Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio canfyddiadau gwerthusiad o Gynllun Tai Gwasgaredig Bro Morgannwg i bobl gydag anghenion iechyd meddwl difrifol a pharhaus.

 Mae’r DHS yn cynnwys grŵp amlasiantaethol sy’n gweithio i gytuno ar fodel gwasanaeth sy’n briodol i anghenion pobl gyda phroblemau iechyd meddwl ym Mro Morgannwg. Comisiynwyd y gwerthusiad byr o’r Cynllun Tai Gwasgaredig (DHS) gan Fwrdd Gwasanaethau Effeithiol ar gyfer Grwpiau Agored i Niwed Llywodraeth Cymru (ESVG).

Defnyddiodd yr ymchwil ddull cyfranogol, gan gynnwys rhanddeiliaid y prosiect i ddatblygu theori newid y model gwasanaeth a model rhesymeg, a ddefnyddiwyd wedyn fel y fframwaith ar gyfer y gwerthusiad.

Dyluniwyd y gwerthusiad i:

  • edrych ar weithrediad y cynllun ac i asesu a yw’r prosiect yn gweithredu fel y disgrifiwyd gan y model rhesymeg
  • edrych ar i ba raddau y mae’r cynllun yn cyfrannu at y canlyniadau sydd mewn golwg yn y model rhesymeg
  • nodi pa wersi a ddysgwyd ar gyfer y cynllun a’r goblygiadau ar gyfer ei gynaliadwyedd a’i gyflwyno’n ehangach yn y dyfodol.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Gynllun Tai Gwasgaredig Bro Morgannwg: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 966 KB

PDF
966 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o Gynllun Tai Gwasgaredig Bro Morgannwg: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 318 KB

PDF
318 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Heledd Jenkins

Rhif ffôn: 0300 025 6255

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.