Neidio i'r prif gynnwys

Manylion yr adroddiad

Comisiynwyd yr adroddiad thematig hwn gan y cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg drwy lythyr cylch gwaith Estyn ar gyfer 2025 i 2026. Mae'n archwilio pa mor effeithiol y mae Gwasanaethau Lles Addysg (GLlA) yn cynorthwyo ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion, a rhieni a gofalwyr i fynd i'r afael ag absenoldeb parhaus. Mae'r adolygiad yn defnyddio tystiolaeth o drafodaethau gyda 9 awdurdod lleol, 21 ysgol gynradd, 18 ysgol uwchradd a 6 ysgol bob oed, ynghyd â thystiolaeth o arolygiadau ac adolygiadau o ddogfennaeth a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2026.

Crynodeb o'r prif ganfyddiadau

Canfu'r adroddiad fod Gwasanaethau Lles Addysg yn darparu cymorth gwerthfawr i ysgolion, disgyblion a theuluoedd, yn enwedig lle mae perthynas gref rhwng Swyddogion Lles Addysg, ysgolion ac asiantaethau partner. Fodd bynnag, roedd amrywioldeb sylweddol mewn arferion, pwysau ar gapasiti’r gweithlu, dibyniaeth ar gyllid tymor byr a defnydd strategol anghyson o ddata presenoldeb yn cyfyngu ar effeithiolrwydd cyffredinol gwasanaethau wrth leihau absenoldeb parhaus. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymyrraeth gynnar, cyllid cynaliadwy, canllawiau cenedlaethol cryfach a systemau data gwell i helpu i wella presenoldeb mewn ffordd fwy cyson ac effeithiol ledled Cymru. Mae'r adroddiad yn gwneud 3 argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru a 5 ar gyfer Awdurdodau Lleol.

Recommendations

Argymhellion 1

Dylai Llywodraeth Cymru:

Ddiweddaru ac atgyfnerthu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion, yn cynnwys ‘Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan’, ‘Perthyn, Ymgysylltu a Chyfranogi’, a ‘Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion’ i ddarparu cymorth cliriach, mwy cynhwysfawr a hyrwyddo arfer fwy cyson ledled Cymru wrth fynd i’r afael ag absenoldebau parhaus. 

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Derbyn. Mae swyddogion yn bwrw ymlaen â'r gwaith o adolygu a chysoni canllawiau presennol ar bresenoldeb a chynhwysiant. Bydd y gwaith hwn yn helpu i sicrhau mwy o gysondeb mewn ymarfer ledled Cymru ac yn adlewyrchu blaenoriaethau polisi cyfredol ynghylch presenoldeb, cynhwysiant a llesiant dysgwyr.

Argymhellion 2

Dylai Llywodraeth Cymru:

Sefydlu model cyllido amlflwyddyn cynaliadwy a goruchwyliaeth genedlaethol gyson o wasanaethau presenoldeb a lles i gefnogi arfer effeithiol, mynd i’r afael ag anghysondebau a lleihau absenoldebau parhaus.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Derbyn mewn egwyddor. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y canfyddiadau fel rhan o drafodaethau parhaus ynghylch trefniadau cyllido ar gyfer gwasanaethau presenoldeb a lles yn y dyfodol ac yn archwilio opsiynau ar gyfer cryfhau goruchwyliaeth genedlaethol a gwella cysondeb y ddarpariaeth.

Argymhellion 3

Dylai Llywodraeth Cymru:

Cryfhau systemau data a chanllawiau cenedlaethol i gefnogi dadansoddiad amserol a dyfnach o batrymau presenoldeb, gan sicrhau bod data yn gadarn, yn gymaradwy ac yn cael ei gyhoeddi fel mater o drefn i gefnogi monitro a gwelliant.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Derbyn. Bydd swyddogion yn parhau â’r gwaith o wella trefniadau casglu data ar bresenoldeb, ynghyd â dadansoddi ac adrodd ar y data hynny, gan helpu i adnabod problemau presenoldeb yn gynharach a monitro tueddiadau a chanlyniadau yn well ar lefel genedlaethol a lleol.

Dylai awdurdodau lleol:

Argymhellion 4

Wella cysondeb Gwasanaethau Lles Addysg trwy ddarparu arweiniad clir, monitro darpariaeth a chapasiti’r gweithle yn effeithiol, a rhannu arfer effeithiol.

Argymhellion 5 

Cryfhau ymyrraeth gynnar a chymorth ataliol.

Argymhellion 6

Cryfhau dadansoddi strategol a defnydd o ddata presenoldeb i gefnogi gwneud penderfyniadau amserol, nodi patrymau a thueddiadau mewn presenoldeb, yn cynnwys ar gyfer grwpiau penodol o ddisgyblion, galluogi nodi pryderon yn gynnar, a llywio ymyriadau targedig i wella ymgysylltiad a deilliannau disgyblion.

Argymhellion 7

Gwella cyfathrebu ac ymgysylltiad â theuluoedd.

Argymhellion 8

Cryfhau arweiniad a’i gymhwyso’n gyson i egluro disgwyliadau ar gyfer uwchgyfeirio a gorfodaeth statudol.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Bydd swyddogion yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol er mwyn gofyn am eu hymateb i'r argymhellion sydd wedi’u cyfeirio tuag atynt, ac yn annog ystyriaeth ohonynt drwy rwydweithiau presenoldeb a chynhwysiant presennol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i hwyluso'r broses o rannu arferion effeithiol a nodwyd drwy ganfyddiadau Estyn.

Manylion cyhoeddi

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar estyn wefan, ac fe'i cyhoeddwyd ar 17 Medi 2026.