Mae'r adroddiad yn nodi canfyddiadau gwerthusiad o Gronfa'r Economi Gylchol ar gyfer Gweithgareddau Atgyweirio ac Ailddefnyddio ledled Cymru rhwng 2019 a 2025.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae adroddiad hyn yn archwilio effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Gweithgareddau Atgyweirio ac Ailddefnyddio, a chost-effeithiolrwydd y cyllid.
Canfu'r gwerthusiad fod ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i ariannu 80 o ganolfannau atgyweirio ac ailddefnyddio ar draws canol trefi yng Nghymru wedi'i gyflawni.
Effeithiau
Canfu'r gwerthusiad fod Cronfa'r Economi Gylchol yn sbardun pwysig i weithgarwch Atgyweirio ac Ailddefnyddio ledled Cymru. Nodwyd ystod o effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol Gweithgareddau Atgyweirio ac Ailddefnyddio, gan gynnwys eu bod yn gwella llesiant a chysylltiad cymdeithasol, yn lleihau gwastraff ac yn annog pobl i brynu nwyddau ail-law, ynghyd â manteision economaidd i unigolion a'r gymuned ehangach.
Ystyriodd y gwerthusiad gost-effeithiolrwydd Cronfa'r Economi Gylchol a sylwyd ar amrywiad ar draws modelau cyflawni gwahanol.
Mae'r adroddiad yn cynnwys nifer o gasgliadau ac argymhellion manwl yn seiliedig ar ganfyddiadau'r gwerthusiad.
Adroddiadau
Gwerthusiad Gweithgareddau Atgyweirio ac Ailddefnyddio , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Crynodeb , HTML
Cyswllt
Cecilia Kumar
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
