Roedd y gwerthusiad hwn yn asesu ac yn cymharu defnydd o gyllid y Model Ysgol Rhithwir gan awdurdodau lleol a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun peilot i gefnogi plant sy’n derbyn gofal.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd y gwerthusiad hwn yn edrych ar y dulliau o gefnogi plant sy'n derbyn gofal a ddefnyddiwyd gan awdurdodau lleol a fu’n rhan o'r cynllun peilot Model Ysgol Rhithwir, a’r rhai na fu’n rhan o’r cynllun hwnnw.
Roedd yr ymchwil yn cynnwys cyfweliadau ag ystod o randdeiliaid ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol. Roedd hefyd yn cynnwys grwpiau ffocws gyda phlant a phobl ifanc â phrofiad o ofal.
Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau’r gwaith maes, ac yn nodi argymhellion i wella deilliannau addysgol pob plentyn â phrofiad o ofal, boed y cynllun Model Ysgol Rhithwir yn cael ei gyflwyno ai peidio.
Adroddiadau
Gwerthusiad o gyllid y cynllun peilot Model Ysgol Rhithwir , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 594 KB
Gwerthusiad o gyllid y cynllun peilot Model Ysgol Rhithwir: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 247 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn:
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
