau gyda'r lefelau uchaf o amddifadedd nad oeddent wedi'u cyrraedd eto a chynyddu argaeledd lleoedd cyfrwng Cymraeg. O fis Ebrill 2023, cyflwynodd y gwaith ehangu elfen gofal plant rhan-amser a ariennir Dechrau'n Deg, gyda'r uchelgais o gyrraedd pob plentyn 2 a 3 oed yng Nghymru.
Mae'r adroddiad gwerthuso ansoddol blwyddyn 1 yn rhan o astudiaeth dulliau cymysg dair blynedd barhaus ac yn darparu trosolwg o gyflawni, ymgysylltu, ac effaith ganfyddedig yn ystod cyfnod o ehangu sylweddol i'r rhaglen.
Adroddiadau
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 667 KB
Cyswllt
Yr Is-adran Tystiolaeth a Chefnogaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Tlodi a Phlant
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn:
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
