Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu casgliadau gwerthusiad o’r ymyraethau digartrefedd yng Nghymru. Yn benodol mae’r gwerthusiad yn cynnwys dull Cam 2 o ymyraethau digartrefedd, Tai yn Gyntaf a’r Gronfa Arloesi ar gyfer Pobl Ifanc Ddigartref.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau terfynol y gwerthusiad, yn ogystal â throsolwg o ddyluniad y gwerthusiad, ac amlinelliad o'r dull a ddefnyddiwyd ar gyfer yr astudiaeth achos. Mae canfyddiadau'r gwaith sy’n ymwneud â gwerth am arian hefyd yn cael eu cyflwyno.

Mae'r canfyddiadau'n canolbwyntio ar y meysydd canlynol: ailgartrefu cyflym; atal ac ymyrraeth gynnar; gweithio mewn partneriaeth; dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn; a chyd-gynhyrchu gyda defnyddwyr gwasanaeth.

Cafwyd hyd i dair thema allweddol mewn perthynas â gwella'r system ailgartrefu cyflym yng Nghymru, sef: mynediad at dai, creu strategaeth ailgartrefu cyflym, a'r angen am newid diwylliant. Yr argymhellion allweddol o'r canfyddiadau hyn oedd buddsoddiad parhaus i dai fforddiadwy a chamau i leihau rhwystrau cynllunio.

Wrth edrych ar atal ac ymyrraeth gynnar, teimlwyd bod y cynnig o gymorth lle bo'r angen a mabwysiadu dull cyfannol yn hynod bwysig. Fodd bynnag, ymhlith y rhwystrau a nodwyd oedd: diffyg modelau ymyrraeth gynnar yn cael eu hymgorffori mewn prosiectau a diffyg opsiynau llety.

Soniwyd am weithio ar y cyd ar draws yr holl brosiectau a ddewiswyd mewn gwahanol ffurfiau; brysbennu ac asesu amlasiantaeth, mentrau sy'n canolbwyntio ar y rhai sy'n gadael y carchar neu ofal awdurdod lleol, a strwythurau ar gyfer cydlynu a llywodraethu amlasiantaethol, gyda diffyg adnoddau yn brif rwystr.

Y prif ganfyddiadau gwerthuso mewn perthynas â dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n ystyriol o drawma, oedd nad oedd yn cael ei gymhwyso'n gyson ar draws staff neu lwybrau prosiect a ariennir yn ehangach.

Yn olaf, canfu'r ymchwil rai enghreifftiau da o ddefnyddwyr gwasanaeth yn dylanwadu ar y gwaith dylunio a darparu. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn gyson ar draws yr holl brosiectau a ariennir.

Adroddiadau

Gwerthuso ymyraethau digartrefedd: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthuso gwerth am arian ymyraethau digartrefedd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 750 KB

PDF
750 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Becca McPherson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.