Mae'r adroddiad yn dwyn ynghyd brif egwyddorion a gweithgareddau'r gwerthusiad ffurfiol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Dechreuodd y gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ym mis Tachwedd 2018, a bydd yn para am o leiaf tair blynedd.
Bydd y gwerthusiad yn darparu asesiad annibynnol o'r broses o weithredu'r Ddeddf. Bydd yn edrych ar sut y mae'r Ddeddf wedi effeithio ar lesiant pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a'u gofalwyr.
Mae'r adroddiad yn cynnwys:
- trosolwg o rai o'r ffactorau cyd-destunol a allai effeithio ar weithredu'r Ddeddf yng Nghymru
- disgrifiad o'r fframwaith ar gyfer newid
- naratif esboniadol o'r fframwaith ar gyfer newid.
