Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad yma yn gosod allan darganfyddiadau o werthusiad rhaglen Gaeaf Llawn Lles lle darparwyd pecyn o gymorth lles i blant a phobl ifanc ledled Cymru rhwng Hydref 2021 a Mawrth 2022.

Pecyn £20m o gyllid lles gan Lywodraeth Cymru i gefnogi plant a phobl ifanc i adfer yn sgil effeithiau negyddol y pandemig COVID-19 oedd Gaeaf Llawn Lles (GLlLl). Rhoddodd GLlLl fynediad i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru at weithgareddau am ddim, gan gynnwys cyfleoedd i chwarae ac ymwneud â gweithgareddau hamdden, adloniant, chwaraeon a diwylliannol, yn ogystal â gofal plant ac addysg ffurfiol. Mae'r gweithgareddau hyn yn hanfodol wrth gefnogi lles cymdeithasol, emosiynol, corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc wrth adfer yn sgil COVID-19.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Gaeaf Llawn Lles , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Cangen ymchwil ysgolion

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.