Y Gronfa Cymunedau Diogelach yw'r brif ffynhonnell o gyllid sy'n ymroddedig i waith atal troseddu ymhlith ieuenctid.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae 22 o Bartneriaethau Cymunedau Diogelach yng Nghymru a chaiff y gronfa ei gweinyddu gan y Partneriaethau lleol hyn. Yn 2006-2009, dyrannwyd cyfanswm o £13,473,498 i'r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol er mwyn cynorthwyo prosiectau i geisio lleihau troseddu ac achosion o anhrefn ymysg pobl ifanc. Roedd yr ymchwil yn nodi enghreifftiau o arferion da wrth weithio gyda phobl ifanc yn ceisio eu hannog i gefnu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu.
Adroddiadau

Gwerthusiad o effeithiolrwydd y Gronfa Cymunedau Diogelach, 2006 i 2009 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 865 KB
