Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad proses o gynllun sy'n cefnogi lles plant a phobl ifanc (0 i 25 oed).

Ar 16 Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Haf o Hwyl gwerth £5 miliwn i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed. Cymerodd dros 67,500 o blant a phobl ifanc ran.

Canfu’r gwerthusiad annibynnol gefnogaeth eang i’r rhaglen ymhlith rhanddeiliaid, yn genedlaethol ac yn lleol. Cefnogwyd plant a phobl ifanc i ailymgysylltu â darpariaeth gymunedol er eu lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol yn dilyn cyfyngiadau’r cyfnodau clo. Roedd Arweinwyr Chwarae awdurdodau lleol o’r farn bod y cymunedau yn teimlo’n bositif ynghylch y buddsoddiad a wnaed ynddynt. Nododd y darparwyr eu bod wedi elwa ar y buddsoddiad ariannol yr oedd ei angen yn fawr yn dilyn y cyfnodau clo.

Roedd rhanddeiliaid blaenllaw, yr awdurdodau lleol, y plant a’r bobl ifanc yn argymell parhau i ddarparu cyllid i gefnogi plant a phobl ifanc yn y tymor hirach er mwyn adeiladu ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni drwy Haf o Hwyl.

Adroddiadau

Gwerthusiad Haf o Hwyl , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Faye Gracey

Rhif ffôn: 07747 248237

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.