Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Daw’r acronym ‘LEADER’ o’r ymadrodd Ffrangeg ‘Liaison Entre Actions de Développement de l’Économie Rurale’, sy’n golygu ‘cysylltiadau rhwng camau gweithredu ar gyfer datblygu’r economi wledig’. Mae’r dull gweithredu yn cynnwys saith nodwedd benodol ac, yn bwysig, dibynna’r dull ar ddefnyddio’r holl nodweddion hyn gyda’i gilydd. Y saith nodwedd hyn, a’u hintegreiddio gyda’i gilydd, sy’n diffinio LEADER fel dull penodol i fynd ati i ddatblygu cefn gwlad a datblygu’n lleol dan arweiniad y gymuned (neu ‘CLLD’) yn fwy cyffredinol.

Saith nodwedd dull LEADER:

  1. Strategaethau datblygu sy'n seiliedig ar yr ardal
  2. Esblygu a gweithredu strategaethau o'r gwaelod i fyny
  3. Partneriaethau cyhoeddus-preifat lleol: Grwpiau Gweithredu Lleol
  4. Gweithredu integredig ac aml-sector
  5. Arloesi
  6. Cydweithredu
  7. Rhwydweithio

Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig - dull LEADER

Lluniwyd LEADER yn y 1990au mewn ymateb i farn y Comisiwn Ewropeaidd bod polisïau traddodiadol, o’r brig i lawr, wedi methu â mynd i’r afael â phroblemau a wynebai lawer o ardaloedd gwledig. Mae LEADER wedi bod yn weithredol yng Nghymru ers y 1990au. Mae’r iteriad cyfredol yn un o sawl cynllun yng Nghymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 i 2020 (‘yr RDP’), ac mae’n rhaglen Cymru gyfan sy’n cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau sydd â’r nod o wella cynaliadwyedd a chryfhau gwytnwch ein hamgylchedd naturiol, y sector seiliedig ar y tir, busnesau bwyd, a hefyd ein cymunedau gwledig.

Mae cynllun presennol LEADER yng Nghymru yn cynnwys 18 Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl) sy’n gweithredu mewn wardiau cymwys (h.y. ardaloedd gwledig) mewn 21 o’r 22 ardal awdurdod lleol ledled Cymru. Mae hyn yn ei wneud y fersiwn mwyaf ei faint yng Nghymru. Cyfanswm gwerth cynllun RDP 2014 i 2020 yng Nghymru yw ychydig dros £47 miliwn, sy’n ariannu pob elfen o LEADER ym mhob ardal (gan gynnwys costau gweinyddu a gweithredu).

Defnyddir y term ‘o’r gwaelod i fyny’ yn aml wrth drafod dull LEADER ac mae hyn yn golygu bod y gymuned leol a rhanddeiliaid lleol yn ganolog i’r dull gweithredu, gan mai nhw sy’n diffinio’r blaenoriaethau ar gyfer eu hardal. Mae canllawiau’r Comisiwn Ewropeaidd yn pennu y dylid cyflawni CLLD trwy strategaethau datblygu lleol integredig ac aml-sectoraidd sy’n seiliedig ar ardal. Yng Nghymru, mae gofyn i bob GGLl LEADER ddatblygu Strategaeth Datblygu Lleol (SDLl) a gaiff ei diweddaru bob blwyddyn gan y GGLl.

Defnyddir gweithgareddau bywiocáu i gefnogi cynnal cynllun LEADER ym mhob ardal. Fel yr awgryma’r term bywiocáu (‘animation’ yn Saesneg), nod y gweithgaredd hwn yw helpu i ‘wneud i bethau ddigwydd’ a gall gynnwys ystod o weithgareddau gan gynnwys grymuso neu gefnogi grwpiau a sefydliadau lleol i ddatblygu a gweithredu gweithgareddau sy’n cynnwys prosiectau, astudiaethau dichonoldeb, a chynlluniau peilot (yn unol â’r SDLl) neu weithgareddau mwy cyffredinol sy’n canolbwyntio ar yr ardal leol (megis codi ymwybyddiaeth o’r cynllun neu sectorau penodol).

Caiff y gweithgareddau i’w cefnogi gan y GGLl eu dynodi mewn sawl ffordd, yn dibynnu ar yr union ddull a ddefnyddia’r GGLl dan sylw. Defnyddir dull ‘galwad agored’ mewn sawl ardal, lle gwahoddir sefydliadau lleol i gyflwyno eu syniadau a’u cynigion am brosiect i’r GGLl, wedi’i arwain gan y SDLl a gyda chefnogaeth gweithgareddau bywiocáu. Caiff y cynigion hynny wedyn eu pwyso a’u mesur gan y GGLl. Mewn achosion eraill, bydd y GGLl hefyd yn gweithio gyda’r tîm bywiocáu i ddatblygu ac yna gweithredu ei syniadau a’i brosiectau ei hun ochr yn ochr â’r gymuned leol a rhanddeiliaid allweddol. Mae pwyslais arbennig ar ddatblygu a chefnogi syniadau a dulliau gweithredu newydd ac arloesol o ran datblygu gwledig.

Mae cydweithredu rhwng GGLlau yn un o brif nodweddion LEADER, gyda phob GGLl yn cael cyllideb yn benodol i gefnogi prosiectau i’w cynnal mewn cydweithrediad naill ai â grwpiau eraill yng Nghymru neu rywle arall yn yr UE. Y rhesymeg y tu ôl i hyn yw y gall GGLlau rannu syniadau a dysgu oddi wrth ei gilydd wrth gydweithredu ar brosiectau. Mae rhwydweithio hefyd yn un o brif nodweddion y cynllun, gyda Rhwydwaith Gwledig Cymru yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth yn ymwneud â gweithgareddau GGLlau yng Nghymru a Rhwydwaith Datblygu Gwledig Ewrop yn gwneud y rôl honno ar lefel Ewrop.

Rhaid i’r gweithgareddau o dan gynllun LEADER presennol Cymru (RDP 2014 i 2020) ganolbwyntio ar o leiaf un o bum thema. Mae’r tabl isod yn dangos sut y caiff y 700+ o brosiectau a gefnogwyd gan y cynllun hyd yn hyn, drwy’r GGLlau, eu dosbarthu rhwng y themâu hynny.

Tabl 1: Nifer a chanran prosiectau LEADER fesul thema
Themâu’r Cynllun Nifer % y cyfanswm
1) Ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwylliannol 233 32.4
2) Hwyluso datblygiad cyn-fasnachol, partneriaethau busnes a chadwyni cyflenwi byr 152 21.1
3) Archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol 179 24.9
4) Ynni adnewyddadwy ar lefel gymunedol 86 11.9
5) Manteisio ar dechnoleg ddigidol 70 9.7

Ffynhonnell: dadansoddi data yng nghronfa ddata Rhwydwaith Gwledig Cymru (WRN)

Er mai 2014-2020 yw cyfnod yr RDP, gall gwariant barhau tan ddiwedd 2023. Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru brosiectau LEADER am gyfnod gweithredu cychwynnol o saith mlynedd ond rhoddodd gyfleoedd i GGLlau adolygu eu proffiliau cyflawni yn ystod y cyfnod gweithredu. O ganlyniad, bydd rhai GGLlau yn rhoi’r gorau i weithredu yn gynt nag eraill, gyda’r gweithgarwch mewn rhai ardaloedd yn dod i ben ym mis Mawrth 2022 ac eraill yn parhau tan fis Mehefin 2023.

Nodau, amcanion a methodoleg y gwerthusiad

Roedd dau brif amcan i’r gwerthusiad, sef asesu.

  1. Gweithredu LEADER yng Nghymru yng nghyfnod rhaglennu presennol yr RDP (2014 i 2020).
  2. Cyfraniad LEADER at ddatblygiad lleol mewn ardaloedd gwledig ers ei rhoi ar waith yng Nghymru.

Mae’r gwerthusiad, fodd bynnag, hefyd yn rhannol wedi archwilio datblygu gwledig dan arweiniad y gymuned (CLLD) yn ehangach

Defnyddiwyd dull cymysg i gynnal y gwerthusiad. Aethpwyd ati i adolygu llenyddiaeth yn ymwneud â LEADER yng Nghymru, gan gynnwys llenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth lwyd (defnyddir y term ‘llenyddiaeth lwyd’ i ddisgrifio amrywiaeth eang o wybodaeth wahanol a gynhyrchir y tu allan i sianeli cyhoeddi a dosbarthu traddodiadol), a oedd yn cynnwys gwerthusiadau wedi’u comisiynu gan y GGLlau unigol. Hefyd, gwnaed gwaith yn dadansoddi gwybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru i fonitro’r cynllun (gwariant, dangosyddion perfformiad, ac ati), yn ogystal â gwybodaeth fonitro ychwanegol a gasglwyd yn uniongyrchol gan gyrff gweinyddol y GGLl (gan gynnwys data ar nifer cyfarfodydd y GGLlau a phresenoldeb yn y cyfarfodydd hynny).

Roedd yr ymchwil sylfaenol yn cynnwys holiaduron ar-lein a ddosbarthwyd drwy’r cyrff gweinyddol sy’n gweithio gyda’r GGLlau. Mewn arolwg o aelodau’r GGLl, casglwyd data atodol ar y mathau o bobl sy’n aelodau o’r grwpiau, gan gynnwys rhyw, ethnigrwydd, a grŵp oedran; derbyniwyd 125 o ymatebion. Derbyniodd arolwg ar-lein o randdeiliaid a chyfranogwyr 214 o ymatebion a chynhaliwyd cyfweliadau dilynol ag is-sampl o ymatebwyr (44 o gyfweliadau). At hynny, cafwyd cyfweliadau ansoddol â chadeiryddion GGLl a rheolwyr y cyrff gweinyddol (25 o gyfweliadau) yn ogystal â chydag amrywiaeth o randdeiliaid eraill sy’n ymwneud â datblygu gwledig yng Nghymru mewn gwahanol swyddogaethau (16 cyfweliad).

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol bod ein sampl o’r rheiny sydd wedi ymwneud â LEADER yng Nghymru yn hunanddewisol i raddau helaeth. Dosbarthwyd yr arolwg ar-lein gan gyrff gweinyddol y GGLl, gyda’r ymatebwyr wedyn yn dewis cymryd rhan yn yr ymchwil ai peidio. Mae hyn yn debygol o arwain at rywfaint o duedd hunanddewis. Fodd bynnag, rheolir y risg hon gan y dull cymysg a ddefnyddir, sydd hefyd yn ystyried tystiolaeth o ystod o ffynonellau eraill (gan gynnwys data monitro, canfyddiadau’r adolygiadau llenyddiaeth, ac ati).

Prif ganfyddiadau ac argymhellion

Dylid nodi, yn unol â’r brîff ar gyfer y gwerthusiad, fod rhai o’r argymhellion a wneir yn berthnasol i reoli a chyflawni’r cynllun presennol, tra bod eraill yn edrych fwy at y dyfodol. Er hwylustod, y rhai sy’n berthnasol i’r cynllun presennol yw argymhellion 9, 11, 12 a 13. 

Dylid nodi hefyd, ar adeg ysgrifennu hwn, nad oes unrhyw ymrwymiad i unrhyw barhad o gynllun LEADER yng Nghymru y tu hwnt i oes y Rhaglen Datblygu Gwledig bresennol (2014–2020), h.y. diwedd 2023. Pan gynigir argymhellion ynghylch sut y gellid dylunio neu reoli unrhyw gynllun yn y dyfodol, gwneir hynny er mwyn llywio trafodaethau ar unrhyw ddatblygiadau neu weithgarwch o’r fath yn y dyfodol. Ni ddylid eu darllen fel arwydd y bydd cynllun LEADER newydd yng Nghymru pan ddaw’r cyfnod rhaglennu presennol i ben.

Asesu gwerth ychwanegol LEADER

Mae canllawiau’r Comisiwn Ewropeaidd ar werthuso LEADER/CLLD  yn nodi tair prif ‘elfen’ wrth drafod gwerth ychwanegol LEADER. Mae’r rhain i bob pwrpas yn uno saith agwedd dull LEADER yn dri phrif allbwn/gweithgaredd.

  1. Gweithredu’r cynllun/strategaeth, h.y. y prosiectau a’r canlyniadau a’r effeithiau y maent yn eu cynhyrchu.
  2. Mecanwaith cyflawni’r cynllun/GGLl, h.y. y set o reolau, gweithdrefnau, a threfniadau gweinyddol sy’n sicrhau bod amcanion strategol yn dod yn gamau gweithredu cadarn ar lawr gwlad.
  3. Cymorth i feithrin gallu/bywiocáu: y cymorth y mae awdurdodau rheoli yn ei roi i annog a galluogi’r buddiolwyr, yn uniongyrchol neu drwy Rwydwaith Gwledig Cymru, yn ogystal â gallu’r GGLl i fywiocáu (h.y. ei holl weithrediadau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â phrosiectau, gyda’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth, parodrwydd, cydweithrediad, a gallu rhwydweithio pobl leol er mwyn cyfrannu at ddatblygu eu hardal).

Yn bwysig, disgrifir pob un o’r tair ‘elfen’ hyn fel rhai ‘wedi’u cydblethu’n agos’ ac yn ffurfio ‘cyfanwaith anwahanadwy’. Yn y bôn, mae’r canllawiau’n nodi bod gwerth ychwanegol/canlyniadau LEADER yn deillio o weithredu’r dull cyfan, gan gynnwys ei reoli a’i gyflawni, ac felly nid yn unig yn deillio o’r prosiectau y mae’n eu hariannu, ac mae hwn yn bwynt hanfodol o ran deall LEADER a gwerth ychwanegol y dull gweithredu.

Pwysig hefyd yw bod canllawiau’r Comisiwn Ewropeaidd yn diffinio ‘gwerth ychwanegol LEADER’ yn ehangach na’r hyn y bydd y prosiectau’n ei gyflawni, gyda phwyslais ar ddull LEADER – “caiff y buddion eu sicrhau trwy gymhwyso dull LEADER yn gywir, o gymharu â’r buddion hynny a geid heb ddefnyddio’r dull hwn”.

Dywedir bod y gwerth ychwanegol yn amlygu ei hun drwy’r canlyniadau canlynol.

  • Gwell cyfalaf cymdeithasol: wedi’i ddisgrifio fel cysyniad aml-ddimensiwn sy’n cynnwys nodweddion sefydliadau cymdeithasol (fel rhwydweithiau, normau, ac ymddiriedaeth gymdeithasol) sy’n cynorthwyo â chydlynu a chydweithredu er budd pawb.
  • Gwell llywodraethu: y sefydliadau, y prosesau a’r mecanweithiau y mae rhanddeiliaid cyhoeddus, economaidd a chymdeithas sifil yn eu defnyddio i fynegi eu buddiannau, arfer eu hawliau cyfreithiol, cyflawni eu rhwymedigaethau, a chyfryngu eu gwahaniaethau er mwyn rheoli materion cyhoeddus ar bob lefel mewn modd cydweithredol.
  • Gwell canlyniadau ac effaith gryfach o weithredu’r cynllun/strategaeth, o’i gymharu â’r perfformiad heb ddefnyddio dull LEADER.

Canfyddiad

Bydd gweithgarwch LEADER yng Nghymru eisoes wedi dod i ben mewn rhai ardaloedd ledled Cymru erbyn adeg cyhoeddi hwn a’r gweddill wedyn yn gymharol fuan. Mae’r diffyg eglurder ynghylch cynlluniau’r dyfodol yn achosi rhai problemau a cholli ‘momentwm’, sy’n golygu efallai na fydd gwireddu ar ganlyniadau hirdymor y buddsoddiad yn CLLD/LEADER sydd wedi’i wneud fel rhan o’r cynllun presennol.

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru wneud penderfyniad ar ddyfodol LEADER/CLLD yng Nghymru cyn gynted â phosibl.

Canfyddiad

Mae nifer ac ystod y dangosyddion perfformiad a ddefnyddir ar gyfer LEADER yng Nghymru yn fach, a hynny mewn ymateb i feirniadaeth ar y system fonitro gymhleth a oedd ar waith yn ystod cyfnod blaenorol y rhaglen. Tra bod y system yn sicr yn symlach, mae’r rhestr fechan o ddangosyddion yn cyfyngu ar ddefnyddioldeb y data fel modd o farnu perfformiad LEADER fel cynllun ac fel dull gweithredu.

Argymhelliad 2

Dylid ystyried rhestr fwy cynhwysfawr o ddangosyddion perfformiad fel rhan o unrhyw gynllun yn y dyfodol, ond dylid yn dal ystyried yr angen i osgoi system fonitro sy’n rhy gymhleth.

Canfyddiad

Mae gan Grwpiau Gweithredu Lleol (drwy eu corff gweinyddol) fwy o reolaeth ariannol fel rhan o’r cynllun LEADER presennol nag o’r blaen. Yn ogystal, mae ganddynt fwy o sicrwydd ynghylch eu cyllideb oherwydd y symud i ffwrdd o’r broses gystadleuol a ddefnyddiwyd ar gyfer dyrannu cyllid mewn cynlluniau LEADER blaenorol yng Nghymru. Yn gyffredinol, ystyrir y rhain yn ddatblygiadau cadarnhaol. Fodd bynnag, mae GGLlau yn dal yn feirniadol o’r baich gweinyddol sydd yn y broses rheolaeth ariannol. Ymhellach, mae rhywfaint o bryder o du Llywodraeth Cymru ynghylch rheolaeth ariannol wael ar ran GGLlau, gyda nifer ohonynt wedi methu â chyflawni eu proffiliau gwariant, er bod pandemig COVID-19 o leiaf wedi cyfrannu at hyn yn ystod 2020-2021. Serch hynny, dylid nodi’r pryderon a fynegwyd.

Er nad oedd ar waith drwy gydol oes y cynllun (oherwydd cyfyngiadau adnoddau o fewn Llywodraeth Cymru), ystyriwyd bod rôl y Rheolwr Cysylltiadau Gwledig i fod yn bwynt cyswllt rhwng GGLlau/cyrff gweinyddol a Llywodraeth Cymru yn ddull effeithiol a oedd wedi cynorthwyo â’r cyfathrebu rhyngddynt.

Argymhelliad 3

Mae peidio â defnyddio’r dull cystadleuol a defnyddio dulliau rheoli ariannol symlach wedi bod yn llwyddiannus a dylid eu cadw fel rhan o unrhyw gynllun yn y dyfodol sydd â Grwpiau Gweithredu Lleol a datblygu gwledig dan arweiniad y gymuned (CLLD) fel y prif fecanwaith cyflawni. Dylai unrhyw brosesau monitro ariannol sydd ar waith fod mor syml â phosibl a dylid cael dull effeithiol o gyfathrebu rhwng y cyllidwr a’r corff cyflawni i gyd-fynd â’r prosesau hynny. Dylid ystyried cael Rheolwr Cysylltiadau ar gyfer y GGLl/corff gweinyddol fel rhan o unrhyw gynllun posibl yn y dyfodol, gyda mwyfwy o bwyslais efallai ar hwyluso rhwydweithio a gweithgareddau cydweithredol (gweler yr argymhellion eraill).

Canfyddiad

Roedd cyfyngiadau ar gymorth gwladwriaethol (hyd at fis Mai 2021) mewn grym ar gyfer cynllun LEADER yng Nghymru, oherwydd y pryderon ynghylch gorgyffwrdd ag ymyraethau eraill sy’n cynnig cymorth i fusnesau a’r angen i ddychwelyd at egwyddorion LEADER o dreialu dulliau newydd ac arloesol. Mae’r cyfyngiadau hyn wedi bod yn rhwystredig i’r GGLlau wrth iddynt ddadlau eu bod wedi amharu ar eu gallu i adeiladu ar gynnydd a wnaed yn ystod cyfnodau blaenorol y rhaglen. Ein casgliad ni yw bod ffyrdd mwy effeithiol o fynd i’r afael â’r risgiau a nodwyd a fyddai wedi rhoi mwy o hyblygrwydd i’r GGLlau symud ymlaen â gweithgareddau a gynhaliwyd fel rhan o gyfnod blaenorol y rhaglen o ran cefnogi microfusnesau lleol. Fodd bynnag, nid ydym yn cynnig argymhelliad yma, gan fod ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd yn golygu nad yw cyfyngiadau cymorth gwladwriaethol bellach yn berthnasol.

Canfyddiad

Yn y rhan fwyaf o achosion, awdurdod lleol sy’n cyflawni swyddogaeth weinyddol y GGLl. Mae traean o’r GGLlau yng Nghymru, fodd bynnag, yn cael cymorth gweinyddol gan sefydliadau trydydd sector annibynnol. Mae gwerthusiadau wedi canfod bod manteision ac anfanteision i’r ‘modelau’ awdurdod lleol a’r rhai annibynnol – fel y cyfeirir atynt yn aml gan randdeiliaid. Yn bwysicach na’r ddadl ddu-a-gwyn braidd ynghylch pa ‘fodel’ sydd fwyaf effeithiol, byddem ni’n dadlau bod ‘nodweddion’ clir y gellir eu nodi fel rhai sy’n bresennol pan fydd gweinyddu LEADER ar ei fwyaf effeithiol, sef:

  • cael eu gweld fel cynllun/dull gweithredu annibynnol dan arweiniad y GGLl (h.y. nid yn cael ei ‘gynnal’ neu ei redeg fel rhan o’r awdurdod lleol)
  • cael eu gweld yn agored (ac yn ymatebol) i syniadau ac awgrymiadau newydd o unrhyw ffynhonnell (h.y. nid yn ‘siop gaeedig’)
  • bod â rhwydweithiau cryf ar waith ac yn gallu cydweithio’n llwyddiannus â chynlluniau eraill a gallu manteisio ar wybodaeth ac arbenigedd o ystod o ffynonellau yn yr ardal (gan gynnwys o fewn yr awdurdodau lleol)

Gwelwyd hefyd fod agweddau, sgiliau a galluoedd staff y corff gweinyddu yn hollbwysig i lwyddiant LEADER, efallai hyd yn oed yn fwy felly na’r nodweddion a nodir uchod.

Argymhelliad 4

Mae nifer o nodweddion yn gysylltiedig â gweinyddu’r Grwpiau Gweithredu Lleol a gweithredu dull LEADER/CLLD yn effeithiol. Wrth symud ymlaen, dylid defnyddio’r canfyddiadau hynny i ystyried y potensial o roi arweiniad pellach ynghylch sut y dylid sefydlu’r corff gweinyddol ar gyfer GGLl (o fewn a thu allan i unrhyw gynllun LEADER yn y dyfodol – maent yn berthnasol i unrhyw ddull sy’n cynnwys GGLl), gan bwysleisio’r nodweddion allweddol a nodwyd.

Canfyddiad

Nodwedd o’r cynllun LEADER presennol yw bod y 18 GGLl yn cael eu cefnogi gan 15 o gyrff gweinyddol, gyda Menter Môn a Chadwyn Clwyd yn cefnogi sawl GGLl. Ceir enghreifftiau hefyd o GGLlau yn croesi ffiniau ardaloedd awdurdodau lleol, e.e. GGLl Dyffryn Wysg (sy’n cynnwys Sir Fynwy a Chasnewydd wledig). Canfu’r gwerthusiad fod manteision clir pan fo’r un sefydliad yn darparu cymorth gweinyddol i sawl GGLl, gan gynnwys arbedion maint a’r gallu i rannu adnoddau ar draws sawl ardal (gan gynnwys staff prosiectau).

Argymhelliad 5

Dylid archwilio cyfleoedd i’r un sefydliad ddarparu cefnogaeth weinyddol i sawl GGLl (neu i gyflawni swyddogaethau penodol ar ran sawl GGLl) fel rhan o ddyluniad unrhyw gynllun LEADER/CLLD yng Nghymru yn y dyfodol.

Canfyddiad

Cyflwynir Strategaeth Datblygu Lleol (SDLl) yng nghanllawiau LEADER/CLLD i fod yn rhan allweddol o’r dull. Yng Nghymru, mae gan yr SDLl ddwy swyddogaeth: (a) egluro sut y bydd LEADER yn cael ei reoli a’i gynnal, a (b) gosod blaenoriaethau ar gyfer LEADER yn yr ardal. Mae’r SDLlau a luniwyd gan y GGLlau yn cyflwyno strategaethau eang iawn gyda phwyslais yn aml ar sicrhau na chaiff unrhyw weithgarwch posibl ei eithrio, yn hytrach na bod yn arweiniad ynghylch pa weithgarwch y dylid ei wneud.

Credwn fod lle i ddadlau y gellid cyflawni rôl y SDLl yn y rhaglen gyfredol (yn benodol swyddogaeth ‘b’ uchod) drwy gyfres lawer symlach o werthoedd ac egwyddorion (yn seiliedig ar ddull LEADER) i lywio gweithgareddau/blaenoriaethau’r GGLl, gyda’r strategaeth yn cael ei chyflwyno mewn dogfennau eraill sydd eisoes yn bodoli ar gyfer yr ardal neu’r rhanbarth.

Argymhelliad 6

Os caiff cynllun CLLD newydd ei ddatblygu, dylid ystyried y potensial i ddisodli’r angen i GGLlau ddatblygu a chyflwyno eu SDLl eu hunain sydd â chasgliad o werthoedd ac egwyddorion sy’n cyfarwyddo’r GGLl ar sut i ddefnyddio cyllid LEADER/CLLD – gyda’r ‘strategaeth leol’ yn hytrach yn cael ei darparu gan strategaethau eraill sy’n bodoli yn ardaloedd yr awdurdod lleol ac/neu’r rhanbarthau y mae’r GGLlau yn weithredol ynddynt.

Canfyddiad

Mae GGLlau yn ganolog i ddull LEADER/CLLD, ac mae presenoldeb cyson a rheolaidd aelodau mewn cyfarfodydd yn hanfodol i sicrhau parhad wrth wneud penderfyniadau, dealltwriaeth o weithgareddau parhaus, ac ati. Mae’n bwysig hefyd cydnabod y cyfraniad y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud fel aelodau o GGLlau ledled Cymru – ni all LEADER/CLLD weithredu’n effeithiol heb y cyfraniadau hyn. Fodd bynnag, parhau i fod yn amlwg y mae’r heriau i gael cydbwysedd yn yr aelodau yn ogystal â denu aelodau newydd, yn arbennig o’r sector preifat a phobl ifanc.

Argymhelliad 7

Dylid archwilio ffyrdd newydd o ddenu aelodau GGLl o’r sector preifat a grwpiau oedran iau. Dylai’r rhain gynnwys ffyrdd y gellid ymgysylltu â’r grwpiau hynny heb iddynt orfod dod yn aelodau ‘llawn’ o’r GGLl, e.e. cael GGLl yn benodol ar gyfer pobl ifanc, gan archwilio materion lleol sy’n bwysig iddynt hwy. Dylid hefyd ystyried y potensial i ddefnyddio technolegau a llwyfannau ymgysylltu newydd fel rhan o’r broses.

Canfyddiad

Mae’r GGLlau yn cynnwys cymysgedd o aelodau sydd â chryn dipyn o brofiad ac eraill sy’n aelodau gymharol newydd. Canfu arolwg o aelodau GGLlau ar gyfer y gwerthusiad hwn (125 o ymatebion) fod y rhan fwyaf o’r aelodau yn 45+ oed, ond bod yr ystod oedran yn ehangach na’r disgwyl efallai, o ystyried fod rhywfaint o bryder wedi’i fynegi gan randdeiliaid ynghylch amrywiaeth yr aelodau. Mae rhaniad cyfartal rhwng aelodau gwrywaidd a benywaidd. Mae aelodau’r GGLlau, serch hynny, bron yn gyfan gwbl wyn (97 y cant), sy’n golygu bod llai o amrywiaeth o ran ethnigrwydd, er bod hyn yn adlewyrchu’r boblogaeth mewn rhannau gwledig o Gymru. Fodd bynnag, gellid dadlau bod angen mwy o amrywiaeth ac y byddai hynny’n ddatblygiad cadarnhaol.

Argymhelliad 8

Dylid rhoi pwyslais ar ymgysylltu â grŵp mwy amrywiol o bobl o ran eu cefndir ethnig mewn gweithgareddau LEADER/CLLD a Grwpiau Gweithredu Lleol yn y dyfodol.

Canfyddiad

Er bod y farn yn ffafriol ar y cyfan, roedd rhywfaint o bryder ynghylch sut yr ymgysylltwyd/ymgynghorwyd â’r gymuned leol fel rhan o LEADER a pha mor gynrychioliadol oedd y GGLl o’r gymuned leol. Wrth ystyried hyn, fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod mai gwirfoddolwyr yw aelodau’r GGLlau ac, felly, mae’n anochel mai prin yw’r amser sydd ganddynt i ymrwymo i gyfarfodydd a gweithgareddau LEADER.

Mae hwn yn fater sydd angen ei ystyried ochr yn ochr â’r angen i archwilio sut mae aelodau GGLl yn cael eu denu i’r grwpiau. Canfu’r gwerthusiad fod aelodau GGLl yn elwa o’u hymwneud â LEADER, yn enwedig o ran y dysgu o ganlyniad i gymryd rhan a’r cyfleoedd rhwydweithio a gânt. Mae cynyddu (a hyrwyddo) y buddion hynny o bosibl yn rhan bwysig o ddenu a chadw aelodau GGLl a chreu gwerth am yr amser sydd ei angen ar aelodau i ymrwymo i’r broses. Gallai hefyd fod yn fodd o gyfoethogi’r canlyniadau a gynhyrchir gan broses/cynllun CLLD, gan y byddai cyflogwyr/busnesau/sefydliadau lletyol aelodau GGLl yn elwa o ganlyniad.

Argymhelliad 9

Dylid archwilio ffyrdd o gynyddu’r budd a ddaw i aelodau Grwpiau Gweithredu Lleol o ganlyniad i’w cyfranogiad yn y cynllun ac yna ei ddefnyddio fel sail i ddenu aelodau newydd i’r grwpiau. Gallai hyn gynnwys mwy o bwyslais ar weithgareddau hyfforddi/dysgu ar gyfer aelodau (a staff) y GGLl, a hynny, yn ein barn ni, yn rhywbeth y gellid ei ddechrau nawr, wrth i’r cynllun presennol ddod i ben. Er enghraifft, gellid cynnal hyfforddiant ar ddulliau creadigol i ddatrys problemau ac/neu ymgysylltu cymunedol. Byddem hefyd yn awgrymu y gallai hyfforddiant/dysgu o’r fath gael ei ymestyn y tu hwnt i’r rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol â LEADER a draw at y rheiny sy’n ymwneud â datblygu gwledig yng Nghymru fel modd o annog rhwydweithio a rhannu dysgu.

Canfyddiad

Mae’r dull o ‘fywiocáu’r ardal leol’ yn amrywio ledled Cymru, gyda pheth pryder fod dull ‘cynllun grantiau’ mewn rhai ardaloedd. Nid yw amrywio yn y dull gweithredu yn annisgwyl, fodd bynnag, gan ei fod dan ddylanwad faint o adnoddau a staff a oedd ar gael (a hynny’n amrywio rhwng GGLlau ledled Cymru).

Mae gallu ennill ac yna cadw ymddiriedaeth y gymuned leol yn hanfodol i broses fywiocáu lwyddiannus. Gall hyn gymryd amser i’w ddatblygu (mae hefyd yn gysylltiedig â’r nodweddion a nodwyd ar gyfer corff gweinyddol effeithiol; gweler Argymhelliad 4).  Mae hefyd angen ystyried y gwahaniaethau yn lefelau profiad y timau (ac yn y sefydliad cyfan). Fodd bynnag, mae’r wybodaeth a’r profiad hwn mewn perygl wrth i ni nesáu at ddiwedd cyfnod cyfredol y rhaglen, heb gynllun clir ar gyfer unrhyw olyniaeth i gynllun LEADER yng Nghymru (gweler Argymhelliad 1).

Canfu’r gwerthusiad hefyd mai prin yw’r gweithgareddau hyfforddi ledled Cymru sy’n gysylltiedig â CLLD/LEADER. Er enghraifft, ychydig o hyfforddiant a roddwyd i staff neu aelodau GGLl ar ddulliau o ymgysylltu’n effeithiol â’r gymuned leol neu gefnogi datblygu meddylfryd arloesol mewn cymunedau. Gellid darparu hyfforddiant o’r fath hefyd mewn ffordd sy’n hybu rhwydweithio ymhlith timau LEADER ac aelodau GGLlau o wahanol rannau o Gymru.

Argymhelliad 10

Dylid archwilio’r potensial i gyflwyno hyfforddiant (a mentora) i’r rhai sy’n ymwneud â chyflwyno gweithgareddau LEADER/CLLD yng Nghymru, gan fod â phwyslais ar gynnal gweithgareddau bywiocáu yn effeithiol a datblygu dulliau newydd ac arloesol o ddatblygu gwledig. Dylai unrhyw hyfforddiant o’r fath fod yn rhan o weithgareddau rhwydweithio sydd â phwyslais ar greu cyfleoedd i staff ac aelodau GGLl sy’n ymwneud â CLLD rannu eu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Unwaith eto, byddem hefyd yn awgrymu bod potensial i ehangu unrhyw hyfforddiant/mentora a gyflwynir y tu hwnt i gynllun LEADER i’r rheiny sy’n ymwneud â datblygu gwledig yn fwy cyffredinol.

Canfyddiad

Mae rhwydweithio a chydweithredu ill dau yn nodweddion allweddol LEADER a dulliau i annog arloesi yn gyffredinol. Cafwyd rhywfaint o gydweithredu wrth i 71 o brosiectau gael eu cefnogi i gydweithredu (tua 10 y cant o gyfanswm yr holl brosiectau). Dim ond pedwar o’r prosiectau hynny sydd wedi bod gyda phartneriaid trawswladol, sy’n golygu bod cyfle ar gael i GGLlau fel rhan o gynllun LEADER.

Ar y cyfan ni wireddwyd y cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a rhannu gwybodaeth a phrofiad o fewn timau gweithredu LEADER ledled Cymru, a hynny yn gyfle a gollwyd a allai fod wedi helpu i fynd i’r afael â rhai o’r anghysondebau a nodwyd yn y dull. Canfuwyd hefyd mai isel yw’r ymwybyddiaeth ymysg aelodau GGLlau yng Nghymru am weithgareddau GGLlau eraill ledled Cymru, y DU ac yn Ewrop.

Dylai rhannu gwybodaeth a gwersi a ddysgwyd fod yn amcan allweddol i gynllun LEADER yn ystod gweddill ei oes er mwyn sicrhau lledaenu effeithiol ar y ‘gwersi a ddysgwyd’ o’r ystod eang o brosiectau a gweithgareddau a dreialwyd fel rhan o’r cynllun.

Argymhelliad 11

Dylid rhoi mwy o bwyslais ar rwydweithio a chydweithio yn y dyfodol (gan gynnwys dros weddill oes y cynllun LEADER presennol). Dylai hyn gynnwys mwy o bwyslais ar rannu’r hyn a ddysgwyd o’r prosiectau a gefnogir gan LEADER, a hynny o fewn strwythur LEADER yn ogystal â chydag eraill sy’n ymwneud â datblygu gwledig yng Nghymru.

Canfyddiad

Cefnogwyd dros 700 o brosiectau gan gynllun presennol LEADER yng Nghymru. Mae’r ystod o brosiectau a gweithgareddau yn sylweddol, gyda nifer o syniadau arloesol yn cael eu treialu yn ogystal â’r hyn y gellid ei ddisgrifio fel prosiectau datblygu lleol mwy ‘traddodiadol’.

Un o’r heriau wrth werthuso cynllun LEADER yw amrywiaeth enfawr y prosiectau sydd wedi’u hariannu. Mae’r adroddiad technegol yn cynnwys rhestr hir o enghreifftiau o brosiectau ar gyfer pob thema ledled Cymru. Fe’u dewiswyd gan y tîm gwerthuso i adlewyrchu rhychwant y gweithgareddau a wnaed ac a gefnogwyd. Er bod y rhestr yn hir, yr unig ffordd i wir werthfawrogi’r ystod o weithgareddau sy’n cael eu cefnogi gan LEADER yw adolygu’r rhestr hon a byddem yn annog darllenwyr i gymryd amser i ddarllen y rhestr yn llawn er mwyn gwerthfawrogi cwmpas y gweithgareddau a gynhaliwyd.

Mae adolygu’r prosiectau a gefnogwyd wedi canfod bod gweithgareddau wedi’u cynnal sy’n cyflawni yn erbyn pob un o Themâu Trawsbynciol ac Amcanion Trawsbynciol Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd.

  • Cyfle Cyfartal, Prif Ffrydio Rhywedd, a’r iaith Gymraeg
  • Datblygu Cynaliadwy
  • Mynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol
  • Arloesi
  • Yr amgylchedd
  • Lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac ymaddasu iddo

Mae prosiectau hefyd yn cyflawni nifer o’r amcanion a nodir yn Rhaglen Lywodraethu Cymru, gan ddangos rôl bosibl cynllun LEADER/CLLD wrth gyflawni amcanion strategol cenedlaethol.

Fodd bynnag, collwyd cyfleoedd ar gyfer cydweithredu pellach ymhlith GGLlau, gyda phrosiectau tebyg iawn yn cael eu cynnal gan GGLlau mewn gwahanol ardaloedd. Awgryma hyn hefyd y collwyd y posibilrwydd i gael arbedion maint a mwy o effeithlonrwydd trwy fwy o gydweithredu.

Er bod enghreifftiau o brosiectau newydd ac arloesol wedi’u cefnogi gan LEADER yng Nghymru, gellid dadlau hefyd y dylai fod mwy o ffocws ar arloesi yng ngweithgareddau’r GGLlau, gyda mwy o gymorth yn cael ei roi i helpu cymunedau a sefydliadau lleol i feddwl yn greadigol a datblygu syniadau newydd ac arloesol. Mae’r mater hwn yn gysylltiedig â’r canfyddiadau yn ymwneud â hyfforddiant a gweithgareddau bywiocáu fel y nodwyd eisoes. Ymhellach, mae’n bwysig cydnabod mai proses yw arloesi, ac ni all dysgu o brosiectau peilot fod yn effeithiol oni bai bod y dysgu hwnnw yn cael ei gofnodi, ei rannu ac yna gweithredu arno. Mae hyn yn cynnwys cael proses glir ar waith ar gyfer ‘prif ffrydio’ gweithgareddau llwyddiannus a ariennir gan LEADER.

Argymhelliad 12

Dylai GGLlau sicrhau eu bod yn cofnodi’n effeithiol yr hyn a ddysgwyd o brosiectau a ariannwyd yn rhan o gyfnod cyfredol y rhaglen. Dylid rhoi proses ar waith hefyd i goladu a rhannu’r hyn a ddysgir gyda’r rhai sy’n ymwneud â datblygu gwledig ledled Cymru (nad yw’n gyfyngedig i LEADER), gyda’r bwriad o gefnogi/annog ‘prif ffrydio’ gweithgareddau llwyddiannus, osgoi dyblygu gweithgareddau mewn ardaloedd gwledig a thynnu sylw at wersi a ddysgwyd. Un dull posibl fyddai sefydlu ‘canolbwynt gwybodaeth’ ar gyfer prosiectau LEADER, y gellid ei ddefnyddio wedyn a’i gadw y tu hwnt i ddiwedd y cynllun presennol.

Canfyddiad

Yn gysylltiedig â’r uchod, canfuwyd bod GGLlau, ar gyfartaledd, yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser hyd yma yn asesu ceisiadau am gyllid/cymorth ac yn trafod yr anghenion a’r blaenoriaethau yn yr ardal leol sy’n ganolog i’w rôl. Treuliwyd llai o amser hyd yma ar adolygu a thrafod yr hyn a gyflawnwyd. Er y gallai amseriad y gwerthusiad fod wedi dylanwadu ar hyn, byddem yn disgwyl i fwy o amser gael ei dreulio ar y rôl hon wrth symud ymlaen, o ystyried y ffocws ar ddulliau newydd ac arloesol o ddatblygu gwledig.

Argymhelliad 13

Dylai GGLlau sicrhau eu bod yn canolbwyntio’n ddigonol ar adolygu’r prosiectau sydd wedi’u cefnogi a chasglu’r gwersi a ddysgwyd ar gyfer gweddill oes y cynllun LEADER presennol. Dylai casglu a rhannu’r wybodaeth hon fod yn flaenoriaeth.

Canfyddiad

Ystyriwyd bod cyfuno ymgynghori lleol ag adnoddau i wireddu’r syniadau a gyflwynwyd yn allweddol i lwyddiant LEADER a CLLD yn fwy cyffredinol, yn ogystal â natur hirdymor y cymorth a gynigid, gan ei fod wedi bodoli yng Nghymru ers y 1990au. Mae canllawiau’r Comisiwn Ewropeaidd yn disgrifio ‘elfennau’ y dull gweithredu i fod yn rhai sydd ‘wedi’u cydblethu’n agos’ ac yn ffurfio ‘cyfanwaith anwahanadwy’. Mae nifer o enghreifftiau yng Nghymru o gynlluniau a phrosiectau eraill a allai roi elfennau o ddull LEADER ar waith (ran amlaf mewn cysylltiad ag ymgysylltu â’r gymuned) ond nid y dull gweithredu yn ei gyfanrwydd. Ymhellach, mae gwerth ychwanegol LEADER yn deillio o weithredu’r dull cyfan ac ni ellir ei atgynhyrchu trwy weithredu elfennau unigol y dull.

Awgryma llenyddiaeth fod gwerth ychwanegol LEADER yn amlygu ei hun drwy (a) gwell cyfalaf cymdeithasol, (b) gwell llywodraethu, a (c) gwell canlyniadau (h.y. prosiectau gwell). Mae’r gwerthusiad wedi canfod tystiolaeth o bob un o’r canlyniadau hyn yn cael eu cynhyrchu gan LEADER yng Nghymru.

Gwell cyfalaf cymdeithasol
  • Dywedodd 75% (n=64) o aelodau GGLl bod perthynas weithio gyda sefydliadau eraill yn yr ardal wedi gwella
  • Dywedodd 37% (n=174) o ymatebwyr yr arolwg fod eu sefydliad wedi datblygu sgiliau newydd o ganlyniad i’w hymwneud â LEADER.
  • Dywedodd 52% (n=174) eu bod yn bersonol wedi datblygu sgiliau newydd o ganlyniad i’w cyfranogiad.
Gwell llywodraethu
  • Dywedodd 83% (n=92) o ymatebwyr bod LEADER wedi cael effaith gadarnhaol ar lywodraethu lleol (48% ‘do, yn bendant’ a 35% ‘do, fwy na thebyg’).
  • Y gwelliannau mwyaf cyffredin y soniwyd amdanynt oedd galluogi gwneud penderfyniadau lleol a chonsensws, a rhwydweithio/rhannu gwybodaeth. 
Gwell canlyniadau
  • Dywedodd 36% o’r ymatebwyr fod y prosiect neu weithgaredd ‘llawer gwell’, gyda 46% ‘ychydig yn well’, o ganlyniad i’r cyngor (n=50).
  • Roedd 56 o ymatebwyr wedi cael cymorth ariannol, a 43% o’r rhain wedi dweud na fyddai’r prosiect wedi digwydd mewn unrhyw ffordd heb y cymorth hwnnw. Dywedodd 45% arall y byddai wedi symud ymlaen ond ar raddfa lai neu dim ond rhai elfennau ohono.
  • Mae LEADER hefyd yn cael effaith trwy’r prosiectau a’r gweithgareddau y mae dull LEADER wedi’u treialu ac/neu eu cychwyn sydd wedyn maes o law yn cael eu hariannu gan ffynonellau eraill (y cyfeirir ato’n aml fel rhai ‘prif ffrydio’). Mae’n bosibl na fydd y prosiectau/gweithgareddau hynny’n bodoli (neu y byddent wedi cymryd mwy o amser i’w datblygu, neu ni fyddent mor effeithiol, ac ati) heb y cymorth a roddwyd iddynt gan LEADER yn ystod y cyfnod peilot/prototeip.

Mae effaith y prosiectau unigol a’r cynllun, serch hynny, bob amser yn effaith lleol a phrin y gellid ei ddisgrifio yn ‘aruthrol’; nid dyna bwrpas LEADER. Mae angen ystyried canlyniadau LEADER hefyd drwy ddeall y rôl y cynlluniwyd y cynllun i’w cael o fewn RDP Cymru, lle y’i disgrifir i fod ‘wrth galon taith yr RDP’ ac wedi’i gynllunio i fod yn llwybr i’r RDP ar gyfer cymunedau a rhanddeiliaid na fyddent o bosibl yn manteisio ar yr RDP trwy lwybrau eraill.

Gellir gweld astudiaethau achos ar gyfer prosiectau a gweithgareddau a ariannwyd yn ystod cyfnodau blaenorol y rhaglen yn y prif adroddiad a’r adroddiad technegol, ac maent yn dangos y canlyniadau tymor hwy y gall gweithgarwch LEADER esgor arnynt. Mae’n amlwg hefyd fod manteision i barhad sefydliad sy’n gweithredu LEADER dros gyfnod hir.

Fel y nodwyd yn flaenorol, mae prosiectau a gynhelir fel rhan o gynllun LEADER yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â Themâu ac Amcanion Trawsbynciol Llywodraeth Cymru a’r RDP, gyda nifer o brosiectau, er enghraifft, yn cefnogi datblygiad yr iaith Gymraeg. Mae hyn yn dangos y rôl y gall LEADER ei chwarae wrth gyflawni amcanion rhaglen/amcanion cenedlaethol ac, yn bwysig, wrth dynnu cymunedau lleol yn uniongyrchol i mewn i ddatblygu a chynnal prosiectau o’r fath. Ymhellach, mae gweithgarwch o fewn LEADER sy’n cyflawni pob un o amcanion llesiant Llywodraeth Cymru, ac mae’r ffordd y mae LEADER yn cael ei gynnal yn cyd-fynd yn llwyr â’r ‘ffyrdd o weithio’ a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: hirdymor, integreiddio, cynnwys, cydweithio ac atal.

Argymhelliad 14

Dylid ystyried LEADER yn ddull ehangach o ymdrin â datblygu lleol dan arweiniad y gymuned (CLLD) ac nid fel rhaglen neu gynllun unigol. Wrth symud ymlaen ar lefel ehangach, dylid ystyried LEADER/CLLD yn fecanwaith/dull ar gyfer cyflawni blaenoriaethau llywodraethol yng Nghymru, gan gynnwys y rhai yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn hytrach na dim ond yn rhan o unrhyw raglen datblygu gwledig ar gyfer Cymru yn y dyfodol. Fodd bynnag, dylid cynnal dull LEADER ‘yn ei gyfanrwydd’ heb ei wanhau. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i roi cyllid hirdymor i GGLlau i gynnal gweithgareddau LEADER/CLLD.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Endaf Griffiths, Dr Nina Sharp, Sam Grunhut (oll yn Wavehill), yr Athro Mike Woods (Prifysgol Aberystwyth) 

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm ymchwil, monitro a gwerthuso
Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 1/2023
ISBN digidol 978-1-80535-240-2

Image
European agricultural fund for rural development

 

 

 

 

Image
GSR logo