Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn manylu ar ganfyddiadau sy'n deillio o werthusiad dwy flynedd o gyflwyno strategaeth.

Roedd tri phrif linyn i'r dull o werthuso:

  • roedd llinyn gwaith Llywodraeth Cymru
  • roedd y llinyn gwaith awdurdodau
  • bu llinyn astudiaethau achos yn gwerthuso'r broses o gyflwyno sampl o brosiectau a gefnogwyd gan y Gronfa Cydlyniant Cymunedol a'r canlyniadau cysylltiedig.

Roedd pedwerydd llinyn gwaith yn canolbwyntio ar fonitro tueddiadau o ran cydlyniant trwy ddadansoddi data gweinyddol ac arolygon.

Mae elfennau allweddol dull Cymru o ymdrin â chydlyniant cymunedol wedi cael eu hamlinellu a'u lledaenu'n eang. Mae agwedd fwy gyfannol at gydlyniant cymunedol wedi cael ei meithrin ar draws ffiniau adrannol yn Llywodraeth Cymru.  Darparwyd fframwaith i awdurdodau lleol a'u partneriaid er mwyn cefnogi datblygiad dull lleol o ymdrin â chydlyniant cymunedol. Mae pob un o 22 awdurdod lleol Cymru wedi ymgysylltu â'r agenda ac mae cannoedd o brosiectau lleol wedi cael eu cyflwyno mewn ymgais i gryfhau cydlyniant cymunedol yng Nghymru.

Argymhellion

  • Adnewyddu'r cynllun gweithredu cydlyniant cymunedol.
  • Arweinydd cydlyniant cymunedol penodedig ym mhob awdurdod lleol.
  • Casglu data canfyddiadau ynghylch cydlyniant cymunedol ar lefel leol a chenedlaethol.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Cymru'n Cyd-dynnu: strategaeth Cydlyniant Cymunedol Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 812 KB

PDF
812 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o Cymru'n Cyd-dynnu: strategaeth Cydlyniant Cymunedol Cymru (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 364 KB

PDF
364 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.