Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn adolygu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Canfu'r gwerthusiad hwnnw:

  • mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn helpu i wireddu amryw o bolisïau Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod o sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cyfle i gael addysg, gan leihau nifer y bobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) a mynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol
  • roedd y dadansoddiad ystadegol ar gyfer y prosiect yn dangos bod myfyrwyr sy’n cael y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn cofrestru i ddilyn addysg ar ôl oed gorfodol yn gynt, ac os nad oeddent yn astudio ar gyfer cymwysterau Safon Uwch, roeddent yn astudio am gyfnod hirach, gan gyrraedd lefel uwch, na’r rheini nad oeddent yn cael y Lwfans
  • er mai’r gred oedd y byddai’r rhan fwyaf o’r rheini a oedd yn cael y Lwfans wedi parhau â’u haddysg heb y Lwfans hwnnw, barn mwyafrif llethol y rhanddeiliaid oedd y dylai’r Cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg barhau yn ei ffurf bresennol.

Mae’r adroddiad yn gwneud wyth argymhelliad sydd wedi codi o’r casgliadau hyn.

Adroddiadau

Gwerthusiad Lwfans Cynhaliaeth Addysg , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad Lwfans Cynhaliaeth Addysg: atodiad technegol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad Lwfans Cynhaliaeth Addysg: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 256 KB

PDF
256 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Corke

Rhif ffôn: 0300 025 1138

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.