Mae CLIC Ar-lein yn wefan gyffredinol sy'n darparu gwybodaeth, newyddion a chyngor i bobl ifanc yng Nghymru 11-25 oed.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Comisiynwyd y gwerthusiad i ddarparu adolygiad amserol a chynhwysfawr o wasanaeth CLIC, a'i weithgareddau ategol cysylltiedig, er mwyn llywio cyfeiriad y gwasanaeth at y dyfodol a bwydo penderfyniadau mewn perthynas ag ymagweddau cyllido a chyflwyno.
Prif nod y gwerthusiad yw “bwydo dull darparu gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol i bobl ifanc 11-25 oed yng Nghymru yn y dyfodol, yng nghyd-destun cyllid is” ac yn benodol i asesu effeithiolrwydd:
- model darparu CLIC
- CLIC wrth gyflawni ei amcanion ac i ba raddau mae CLIC yn cyfrannu at amcanion polisi a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
- y defnydd o adnoddau a chefnogaeth bresennol i wefannau lleol.
