Neidio i'r prif gynnwy

Nod y prosiect yw gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau cyhoeddus trwy gydweithredu mwy effeithiol.

Nod cyfnod crynodol y gwerthusiad oedd darparu asesiad cyffredinol er mwyn canfod a gyflawnwyd canlyniadau’r Prosiect Blaenoriaethau Byrddau Gwasanaethau - Lleol Cronfa Gymdeithasol Ewrop, a sut.

Bwriad methodoleg y cyfnod hwn oedd ein galluogi i adeiladu ar ganfyddiadau’r Adroddiad Ffurfiannol Terfynol, ac roedd yn cynnwys y canlynol:

  • dadansoddiad eilaidd o ddangosyddion Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) oedd yn darlunio data allbwn o’r holl brosiectau cyflenwi
  • adolygiad o’r dystiolaeth ynghylch sut mae’r Prosiect wedi cyfrannu at themâu polisi trawsbynciol (cydraddoldeb, craffu a chynaliadwyedd amgylcheddol)
  • meta-ddadansoddiad o ddeunydd gwerthuso o sampl o 17 prosiect cyflenwi. Roedd hyn yn tynnu ar adroddiadau gwerthuso lleol ac adroddiadau terfynu a gynhyrchwyd gan y prosiectau cyflenwi i ychwanegu mewnwelediad i ganfyddiadau’r dadansoddiad thematig o’r astudiaethau achos, fel y’i cyflwynwyd yn yr adroddiad ffurfiannol
  • cynhyrchu set o ‘bortreadau arfer da’ a dynnwyd o’r meta-ddadansoddiad. Mae’r rhain yn cwmpasu themâu ‘cyfraniad y trydydd sector’, ‘rôl rheolwr y prosiect’ ac ‘etifeddiaeth’, yn ogystal â chyflenwi canlyniadau dau brosiect
  • ail don Arolwg Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru-gyfan ar gydweithio. Anfonwyd yr arolwg hwn at uwch-reolwyr ar draws holl wasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, iechyd, yr heddlu, tân ac achub, Cymunedau yn Gyntaf a’r trydydd sector. Daeth cyfanswm o 312 o ymatebion i’r arolwg i law – cyfradd ymateb o 25%.

Adroddiadau

Gwerthusiad o brosiect datblygu a chyflawni Blaenoriaethau Byrddau Gwasanaethau Lleol Cronfa Gymdeithasol Ewrop: adroddiad crynodol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Jamie Smith

Rhif ffôn: 0300 025 6850

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.