Mae'r gwerthusiad yn ystyried i ba raddau y cefnogodd y Bwrdd Gyngor Sir Ddinbych er mwyn gwella ei system addysg.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod ffurfiol y gwerthusiad oedd: ystyried i ba raddau oedd y Bwrdd wedi bod yn effeithiol ac a oedd y Bwrdd wedi cyfrannu at wella’r Awdurdod Addysg Lleol (AALl); ac yn benodol i dynnu sylw at unrhyw enghreifftiau o ymarfer da a allai oleuo ymyriadau yn y dyfodol.
Roedd amcanion mwy manwl yr astudiaeth werthuso felly’n canolbwyntio ar:
- ennill dealltwriaeth o gryfderau a gwendidau’r model Bwrdd Adfer;
- adolygu sut oedd y Bwrdd yn cyflawni ei fusnes;
- edrych ar argraffiadau’r prif randdeiliaid o waith y Bwrdd;
- a’i effaith ar adferiad yr awdurdod.
